Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyfrol XXII. HYDEEF, 1859- ühifyn 26S Traetliodau a Hanes'ynan. YR HANESYDDIAETH YSGRYTHYROL. Y CYFN0D RHWNG Y DDAÜ DESTAMENT. PENNOD LXXIX. [Parhad tudal. 315.] Wedi ymdroi rhyw gymaint yn Palestina, mae Alexander yn myned yn mlaen i'r Aipht, yr hon sydd yn ei dderbyn gyda y Uawenydd mwyaf. Yr oedd eu casineb tuag at y Persiaid y fath, fel yr oeddynt yn barod i dderbyn un- rhyw gyfnewidiad er mwyn cael eu hiau hwy oddiar eu gwarau. Pan yn yr Aipht, mae Alexander yn cymeryd yn ei ben i dalu ym- Weliad â theml glodfawr Jupiter Olumpus, yn anialwch Lybia, er cael gan y duw dychymyg- ol hwnw gyhoeddi ei fod yn íab iddo ; ac er sicrhau ei neges, mae yn anfon cenhadwr o'i flaen, i lygru a gwobrwyo yr oífeiriaid oedd yn y deml, i gael gan yr Oracl roddi atebiad ífafr- ìol iddo. Pan yn yr Aipht, mae yn gweled lle cyfleus i adeiladu dinas fasnachol—mae yn tynu ei chynllun, ac yn gorchymyn dechreu adeiladu yn ddioed, a galwyd hi ar ei enw, yn Alexandria. Cynyddodd y ddinas newydd i fod yn hynod mewn hanesyddiaeth, ac y mae hyd heddyw yn ddinas o gryn enwogrwydd yn yn mysg dinasoedd y byd. Ar ei ddychweliad o hynt o deml Jupiter, mae yn gorchymyn casglu yn nghyd o bob cwr o'r byd, ddynion i boblogi ei ddinas newydd ; ^c yn eu mysg daeth lluaws mawr o Iuddewon, a chawsant ganddo bron bob rhagorfraint a ädymunent. Erbyn hyn yr oedd Darius, er ei üoll fawredd a neth ei deyrnas, yn bryderus aQi ddod i ammodau heddwch a'r buddugol- iaethwr ieuanc. Ceisiai hyn unwaith ac eil- ^aith, ond yn gwbl ofer. Yna mae yn pen- derfynu gwneyd un ymdrech fawr, egniol; yn casglu ei holl luoedd (bron dirif) yn nghyd, ac yn myned o flaen ei fyddin tua Ninifeh. Mae Alexancler yn dylyn ar ei ol, ac ymladdwyd brwydr yn agos i bentref Guagmola; ond gelwir hi brwydr Arab, gan mai hono oedd y ddinas agosaf i faes y frwydr, lle yr enill- odd y " Bŵch-un-gorn" yn ol y Prophwyd Daniel fuddugoliaeth fawr ar luoedd Persia. Er nad oedd y Groegiaid ond prin un yn mhen ugain i'r Persiaid, cyflawnwyd yma broffwyd- oliaeth Daniel i'r llythyren. Gwel pen. vii. 6 ;. a viii. 5, 7. Mae Darius yn awr yn cilio i Media, a dylyn- wyd ef gan Alexander, am gryn bellder ; ac yna mae yn troi i Babilon, ac yn ymroddi i loddest a meddwdod. Clywai yn Babilon fod Darius yn casglu ei fyddinoedd yn nghyd yn Media, gyda bwriad i seíýll brwydr arall ag ef; ac y mae yn ddioed yn anelu ei lwybr tuag ato, gyda'i fyddin o Facedoniaid gwrol; ond ffôdd Darius i Parthia, ac Alexander ar ei ol. A phan oedd yn agos a'i oddiweddyd, mae gweision Darius ei hun yn rhoddi terfyn ar ei fywyd, ei waith, a'i ofidiau. Pan ddaeth y buddugoliaethwr i olwg ei gorph gwaedlyd, mae yn wylo yn hidl uwch ei ben, ac yn gorchymyn ei gladdu yn anrhydeddus. Fel hyn dymchwelwyd Ymerodraeth Persia, wedi iddi barhau er. amser Cyrus, o gylch 200 ml., Nid hir iawn ar ol hyn y bu y concwerwr mawr ei hun cyn cyfarfod a'i drech, sef brenhin y dychryniadau. Wedi gwneyd hynt orwyllt cyn belled a'r India, a gorchfygu a dychwelyd pawb a phob peth o'i flaen, mae yn dychwelyd i Babilon; ac yn ymroddi drachefn i bob gloddest ac yn- fydrwydd—yr hyn cyn hir a ddygodd arno dwymyn angeuol; ac felly bu farw C. C, 323. Ar farwolaeth Alexander fawr wedi llawer o aahrefn, mae yr ymerodraeth ëang a enillasai yn cael ei ì'hanu rhwng pedwar o'i faes-lywydd-