Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf. XLVI.] RHAGFYR, 1883. [Rhip. 564. Arweiniol. Y CYNGOR A DRADDODWYD i'R PARCH. ISAAC EDWARDS, HOREB SWYDD VANWERT, AR EI ORDEINIAD YN Y GYMANFA YN COLUMBUS, O., MAI 2$, 1883. Gan y Parch. Thomas Roberts, Newark, O. Anwyl frawd, dymunwyf yn ostyngedig alw eich sylw at yr ymadrodd canlynol, yn Epistol cyntaf Paul at Timotheus, y 4edd benod a'r lóeg adnod: " Gwylia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth; aros ynddynt: canys os gwnai hyn, ti a'th gedwi dy hun, a'r rhai a wrandawant arnat." Cynwysa y testyn ddau beth : I. Cyngor—" Gwylìa arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth ; aros ynddynt." II. Y CANLYNIAD O GYDYMFFURFIO A'R CYNGOR—"Canys os gwnai hyn, ti a'th gedwi dy hun, a'r rhai a wrandawant arnat." I. Y Cyngor.—Gorphwysa y cyngor yn benaf ar y ddwy ferf, "Gwylia," ac "aros." Y mae y ddau wrthddrych yr ydym i wylio gyda golwg arnynt, yn ol y testyn, yn rhanu y gwylio eto yn ddwy ran: i. "Arnat dy hun." 2. ikAr yr athrawiaeth." 1. "Gwylia arnat dy hun."—Pwy bynag, a pha beth bynag y mae Duw wedi gweled yn dda eu hymddiried i'ch gofal chwi, fy mrawd, ei ymddiriedaeth gyntaf i chwi, a'r agosaf at- och, ydych chwi eich hunan. "Gwylia arnat dy hun." Ac os na bydd i ni ofalu yn briodol am danom ein hunain, lle gwael sydd i ddys- gwyl y gwnawn gyfiawnder â phersonau ac â phethau eraill. Y mae gwylio ar ein gweith- redoedd yn angenrheidiol; ond y mae ein per- sonau yn bod cyn ein gweithredoedd, canys o honynt hwy y tarddant. ' * Gwylia arnat dy hun." Y mae gwylio ar ein geiriau yn gam pellach yn yr iawn gyfeiriad; ond yr ydych chwi yn bod o flaen, ac yn annibynol ar eich geiriau. "Gwylia arnat dy hun." Y mae ar- fer gwyliadwriaeth fanwl ar ein meddyliau yn well fyth ; ond y mae ein hunain yn bod o flaen ein myfyrdodau ; ac onid ydyw ein hys- brydoedd yn dylanwadu yn uniongyrchol, mewn modd dirgelaidd, ar ein gilydd, trwy gyfrwng y corph ? " Gwylia arnat dy hun." Gan mai i un ddyledsw/dd yn unig, gyda gol- wg arno ei hun, y mae Paul yma yn anog Timotheus, naturiol yw deall y gair "gwylia " yn y cysylltiad hwn yn meddu ystyr mor gy- ffredinol, nes bod y ddyledswydd a arwydd- oceir ganddo yn ddigon eang i gynwys pob un arall sydd yn gyson â hi. Os yw gwylio ar- nat dy hun yn briodol yn peri i ti fod yn weddiwr mawr, cofia ei bod yn ei gynwys. Os yw gwylio arnat dy hun yn ddyladwy yn dy yru i ddarllen yr Ysgrythyr, ac i fyfyrio arni, fel y rheol yr ydwyf i rodio wrthi, cofier, y mae yn cynwys hyny. Y mae gwylio ar, yn y ddau fan yr ydym yn eu cael yn y testyn, yn ymranu yn naturiol yn ddau, sef gwylio rhag, neu wybo yn naca- ol; a gwylio am, neu wylio yntgadamhaol.