Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf. xlvi.] MAWRTH, 1883. [Rhif. 555. ArweinioL CYNGOR I'r Parcii. E. C. Evans, M. A., ar ei Sefydliad fel Gweinidog Eglwys y T. C. yn COLLEGE ST., ClNCINNATI, O., IONAWR 14, 1883. GAN Y PARCH. LLEWELYN I. EYANS, D. D., LANE SEMINARY. Fy Anwyl FRAWD - Yr ydych yn coflo fod yr Apostol Paul, pan yn ysgrifenu at y Rhuf- einiaid (11 : 13), yn dweyd o berthynas i'w apostolaeth : "Yr wyf yn mawrhau fy swydd;" neu yn fwy llythyrenol, " Yr wyf yn gogon- eddu fy ngweinidogaeth " ("/ glorify my min- istry"—Revised Version). Nis gwn am un gwell " cyngor " ì'w roddi i chwi ar yr ach- lysur presenol, na'ch anog i wneyd yr un peth—Mawrhewch eich swydd. Gogonedd- wch eich gweinidogaeth. Neu yn ol cyngor yr un Apostol i Timotheus, " Cyflawna dy weinidogaeth " (2 Tim 4 : 5). Gwnewch eich gweinidogaeth yn llestr llawn. Llenwch hi hyd at yr ymylon, Gwnewch ddefnydd o gyflawnder ei chynwys. Rhoddwch ei boll adnoddau dan deyrnged i Dduw. Gwnewch eich gweinidogaeth yn rhywbeth cyflawn, mawr, gogoneddus. Gwnewch yn fawr o'ch swydd, ac o'ch gwaith. Y mae y prif reswm dros hyn yn gorwedd yn yr efengyl. Pethau mawr yw pethau yr efengyl. Gwtinidogaeth y pethau mwyaf mewn bod yw ei gweinidogaeth. Un mawr yw ei Hawdwr Mewn cymhar- iaeth iddo ef, y mae mawredd y greadigaeth, mawredd bodolaeth, pob mawredd, yn diflanu ac yn myned yn ddim. Mawr yw nerthoedd yr efengyl. " Nerth- oedd y byd a ddaw," nerthoedd tragywyddol- deb, nerthoedd hollalluawgrwydd—dyma y nerthoedd sydd yn gweithio ynddi. Mawr yw ei grasusau. "Yr awr hon y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn ; a'r mwyafo'r rhai hyn yw cariai "—oll yn fawr, a chariad yn fwyaf. Mawr yw yr efengyl yn ei sefydliadau. Y sefydliad anrhydeddusaf ar wyneb yr holl ddaear yw yr eglwys. Y mynydd uwchaf ei ben yn y byd yw " mynydd ty yr Argwydd." " Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Seion !" Ië, " ei gorph ef" yw yr eglwys ; " cyflawnder yr hwn sydd yn cyf- lawni oll yn oll." Mawr yw yr efengyl yn ei chanlyniadau. Y maentyn gyfesur â thragywyddoldeb. Y maent yn rhedeg yn gyfochrog â bywyd yr Anfeidrol. Y mae yr efengyl mor fawr, fel y mae yn mawrhau pob un, a phob peth, ag sydd mewn unrhyw gysylltiad â hi. j Un mawr i'w ryfeddu oedd Ioan Fedyddiwr. Yr oedd yn un mor fawr, fel y daeth angel i lawr o'r nef i bro- phwydo am ei fawredd. " Mawr fydd efe yn ngolwg yr Arglwydd (nid yn ngolwg dyn- ion; nid ar scale fach'y ddaear tyma, ond ar scaie yr Anfeidrol); ac efe a'gyflawnir o'r Ys-