Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyp. xlvl] MEDI, 1883. [Ehif. 561. Arweiniol. PREGETH ANGLADDOL Y PARCH. REES EVANS, CAMBRIA, WIS., YR HON A DRADDODWYD AR GAIS Y TEULU, YN NGHYMANFA OSHROSH, WIS., MEHEFIN 12—14, 1883; AC A GYHOEDDIR AR GAIS Y GYMANFA. Gan y Pargh. H. P. Howell, Milwauree, Wis. " Efe oedd ganwyll yn llosgi, ac yn goleuo, a chwithau oeddych ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef."—Ioan v. 35. Tystiolaeth Iesu Grist am Ioan Fedyddiwr ydyw y geiriau a ddarllenwyd. Fe safodd íoan Fedyddiwr i fyny dros Grist, yr hwn na chyf- odasai eto i sylw cyhoeddus; ac fe safodd Iesu Grist dros Ioan, wedi i'w haul yntau fach- ludo. " Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd," roeddai Ioan am Grist. "Efe oedd ganwyll yn llosgi, ac yn goleuo," meddai Crist am Ioan, " a chwi- thau oeddych ewyllysgar i orfoleddu dros am- ser yn ei oleuni ef." Gelwir Ioan yn ganwyll, neu yn lamp, i ddangos byrder, effeitbiolrwydd a thanbeid- rwydd ei weinidogaeth. Nid seren, ond canwyll, losgodd i'r gwaelod yn ebrwydd iawn, oedd Ioan Fedyddiwr, fel Uawer un ar ei ol. Can- wyll danbaid oedd Ioan, ac am hyny y llosg- odd allan mor gyflym. Deil ser y ffurfafen nat- uriol ioleuoheblosgiallan oesauy ddaear; ond am y canwyllau dysgleiriaf yn nganwyllbren aur yr eglwys, wrth oleuo i eraill, llosgant allan yn gyflym. Cuddir ac atelir goleuni ser y ffurfaf- en gan dywyllwch a chymylau, ond ni ddi- ffoddir hwy byth ; ond diffoddir y canwyllau dysgleiriaf oleuwyd ar ganwyllbren gweinid- ogaeth y pwlpud gan yr awel leiaf. Boddhad i'r ganwyll wrth losgi mor ebrwydd yw deall fod Uawer yn llawenychu a gorfoleddu dros amser yn ei goleuni—" ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef." , Er pan gawsom ninau Gymanfa o'r blaen, diffoddwyd un o ganwyllau dysgleiriaf y wein. idogaeth yn Wisconsin. Gyda phriodoldeb -mawr, yn ddiau, y gellir cymwyso y geiriau hyn at y diweddar Barch. Rees Evans, Cambria, yr hwn sydd heddyw yn ei fedd, ac sydd i fod yn wrthddrych ychydig sylwadau yma hedd- yw. "Efe oedd ganwyll yn llosgi, ac yn gol- euo; a chwithau oeddych ewyllysgar i orfol- eddu dros amser yn ei oleuni ef." Goleuwyd y ganwyll hon gan Dduw yn foreu yn hanes ein cenedl yn y Dalaeth hon, a pharhaodd i losgi a goleuo yn danbaid nes iddi ddiffodd yn yr angeu. Gan mai arnaf fi y disgynodd y fraint o dalu teyrnged o barch i goffadwriaeth y gwas da hwn i Iesu Grist, gwnaf goreu y gallaf, er ymdeimlo yn fawr a'm hanfedrus- rwydd, a gofidio na buasai rhywun cymwysach- wedi ei benodi. Arferid edrych ar ein hanwyl frawd fel un o golofnau yr achos yn ein plith-