Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyfrol XXVn. AWST, 1864. Rliifyn 3SO. Y PRAWF ODDIWRTH WYRTHIAU. GAN Y PARCH. L. EDWARDS, D. D., BALA. Nid oes yn agos gymaint o sicrwydd am wir- ionedd un dystiolaetb a ddaeth i lawr o'r hen oesoedd, ag sydd am wirionedd y dystiolaeth yn y Testament Newydd am angau ae adgyf'- odiad yr Arglwydd Iesu, yr hyn yw maen clo y dadguddiad Dwyfol. Y mae mor amlwg â'r haul na8 gallasai yr Efengylwyr fod mewu cynghrair ; oblegid y maent mor wahanol. íel y mae llawer o'r esbonwyr goreu yn barnu nad oedd y tri chyntaf yn gwybod am ysgrif'- eniadau eu gilydd. Y mae y dybiaeth mor ffol, fel y mae yr holl anftÿddwyr callaí' erbyn hyn wedi ei rhoddi i fyuy yn llwyr. Oud os yw y gwahaniaeth sydd rhyngddynt yn profi nad oeddynt mewn cyughrair. y mae eu cytun- deb hanfodol yn brawf mor eglur nad oeddynt yn mhen oesoedd yn adrodd chwedlau oedd wedi ymgasglu o amsîylch yr hanes : ac heb- law hyny, y mae genym Epistolau wedi eu hysgrifenu tua'r un amser at eglwysi mewn gwahanol banliau o'r byd. ac wedi eu cadw yn ofalus gan yr oglwy? i hyny ; ac y mae rhai drachefn yn cymeryd yr un ffeithiau mawrion yn ganiatiiol fel gwirioneddau diddadl. Gan hyny y mae yma luaws o dystion aunibynol, yn cytuno yn hanfodol am holl amgylchiadau bywyd, a marwolaeth, ac adgyfodiad Crist; ac y mae yn rhaid, o ganlyniad, fod eu tystiolaeth yn wirionedd. ' Os oes rbai yn teimlo fod sef ydlogrwydd deddfau n tur yu rhy sicr i gau- iatäu gwyrthiau, y mae sicrwydd gwirionedd y cyfryw dystiolaeth ä hyn yn gryfach ac yn fwy diamheuol. Ond y mae egwyddor i'w chael, yr hon sydd yn symud yr holl anhawsder ; a hono yw cred- iniaeth sicr fod deddí' uwch yn bod na deddf 15 natur. Fel y mae un ddeddf mewn natur yn plygu i ddeddf uwch mewn natur. neu o'r byn lleiaf, gweithrediad y naill ddeddf yn cael ei atal neu ei lywodraethu gan ddeddf arall, pa- ham nas gallwn feddwl fod natur ei hun yn plygu i ryw ddeddf sydd uwchlaw natur ? Pa un a ydym yn íoddlawn ai peidio. y mae yn rhaid i ni gredu hyD ; oblegid os credwn dyst- iolaethau, y rhai sydd mor Bicr ag un cym- hwysiad ymarferol o ddeddfau rhif a mesur. y mae yn rhaid i ni gredu fod gwyrthiau. Ac y mae gwyrthiau yn profì. yn y lle cyntaf, fod Duw yn bod. mor sicr â phe buasem yn derbyn tystiolaeth yr angelion oedd yn wyddfodol pan ddygwyd y grëadigaeth i fod ar y cyntaf. Ond y mae yu profi mwy na hyn : y mae yn profi fod gan y Duw hwn ryw ddeddf sydd yn uwch yn ei olwg na deddf y grëadigaeth weledig. Y mae yn proli, nid yn unig ei fod yn Dduw holl- alluog. ond ei fod yn "Jehof'ah, y Duw trugar- og a graslawn. hwyrfrydig i ddig, ac aml o dru- garedd a gwirionedd ; yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddeu anwiredd. a chamwedd, a phecbod. ac beb gyfrif yr anwir yn sryflawn; yr hwn aymwêl âganwiredd y tad- au ar y plant, ac ar blant y plant. hyd y dry- dedd a'r bedwaredd genedlaeth." Yn y goleu hwn y mae i ni gael golwg gywir ar ddyben gwyrthiau. Dylom edrych arnyut, nid fel prof- ion o allu yu gymaint ag fel arddangosiad o egwyddorion moesol. Y maent yn dangos fod Dnw yn mawrhau ei air uwchlaw ei enw oll. Y raaent yn eithriadau sydd yn profi y rheol, fod Duw yn aughyfnewidiol, a'i lywodraeth av y byd yn llywodraeth sefydlog. Ond y maent yn profi hefyd f'od y llywodraeth hono yn llywodraetb foesol; oblegid dyma yr unig esboniad a ellir ei roddi ar gyfnewidiadau gwyrthiol yn y byd naturiol. Y mae yr ys- brydu, r r^bob dyn yn l'wy na'r hoil grèadig- aeth weledig, a^ . j ^nlyniad nid yw yn rhy- fedd fod deddfau ysbrydol rn íwy grymua na