Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf. xlvi.] CHWEFROR, 1883. [Rhif. 554. Arweiniol. Y FFGYSBREN DIFFRWYTH." GAN Y DIWEDDAR BARCH. EDWARD MORGAN, DYFFRYN, G. C. «' Ac efe a ddywedodd y ddameg hon: Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blanu yn ei win- llan ; ac efe a ddaeth i 'geisio flrwyth arno, ac nis cafodd. Yna efe a ddywedodd wrth y gwinllanydd, Wele, tair biynedd yr ydwyf yn dyfod, gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn ; ac nid ydwyf yn cael dim : tor ef i lawr ; paham y mae efe yn diffrwytho y tir ? Ond efe gan ateb a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi glodd- io o'i amgylch, a bwrw tail; ac os dwg efe ffrwyth, da : onid ê, wedi hyny, tor ef i lawr."— Luc xiii. 6—9. Yr hyn a achlysurodd lefariad y ddameg hon oedd, gwaith y bobl yn mynegu i'r Ar- GLWYDD Iesu am y Galileaid, y cymysgasai Pilat eu gwaed yn nghyd a'u haberthau. Yr oedd Iesu Grist newydd fod yn traethu ar y pwys ofod yn weision ffyddlawn, ac ar ran y gwas anffyddiawn pan y deuai ei arglwydd i wneuthur cyfrif âg ef. Awgrymodd i'w wran- dawyr, y rhai a ddarlunid yn y gwas anffydd- lawn, y dylent ddeall oddiwrth arwyddion yr amseroedd fod eu Harglwydd wrth y drws ; am hyny, mai synwyr ynddynt fyddai gwneu- thur yn fawr o'r adeg fer oecid ganddynt, a cheisio maddeuant cyn y tefiid hwynt i'r car- char, o'r hwn nid oedd diangfa ond trwy dalu y ffyrling eithaf. Wrth glywed y pethau hyn, y mae rhai o'r gwrandawyr yn coffâu am y Galileaid, fe allai, fel eglurhad pellach ar yr hyn oedd wedi ei draethu, fod pechaduriaid mawrion, fel y Galileaid, yn cael eu goddi- weddyd gan farnau mawrion. Neu, gall mai eu dyben yn crybwyll hyn oedd, i gael cyfeirio at Pilat. Os gwir yr athrawiaeth y goddiwedd- id pechaduriaid mawrion â barnau mawrion, beth fydd rhan y Pilat drygionus hwn, yr hwn a fu yn achos o'r ysgelerder o dywalît gwaed aberthwyr yn gymysg â'u baberthau. Ond tebycach ydyw, mai dyben y bobl yn mynegu hyn oedd, i geisio troi sylw y pregethwr oddi- wrth eu mater personol hwy eu hunain at beth na pherthynai iddynt, yn gyffelyb fel y gwnaeth y wraig o Samaria, pan y dechreuodd geiriau y pregethwr chwilìo dirgelion ei chalon. Ond cymerodd Iesu Grist fantais ar hyn hefyd i ddwyn eu hachos personol hwy eu hunain adref at eu meddwl. Nid ydyw yn dywedyd gair am Pilat, ond yn edrych ar yr amgylchiad a goffawyd yn ei berthynas â'r bobl oedd yn gwrandaw ; ac y mae yn coffâu amgylchiad arall nad oedd a fynai llaw dyn ag ef o gwbl, sef syrthiad y twr yn Siloam; ac oddiwrth y ddau, yn dangos i'r bobl— 1. Er nad oes dyoddef heb bechod, eto nad ydym i gymeryd dyoddefiadau personol neb yn brawf o bechadurusrwydd personol mwy ynddynt hwy nag eraill. Nid oedd y Galile- aid a laddwyd gan Pilat ddim yn bechaduriaid mwy na'r holl Galileaid ; na'r deunaw a ladd-