Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

J JLJ Cyf. XXI. RHAGFYR, 1858. Rhif. 252. %mí\ùsxL a jrapa». CYNGHOR A DRADDODWYD AB NEILLDÜAD Y BRODYR EBKN- EZER SALISBÜRY A RIGHARD ISAAC I GYFLAWN WAITH Y WEINIDOGAETH, MEDÍ 9FED, 1858. Nid wyf byth yn sefyll i fyny i.geisip traddodi cynghor i'm brodyr yn y weinidogaeth, nad yw dywediad Ioan Fedyddiwr wrtli yr Arglwydd yn taro yn effeithiol ar fy meddwl: " Y mae ariiaí' íi eisiau í'y medyddio genyt ti, ac a ddeui di ataf fi?" Felly mae arnaf finau eisiau íÿ nghynghori a'm siarsio genycli chwi, ac a ddeu- wch chwi ataf fi ?" Ac fel yr wyf yn hen- eiddio, teimlwyf yr angen yn llawer iawn mwy. Ond inae'n dcbyg mai " Gad yr awr hon" yw hi, er mwyn cyflawni y ddefod arferol ar yr achlysur hwn eto. Ac y mae un fantais o werth yn y gorchwyl o ymbarotôi i'ch cyfarch chwi, sef adnewyddu a gwasgu yn fwy difrifol ddy- ledswyddau. y wcínidogaeth ataf fy hun. Y geiriau Ysprydoledig a gymeraf yn sylfaen i'm cynghor a welir yn 1 Tim. iv. 16 : " Gwylia arnat dy imn, ac ar yr athrawiaeth ; aros yu- ddynt: canys os gwnai hyn, ti a'th gedwi dy hun a'r rhai a wrandawant arnat." Mae y geiriau yn rhan o gynghor hcn wein- idog i weinidog ieuanc eisocs, ac felly y mae genym awdurdod Dwyfol i'w harferyd ar yr achlysur hwn. Nid wyí' yn meddwl eu cyf- uewid mewn un modd, ond ceisio eu hegluro a'u cymhwyso: ac hyderwyf na chä dim íod yn yr eglurhad ychwaith ond a fyddo o gymcradwy- aeth y gair dwyfol. Yr ocdd Timotheus wedi cael ei neillduo i'r swydd o efengylyddu o'r blaen, ac wedi bod yn cyd-deithio llawer â Paul yn y cymeriad hwnw ; ond yn awr yr oedd wedi cael ei adael ar ol yn Ephesus. i gymeryd gofal yr cglwys yno mewn modd mwyneillduol a seíÿdledig ; gan hyny yr oedd maAvr angen cynghorion ychwanegol arno. Felly cliwithau, fy mrodyr, er eich bod wedi llafurio yn y weinidogaeth dros rai blynydd- oedd, eto yn awr y gelwir arnoch mewn modd penodol i gymeryd gofal bugeiliawl yr eglwysi. Yr oeddycii yn bregethwyr o'r blaen, gelwir chwi yn awr i fod yn fugeiliaid hefyd. Nid wyí' yn amheu nad oeddych yn gweini swydd bu- geiliaid o'r blaen, ond y mae yn ddiau genyf mai eich parodrwydd a'ch cymhwysder i hyuy barodd alwad yr eglwysi arnoch at hyny heddyw mewn modd mwy neillduol; eithr yn awr y cysylltir gorchwyl y bugeilio ac holl ranau y weinidogacth at orchwyl y pregethu mewn modd swyddogawl yn eich amgylchiad chwi. Gan hyny, dywedaf wrthych yn ngeiriau Paul wrth henuriaid Bphesus-: " Edrychwch gan hyny ar- noch eich hunain, ac ar yr holl braidd ar yr hwtì y gosododd yr Yspryd Glân chwi yn olyg- wyr i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a bwrcas- odd ei'o â'i briod waed."* Cynwysa ein testyn, heblaw y cynghor, add- ewid wert'hfawr yn auogaethol iddo. Y Cyng- hor yw — " Gwylia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth ; aros ynddynt." A'r Addewid gysylltiedig yn anogaethol iddo yw—" Canys os gwnai liyn, ti a'íh gedwi dy hun a'r rhàî a wrandawant arnat." I- Y Cynghor—" Gwylia arnat dy hnn ac ar yr athrawiaáhP Caníÿddir mewn cysylltiad â'r cynghor, dri pheth teilwng o fanylu arnynt: Ei natur—ei wrthddrychau—ei barhad. 1. Y Cynghor yn ei natur—" Gioŷlia.'' Cy- nwysa hyn— (1.) Effrodeb. Peth croes iawn i gysgu yw Actau xx. 28.