Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL Cyírol XXII.] IONAWE, 1859. [Rhifyn 5353. Traethodau a Hanesynau. YR HANESYDDIAETH YSGRYTHYROL. Y CAETHTWED YN BABILON. PENSOD LXXIY. [Parhad tudal. 286—Cyf. tej Er mwyn gwneyd yr hanesyddiaeth yn fwy dealladwy, os gallwn-, i ddarllenwyr ieuainc y Cyfaill, cymerwn adolwg am fynud ar y ddwy deyrnas Hebreaidd. Pel y gwelsom, daríü i deyrnas Israel, ar farwolaeth Solomon ac es- gyniad Rehoboam ei fab i'r orsedd, ymranu yn ddwy deyrnas. Rhanwyd gwlad fechan Ca- naan, gwladwriaeth Israel, yn ddwy ran an- nghyfartal. Gelwid y rhan ogleddol, yr hon oedd yn eyraedd o fynyddoedd Libanus i lawr hyd o fewn ychydig filldiroedd i Jerusalem, weithiau yn deyrnas Samaria, weithiau yn Eph- raim, ond yn fwyaf cyffredin yn deyrnas Israel; «a gelwid y rhan ddeheuol o'r wlad yn deyrnas Judah, a'i phreswylwyr yn Iuddewon. Yr oedd y deyrnas ogleddol yn llawer eangach ei thir- 'iogaeth a lluosocach ei thrigolion na'r un dde- heuol; ond sylfaenwyd hi ar y cyntaf mewn eilunaddoliaeth, ac aeth hi a'i breninoedd yn mlaen yn gyflym yn y drygioni hwn, nes add- fedu i ddinystr, a chaethgludwyd bron holl drigolion y tir i Assyria gan Salmaneser, brenin Ninifeh, yn mhen 257 o flynyddoedd wedi ei sylfaenu gan Jeroboam, mab Nebat, lle y darfu am danynt byth fel cenedl, a phoblog- yd eu gwlad gan baganiaid o Assyria a manau ereill. Ac er fod teyrnas fechan Judah wedi ei lefeinio drwyddi â'r un anwiredd, eto yr oedd iddi hi yn awr ac eilwaith freninoedd duw- iol iawn, megys Hezekiah, Josiah, ac ereill, y rhai fuont yn eu dydd yn foddion i ddiwygio y wlad, ac attal, am dymorau byrion, rediad y cenllif dinystriol; ond myned waeth-waeth yr oeddynt hwythau, nes gwneyd i fynu fesur eu hanwiredd, ac yn mhen 130 o flynyddoedd ar ol dinystr eu chwaer, anfonwyd hwy am 70 o flynyddoedd i Babilon, lle y dysgwyd iddynt wers nad annghofîasant byth. Ond yr oedd yr Arglwydd wedi gwystlo ei addewid i Judah, yr hyn na wnaethai i Israel, y byddai iddo eu hadferu yn ol i'w gwlad, ac na phallai deddfwr o Judah hyd oni ddeuai y Messiah. Goruchwyliaeth geryddol oedd hon ar Judah, am eu heilunaddoliaeíh, er eu di- ddyfnu oddiwrtho ; ond goruchwyliaeth farnol ydoedd ar Israel, i'w dinystrio byth fel cenedl. Cyn eu hanfoniad i Babilon, yr oedd yr luddew- on yn llawn ysfa barhaus am fyned ar ol eilun- od. Dymunent, y mae yn wir, gael eu galw ar enw yr Arglwydd, o herwydd yr amddiflyn da oedd dan ei gysgod ; ond hoffent eilunod yn eu calonau, er mai prin yr addeíid hyny. A chan mai eilunod a hoffent ac a fynent, anfonodd yr Arglwydd hwynt i Babilon, i gauol eilunod, lle y caent eu gwala a'u gweddill o eilunod, a dim ond eilunod, a buan y cawsant ddigon ar ei- lunod am byth. Cawsant y fath gyfog ar eilun- addoliaeth yn Babilon, fel nad oes genym hanes am gymaint ag un Iuddew yn eilanaddolwr byth ar ol hyny ; a dyma oedd amcan yr Ar- glwydd yn eu hanfon yno am 70 mlynedd,—nid i'w dyfetha yn llwyr, ond i'w diddyfnu yn llwyr oddiwrth yr anferthwch hwnw. Bu Nebuchodonosor yn cyd-deyrnasu â'i dad, Nabpoblasar, am ddwy flynedd. Cyfrifai yr Iuddewon o ddechreu y cyd-deyrnasiad, a'r Babiloniaid, yn nghyda lìyír Daniel, o farwol- aeth ei dad ; ac yn y flwyddyn gyntaf o'r cyf- rif Babilonaidd, a'r drydedd o'r cyfrif Iuddew- ig, y dechreuodd y deng mlwydd a thriugain, pan y cymerwyd Daniel y prophwyd a'i gyfeill- ion i Babilon. Mae y gẃr anwyl a hynod hwn yn cael ei ddal o'n blaen yn yr hanes am agos i 75 o flynyddoedd. Gwelodd ef amser cyn de- chreu ac wedi darfod y caethiwed. Bernir ei fod gerllaw 18 mlwydd oed pan y cymerwyd et' o wlad ei enedigaeth i Caldea. Cadwyd ef a'i gyfeillion am dair blynedd mewn ysgol rag- barotoawl, ac yna gwnaed hwy yn ystafellydd- ion i weini ar y gŵr mawr, brenin breninoedd,