Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf. xlvi.] GORPHENAF, 1883. [Rhif. 559. Arweiniol. PRIODOLEDDAU CARIAD. GAN Y PARCH. EDWARD J. HUGHES, WEST BANGOR, PA. " Y mae cariad yn hir-ymaros, yn gymwynasgar; cariad nid yw yn cenfigenu; nid yw cariad yn ymffrostio, nid yw yn ymchwyddo. Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd, nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun; nì chythruddir, ni feddwl ddrwg. Nid yw lawen am anghyfiawnder, ond cyd-lawenhau y mae â'r gwirionedd; y mae yn dyoddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeith- io pob dim, yn ymaros â phob dim."—I CoR. xiii. 4—7. Y cwestiwn y mae llawer un yn ei ofyn iddo ei hunan ydyw, A yw cariad Duw wedi ei dywallt yn ei galon ? Nid yw yn rhyfedd fod y cyfryw gwestiwn yn cael ei ofyn gan yr ymof- ynydd pryderus am iachawdwriaeth, gan ei fod yn gwir ddymuno bod yn debyg i Dduw. 0 herwydd od oes neb yn amddifad o'r eg- wyddor hon, neu os na chaiff feddiant o honi yn nydd gras, bydd yn ysgymunedig a melldig- edig am byth. Ac o'r tu arall, os yn feddian- 01 arni, caiff fwynhad o bob gwynfyd am dra- gywyddoldeb. Canys megys y mae yn ysgrif- enedig, "Ni welodd llygad, ni cblywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarpar- odd Duw i'r rhai a'i carant ef. Y mae y cyf- ryw ofyniad yn atebadwy yn ngoleuni y gwir ionedd, trwy i'r ymofynydd ddal ei brofiad yn deg yn ei wyneb; canys lle bynag, yn mha galon bynag, y mae yr egwyddor hon yn llyw- odraethu, y mae yn dwyn teimladau ac ym- ddygiadau y cyfryw berson i fod yn ol Duw. Pan ddywedir, megys yn y testyn, fod cariad fel hyn, neu fel arall, nid yr egwyddor wrthi ei hunan a olygir, ond yr egwyddor yn y dad- blygiad o honi, yn ei pherthynas â'r person neu y personau fyddont dan ei llywodraeth. Dangosir yn y testyn, er fod i'r cyfryw ei wrthwynebwyr yn mhersonau "dynion anhyw- aith a drygionus" yn y byd, ac weithiau o fewn cylch gweledig yr eglwys, ei fod yn araf i ddi- al ei gam, gan ddysgwyl edifeirwch a chyd- nabyddiaeth o'r bai. Nid ydyw yn " gyflym ei ysbryd i ddigio," ac y mae yn fwy araf fyth yn dial: "Y mae cariad yn hir-ymaros." Meg- ys y mae cariad yn Nuw, felly y mae yn y dyn duwiol, yn "hir-ymarhous, heb ewyllysio i neb fod yn golledig, ond dyfod 0 bawb i edifeir- wch." Hawdd gan yr hwn sydd dan lywodr- aeth yr egwyddor nefol hon wneyd daioni i hyd yn nod ei elynion, yn hytrach na dial ar- nynt yn gadarnhaol, nac yn nacâol. Y pleser mwyaf y mae yn ei fwynhau yw, " pentyru marwor tanllyd" cymwynasgarwch ar eu pen- au. Yn hyn eto y mae yn ymdebygoli i'w Dad, yr hwn sydd yn y nefoedd, yr hwn, o herwydd daioni ei natur, sydd yn peri i'w haiul gyfodi ar y drwg yn ogystal ag ar y da, ac yn gwlawio bendithion ei ragluniaeth ar yr än-