Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyírol XXVII. CHWEFEOR, 1864. Rliifyir 314. GENESIS A'I GYNNWYS. Amcun yr awdwr—Y Greadigaeth—Y Brofeä- aeth a'r Owymp. DARLITH RHIF. II. Traddodwyd yn Utica, 18G3, Yn einhymdriniaeth flaenorol â'r testun, y llyfr yn unig fu dan sylw—yn ei enw, ei awdwr, a'i ddeilliad. neu Ddwyfol Ysbrydoliaeth : yr hyn a amcanwn ato yn awr yw ei gtnnwts. Wrth son am gymeryd ei gtnnwts dan sylw, pell ydym o feddwl yr oll, na'r ddegfed ran o'i gynnwys, ond detholion o'r dygwyddiadau mwyaf nodedig y cyfeirir atynt ynddo. Cyn dechreu ar hyny, efallai nad anfuddiol fyddai cyfeirio at yr hyn a ymddcngys fod yn brif AMCAN TR AWDWR wrth ysgrifenu yr hanesydd eth. Hawdd can- íbd, er fod yma hanes fòr am wreiddyn dynol- ryw yn gyffredinol. mai hanes un teulu a geir yma yn fanwl. ac yn ei amrywiol gysylltiadau. Un-ar-ddeg o bennodau a ganiateir yma i ddyn- olryw yn gyffredinol am 2083 o flynyddoedd, tra y rhoddir 39—namyn un deugain, o ben- nodau, i roi hanes teulu Abraham, er nad oedd yr yspaid ond 286 o flynyddoedd. Paham yr arweiniwyd Moses i wneyd felly ? Yr ateb eglur yw, mai ysgrifenu hanes yr Eg- lwys hono, ar ba un y mae Crist yn ben, yn hytrach nag hanes tarddiad a dylifîad cenedl" oedd y ddaiar, oedd amcan yr Awdwr Yspryd- oledig. Fel deddf-roddwr, sylfaenydd ac ad- eiladydd y Ddwyfol lywodraeth (Theocracy) dan Dduw, yr oedd yn briodol iawn i Moses ddangos pa fodd y daeth y llywodraeth hono i fod yn angenrheidiol, ac yn alluadwy. Ac felly y gwnaeth yn rhag-arweiniol i'w sefydliad. 0 ganlyniad yr ydym yn ei gael yn cymeryd ei gychwyniad o undod gwreiddiol yr hiliog- aeth ddynol, yn eu pertbynas â Duw fel ei gre- aduriaid—erys i ddangos mewn modd byr, y modd yr anafwyd y berthynas houo drwy en- ciliad a gwrthryfel y dyn cyntaf—a thrwyddo ef fel cynnrychiolydd naturiol a chyfammodol holl ddynolryw—wedi hyny daw trugaredd a grâs i'r golwg, mewn addewid o oruchafiaeth Hâd y wraig ar y gelyn ddyn, a phortreiad o ddiangfa trwy yr aberthau. Gweithreda hyn ymraniad yn raddol yn y teulu dynol—yn dufewnol yn gystal ag yn all- anol, oblegid y mae yr egwyddorion hyny a drigent yn wreiddiol yn yr oll o'r teulu. yn awr yn cael eu cyfyngu i ran o honynt; ond y mae y rhan hono yn myned rhagddi ac yn Uwyddo, er pob gwrthwynebiad. Ceir yma ddarluniad o ddyn mewn tri chyf- lwr, yn ei sefyllfa foesol: Yn gyntaf, yn ei gyf- lwr o ddiniweidrwydd a dedwyddwch gwreidd- iol, fel y deuai o dan law ei Greawdwr pur a daionus ; yn ail, yn ei gyflwr syrthiedig o bech- od a thrueni, drwy ei anufudd-dod a'i wrthryfel gwirfoddol yn erbyn ei Benadur; ac yn dry- dydd, ei gyflwr o râs a santeiddrwydd, drwy haelfrydedd anfeidrol ei Dad nefol, yr hwn gyí- lwr, dan oruchwyliaethau ei Ysbryd, a'i har- weinia i bedwerydd cyflwr. o ogoniant a mwyn- iant gyda Duw a'r Oen yn dragywydd, mewn fyd ar ol hwn. Gwnawn yn awr sylw byr ar rai o'r prif am- gylchiadau neu ddygwyddiadau y cyfeirir at- ynt yn y llyfr yma. Wrth wneyd hyny, cyf- lwynir i'n sylw yn mlaenaf T ORBADIGAETH. Fel hyn y geiria Ysbrydoliaeth Ddwyfol mewn cyfeiriad at hyny—" Yn y dechreuad y crëodd Duw y nefoedd a'r ddaiar."—Gen. 1: 1. Mor syml yr ymadrodd, ag eto mor gyn- nwysfawr y syniad. Y fath belydr o oleuni a deflir yma ar ddechreuad ac achos gwreiddiol