Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf. XLVI.] EBRILL, 1883. [Rhif. 556. Arweiniol. CYFAILL CRIST YN HUNO, AC I GAEL EI DDIHUNO.* GAN Y DIWEDDAR BARCH. HENRY REES, LIVERPOOL. " Y mae ein cyfaill Lazarus yn huno ; ond yr wyf fi yn myned i'w ddihuno ef."-IoAN 11: u. Y mae yn anmhosibl i ddyn brofi cysuron uwch yn y bywyd hwn na theimlo fod Iesu Grist yn gyfaill iddo, ac na bydd angeu iddo yn y diwedd yn ddim amgen na huno yn yr Iesu. Y mae hyn yn beth y dichon i bechad- urei gyrhaedd; oblegid y mae Crist yn gyf- aill mewn gwirionedd i'r rhai oll sydd yn credu ynddo, ac y mae efe yn amlygu hyny hefyd. Yr oedd efe, ni a welwn, yn hoff o Lazarus, ac yr oedd pawb yn gwybod ei fod ef yn hoff o hono. Pan y byddo'r saint yn mwyn- hau sicrwydd o gyfeillgarwch Crist, mae angeu ei hunan yn colli ei ofnadwyaeth, ac yn •Clywsom y bregeth hon yn cael ei thraddodi mewn Cymanfa a gynelid yn achlysurol, lawer o flynyddau yn ol, yn Dolgellau, G. C. Yr oedd y Parch. John Hughes, Liverpool, ac yntau yn cyd-bregethu ar nos ddiweddaf y Gymanfa. Testyn Mr. Hughes oedd, "üs yw neb yn eich mysg yn cymeryd arno fod yn gref- yddol, heb atal ei dafod, ond twyllo ei galon ei hun, ofer yw crefydd hwn." Iago i : a6 Wrth derfynu, dywedai, " Wel, mae yn bryd i mi ddybenu, i roi lle i'm hanwyl frawd; fe fedr ef bregethu; ni fedra' i ddim." Yna cododd Mr. Rees, a galwodd sylw y gynulleidfa at y testyn uchod. Wedl rhagymadroddi yn bwyllus a da, dywedai, " Yr oedd fy rorawd yn dweyd y medrwn i bregethu, ond na fedrai efddim. Pe buasai yn sefyll at ei destyn, buasai yn dda iawn gen' i—atal ei dafod." Cynyrchodd y tuit wên gyffred- inol trwy y gynulleidfa; ac ni arddangosai neb fwy o 1 oddineb na Mr. Hughes ei hun,—Gol. ymddangos i'r meddwl nid yn unig yn ddi- niwed, ond y pryd hwnw yn ddymunol—yn hûn felus. Mae yr hanes a geir yma am Lazarus, yn cael ei chyflawni yn rhyw rai o'n cyfeillion yn barhaus, ac fe'i cyflawnir ynom nlnau. Yn fuan bellach, O ddyn, fe fydd y chwedl yn ymdaenu am danat tithau, "Mae hwn a hwn yn glaf," ac yn cael ei dilyn gan y newydd, " Bu farw Lazarus." Byddai yn gysur yn wir i ti yn nynesiad marwolaeth gael deall fod dy gyfeillion yn anfon at yr Arglwydd Crist yn dy achos, ac yn gallu dweyd yn eu gwedd- iau, " Wele, y mae'r hwn sydd hoff genyt ti yn glaf." A bydd yn gysur mwy drachefn os byddi yno yn profi ei fod ef ei hun yn dweyd am danat, "Ein cyfaiil." A'th ddedwyddwch annhraethadwy, pan wedi gollwng yr anadliad olaf, a fydd i'r Iesu dy gydnabod, gan ddy- wedyd, " Y mae ein cyfaill yn huno; ond yr wyf fi yn myned i'w ddihuno ef." Y mae yn yr ychydig eiriau hyn. fel y gwel- ais sylw gan un gwr enwog, y swyn mwyaf nerthol yn y byd i leddfu chwerwder marwol- aeth, ac i'n gwneyd yn gyfryw ag y gallem feiddio yn ostyngedig eu cymwyso atom ein hunain. Gallwn weled tynerwch Crist yn ffrydio trwy bob gair. Yn gyffelyb i gyfaill