Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf. XLVI.] AWST, 1883. [Rhif. 560. Arweiniol. ADG0FI0N AM Y DIWEDDAR BARCH. EDWARD R. JONES, M. A. * OAK HILL, JÂCKSON CO., OHIO. Gan yr Anrhyd. Thomas Lloyd Hughes, Oak Hill, O. Ganwyd gwrthddrych yr adgofìon hyn yn Ynys-reidiol, gerllaw Aberystwyth, D. C, yn y flwyddyn 1846. Ei rieni oeddynt Abraham a Catherine Jones. Mae ei dad yn frawd i'r diweddar Barch. John Jones, Glanlery, ac yn nai i'r diweddar Barch. Edward Jones, Aber- ystwyth, gwyr enwog yn eu dydd yn Nghyfun- deb y Methodistiaid Calfinaidd, ac yntau ei hun yn ddiacon nid anenwog yn nghapel y Graig, yn yr un gymydogaeth. Felly yr oedd Edward ieuanc yn Fethodist o Iwyth a theulu. Amaethwr deallus a chyfrifol oedd ei dad, a bu ei fam farw pan oedd Edward yn fachgen- yn. Bu i'r rhieni ddeg o blant, yn feibion a merched, y rhai erbyn hyn sydd yn wasgared- ig- rhai yn Nghymru, rhai yn America, a rhai yn y bedd. Darlunia y tad, yn ei lythyr atom, ei helbul ar yr adeg y collodd ei briod, gyda deg 0 blant i ofaluam danynt,a rhoddi addysg briodol, yn ol ei allu, i bob un o honynt i gychwyn ar yrfa bywyd. Un peth pwysig oedd cael allan du- *Cyhoeddir y cofiant rhagorol hwn am y brawd ieuanc enwog, yn unol a phenderfyniad CymanfaOhio. Er ei fod braidd yn rhy faith i gylch terfynau ein Cylchgrawn, eto teimlwn ein rhwymedigaeth i ufudd- hau i'r "awdurdodau goruchel," a hyny yn fwy o her- wydd gwir deilyngdod y gwrtbddrych.—Gol. edd naturiol y naill a'r llall, pa alwedigaeth a fyddent yn debyg o ádewis. Dewisai un fyn- ed yn ysgolfeistr, un arall yn siopwr, un yn forwr, a dau eraill drachefn a'u tuedd at ffarm- io gyda eu tad. " Ond yr oeddwn," meddai, "yn methu yn lân a deall at ba beth y tueddai Edward Ffarmio ni fynai, a buasai braidd yn galed gorfodi un mor egwan i drin y gaib a'r rhaw, a'r aradr drom. Mae yn wir y gweithiai ei oreu gyda ei frodyr ar y fferm, ond yr oedd mor ddiofal fel nad ellid ymddir- ied fawr iddo am ddiwrnod o waith. Yna meddyliais am ei roddi yn brentis o siopwr yn Aberystwyth, ac yno yr aeth; ond yn mhen y pythefnos wele ef yn dod adref wedi gorphen ei brentisiaeth, ac yn ei lyfrau y mynai fod. Bellach gwelwn mai y peth doethaf a allwn wneyd oedd rhoddi ychwaneg o ysgol iddo, ac anfonwyd ef i ysgol Frytanaidd a gedwid yn Penllwyn, ryw chwe' milldir oddicartref. Nid oedd hono yn ei foddio, yr oedd yn rhy esmwyth ganddo—dim digon o waith. ' Yna cafodd fyned i ysgol Ramadegol yn Aberys- twyth, a gedwid gan un Mr. Edward Jones. Gwnaed yno ddosbarth o hono ef ac un l&nc arall oddeutu yr un oed, i ddysgu Lladin a Groeg; ond yr oedd hwnw wedi bod yno gryn araser o'i flaen ef, ac felly wedi cael mantais