Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyfrol XXII.] CHWEFEOE, 1859. [Rhify-n. 854. Traetliodaii a Hanesynau. YR HANESYDDIAETH YSGRYTHYROL. Y CAETHIWED YN BABILON. PENNOD LXXV. [Parhad tutlal. 3.] Pan oedd Ezekiel yn mysg y gaethglud dlawd Wrth lan afon Chebar, a nemawr gwell ei fyd, os dim, na hwythau, yr oedd Daniel yn troi feì seren o'r maintioli mwyaf yn mysg mawrion y deyrnas Babilon. Pan oedd Daniel o gylch 55 mlwydd oed, ac wedibod yn Babilon am yspaid 37 o flynyddoedd, galwyd arno î ddeongli gwel- edigaeth y brenhin Nebuchodonozor am y pren mawr, pryd y tarawyd y brenhin brenhinoedd â gwallgofrwydd, ac y tröwyd ef i bori gwellt y ddaiar ochr yn ochr â'r anifail am saith mly- ûedd o amser ; ac yn niwedd yr yspaíd maith hwn, yn ol gair y prophwyd, adferwyd ef ar unwaith i'w synwyr a'i fawredd digyffelyb Waenorol, ac yn nghylch blwyddyn ar ol hyn Eiae yn marw. Cawn Daniel yn fuan ar ol ei ödehongliad o'r weledigaeth hon yn trigianu yn ninas Susan yn Elam, wedi ei anfon yno, debygid, yn Llywodraethwr ar y Dalaith hono. Yr oedd erbyn hyn yn 60 mlwydd oed, a theb- ygol mai yma y cafodd y weledigaeth am y Pedair Brenhiniaeth fawr y sonir cymaint am danynt, sef y Babiloniaid, y Persiaid, y Groeg- iaid, a'r Rhufeiniaid. Yno heíyd y cafodd y weledigaeth am yr hwrdd deugorn, sef y Med- iaid a'r Persiaid, a'r bwch uncorn, sef Alexan- der Fawr. Bu yno ar y cyfan am dros yspaid Wyth mlynedd. Yr oedd Nebuchodonozor fawr ac enwog wedi marw bellach, a'i ddylyn yn y frenhiniaeth gan Evilmerodach ei fab, yr hwn wedi iddo deyrnasu ddwy flynedd, a laddwyd gaa ei ddeiliaid ei hun, o herwydd ei afradlon- rwydd a'i greulondeb, a dylynwyd ef yn y llyw- odraeth gan ei frawd-yn-nghyfraith, yr hwn oedd ddyn rhagorol, ond a laddwyd mewn rhy- fcl ar ol teyrnasu pedair blynedd ; a dylynwyd ef gan Belsasar, ŵyr i Nebuchodonozor, yr hwn a ddaliodd y deyrnwialen dros ddwy-flynedd-ar. bymtheg, sef hyd yr amser y cymerwyd dinas Babilon gan Cyrus y Persiad, ac y lladdwyd Belsasar ar y noswaith byth-gofiadwy yr ym- ddangosodd y darn llaw yn ysgrifenu ar galch- iad y pared. Mae yn ddiameu mai Cyrns oedd y prif weithredydd yn y rhyfel yn erbyn Babi- lon, ac mai efe a'i henillodd. ond yn lle gwiso'o- y goron ei hunain rhoddodd hi ar ben ei ewythr a'i dad-yn-nghyfraith, Darius y Mediad; ond yn mhen dwy flynedd ar ol darostwng Babilon mae Darias yn marw ac yn gadael y cyi'an yn nwylaw Cyrus. Y pryd hyny mae 70ain mly- nedd, amser Caethiwed Judah yn dyfod i fyny, ac ar ei esgyniad i'r orsedd mae Cyrus yn cy- hoeddi. eu rhyddhad. Pan anfonwyd Daniel i Susan yr oedd y Dalaith hono o dan lywodraeth Babilon, a bu ef yno yn ei Uywodraethu am o wyth i ddeg mlynedd, ond wedi i Babilon golli Nebuchodonozor, ac i'w olynwyr diwerth gym- eryd y llywodraeth, mae y Mediaid yn dechreu codi eu penau, ac yn fuan yn gwrthryfela, pryd mae Daniel yn dychwelyd^yn ol i Babilon lle y cawn ef yn byw yn neillduedig pan y galwyd am dano gan Belsasar i ddarllen yr ysgrifen-law ofnadwy. Ymddengys nad oedd yn adnabydd- us i'r brenhin hwnw, gan y newidid y doethion neu y cynghorwyr, meddir, ar newidiad y bren- hin. Yr oedd fel y gwelsom wedi bod flynydd- oedd lawer o Babilon, a phan ddaeth adref yn ol nid oedd yn amlwg yn ŵr llys fel cynt; ond yr oedd mam y brenhin, yr hon a elwir yn yr hanes yn frenhines, yn cofio am dano ac yn eithaf adnabyddus o hono. Yr oedd Daniel bellach yn hen ŵr gerllaw 90 mlwydd oed, ac ar ddarostyngiad Babilon gan Cyrus mae Darius yn symud y llys i Susan, ac y mae yn eglur i Daniel hefyd symud yno gyda'r pendeflgion er- aill, a thebygol fod Darius a Cyrus yn ei ad- nabod, ac yn gwybod ei werth er pan fuasai yn Hywyddu yn Susan o dan frenhinoedd Babilon, ac y mae yn ebrwydd yn cael ei ddewis yn brif