Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyŵol XX^~II. MEDI, 1864. Rhifyn 331. "JOHN JONES, TAL-Y-SARN." Y mae llawer iawn o bethau yn ei gwneyd yn dra anfanteisiol yma heddyw. Dyma ddiwrnod annedwydd iawn i gynnal Cymanfa. Y mae yr hîn yn hynod o farwaidd ; y mae yr awr—dau ar gloch—yn drymllyd iawn ; y mae y niwl tew, a'r gwlith mân, sydd yn gorchuddio wy- neb yr wybren, a'r hìn mor frwd, yn ei gwneyd yn anhawdd iawn i ymgynnal yn enwedig wrth feddwl nad oes un chwâ o wynt, gymaint ag i siglo dail y coed. Y mae yn anhaws sefyll allan 'ar y maes yma yn awr nag a fyddai dan boethder tywyniad haul, pan y byddo yr awel yn lled fywiog. Y mae y gynulleidfa fawr fel pe byddai yn mron methu anadln. Y mae y bobl yn ymwasgaru i orweddian, megys mewn lludded ar y maes. Dyna ryw un yn syrthio i lewyg, ac yn cael ei godi ar y gadair. a'r ffan- au yn cael eu bysgwyd yn ei wyneb ; ac y mae hyn oll cyn pen haner awr wedi dechreu yr oedfa! Pa fodd bynag, dyna y canu drosodd. Dacw ddyn hardd, golygus a dymunol yr olwg arno, yn codi i fyny i bregethu. Y mae yn darllen ei destun gyda llais seingar, ac ychydig o dûn, "Cofia gyfodi lesu Grist o hâd Dafydd, o feirw yn ol fy efengyl i." Testun cyffrous iawn ; ond y mae yn o anhawdd cyffroi dim ar y bobl yma heddyw. Y mae y gŵr yn myned rhag ddo, ac yn ymadroddi yn bert; eto y mae pob gair fel pe byddai yn syrthio yn farw wrth ei draed ; nid yw ei eiriau yn gwneyd effaith ar ddim, ond y blinder sydd yn cael ei dynu arno ei hun. Y mae efe fel pe byddai yn digaloni, ac yn colli golwg ar y syiwadau oedd ganddo mewn bwriad i'w traddodi. Y mae yn troi yn ol ac yn mlaen at y naill beth a'r llall; ond v mae yn methu yn lân a chael gafael ar ddim. ryw fodd. Y mae yn gweitbio ei ffordd rhug- ddo trwn anialwch a dyrysni, gan ymbalfalu oreu gallo, er mwyn cael gafael ar yr Amen ryw fodd. Y mae yn terfynu, ac yn eistedd ( lawr, gan sychu ei chwys, er na threuüodd bron chwarter awr o amser. Y mae yn gollwDg ochenaid drom, gan sibrwd yn ddystaw wnho ei hun, "Wel, wel, yn ofer y llafuriais—yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth ; gobeithio y daw hi yn well gyda ynesaf; nid oes yr un gofid arnaf fi. ond ofn fort yr Achos mawrwedi cael ei iselu yn fy nwjlaw. Dacw un arall yn codi i fyny—dyn tai graenus, plaen, a dirodres, a gwyneb iachus awyr Dolyddelen ganddo. Nid yw yn gnodiog iawn. Y mae ganddo wynebpryd treiddgar ac ymddangosiad hardd, gyd ag ychydig o loereu ar uwchaf ei arleisiau, a'i wallt yn clis- gyn yn rhydd-wastad led deneu, tu ag i lawr, Y mae yn edrych yn haner digllawn—nid cîig- llawn chwaith. Y mae yn ysb'io drwy ei ael- iau weithiau. Y mae yna feddwl yn neidio allan drwy y llygaid a'r wyncbpryd yna! Dyn gwledig—nid gwledig chwaith. Dyn íebyg i ffarmwr—nid ffarmwr chwaith. Y mae yn an- hawdd gwneyd dosparth o hono. Beth bynag, y mae yna bob arwyddion ei fod ef yn rhyw un ! Y mae yn haner pesychu rhwng ei wddf a'i fynwes, ae yn rhoddi pennill allan i'w gaau: "Bywyd y meirw tyr'd i'n plith, A thrwy dy ysbryd amom chwyth;" &c. 0 ! y mae yntau wedi deall ansawdd yr hîn, feddyliem wrth ei ddewisiad o bennill. Y mae yn ysb'io drwy ei aeliau ar y cymylau niwl eto. Y mae yn ceisio dyfalu betha ddaw o hono. Y mae y canu fel sŵn dan badell. Y mae hen ŵr " Hafod-yr-afr yn methu yn lân a chael ei îais allan i gychwyn y gân, fel arferol. Y mae pibellau lleisiol y cantorion wedi haner ctegu. Y mae pob peth fel pe byddent wedi cyduno â'u gilydd i wneyd yr oedfa yn drymllyd, a'r Sassiwn yn ddigalon. Nid oes dim cerdd-