Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf. XXI. AWST, 1858. Rhif. 248. ixni\àm u j»spra- Y DIWYGIAD CREFYDDOL, A DYLED- SWYDDAU YR EGLWYSI GYDA GOL- WG AR HYNY. Ychydig sylwadau a draddodwyd ar y pwnc yn Nghyfarfod Dosbarth y T. C. yn NewarJc, Ohio, Mai 23, 1858; y rhai a gyhoeddir ar gais un- frydol y Cyfarfod. Mae y testyn yn ddwy ran, ond fod y naill ûiewn cysylltiad priodol a'r llall. Nis gwn am ddim mwy priodol i'w osod dan sylw yr eg- Iwysi mewn tymhor o Adfywiad ar grefydd, ûag ymholi am eu dyledswyddau neillduol yn ' yr amgylchiad hwnw. I. Yb Adfywiad Crefyddol. 1. Mae'r adfywiad erbyn hyn wedi cyrhaedd, y rhan fwyaf o Daleithau yr Undeb American- aidd, yn enwedig y rhai Gogleddol; ac hyder- Wn y cyrhaedda y rhai Deheuol hefyd yn ei rymusder mwyaf. Credym y gwnelai adfywiad gwirioneddol ar grefydd fwy tuag at ryddhad cyffredinol y caethion Negröaidd, nag unrhyw gynllun o ddyfais dynol a gynygiwyd hyd yn ûyn i'r dyben hwnw. Cyhoeddir yn awr fod tua chan mil o eneidiau wedi eu hychwanegu at yr eglwysi Americanaidd. Ac er y byddai yn rùy obeithiol i ni allu credu fod yr holl ych- ^anegiadau hyn yn Ddwyfol a chadwedigol, cymer y gelyn-ddyn fantais i hau efrau yn *ahlith y gwenith, megis gynt, a delir y drwg a'r da yn rhwyd fawr yr Efengyl, eto pe Qad arosai ond un o bob ugain, neu un o bob «aner cant, y mae yn adfywiad teilwng o sylw, groesaw, Uawenydd a moliant gwresocaf yr eglwysi. 2. Ymddengys mai trwy adfywiadau achlys- urol ar grefydd y mae'r ychwanegiadau at yr eglwysi yn cymeryd lle yma, yn benaf, fel yn Nghymru; ac yn wir yn mhob oes a gwlad, a than oruchwyliaeth yr Efengyl megis dan yr oruchwyliaeth gysgodol, gyda'u bod yn myn- ychu ac yn cryfhau fel y maent yn nesu at ad- fywiad mawr y Milflwyddiant. Adfywiad mawr a nodedig ar grefydd oedd yr ymfudiad o'r Aipht; yr un modd y dychweliad o Babilon Gyda hyny ceir cofnodau aml o ddirywiadau ac adferiadau ar grefydd yn amser y Barnwyr a'r Brenhinoedd. Adfywiad nodedig mewn can- lyniad i fedydd Crist yn y tywalltiad o'r Ys- bryd ar yr Apostolion, gafwyd yn Jerusalem, ar ddydd y Pentecost, yn sylfaeniad Cristionog- aeth yn' ei gwedd sylweddol ac Efengylaidd. Go anaml y bu'r adfywiadau wedi hyny dros ystod rhai canrifoedd—gorfu ar y " wraig a'j baban " ffoi i'r diffaethwch—ond cafwyd di- wygiad nerthol iawn yn amser Luther, Melanc- thon, Calfln, Zuinglius ac eraill, yr hwn a elwir y Brotestanaidd, yn yr unfed-ganrif-ar-bym- theg; ac wedi hyny y diwygiad mawr yn am- ser Wesley a Whitfield yn Lloegr, a Harries a Rowlands yn Nghymru, yr hon a elwir y Feth- odistaidd, yn y ddeunawfed ganrif; ac nid yn mhell o'r un amser y diwygiad mawr a nodedig yn y wlad hon trwy offerynoliaeth Whitfleld, Tennents, Stoddard, a'r Llywydd Edwards. Mae America wedi bod yn enwog er ÿs oesoedd am yr adfywiadau hyn—■" Yr amseroedd i or- phwys o olwg yr Arglwydd "—yn ol y cyfieith- iad Saesonaeg " Amseroedd o adfywiad o olwg yr Arglwydd." Golwg arno ef. trwy oleuni ei