Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Ctf. xLvn.] MAI, 1884. [Bhif. 569. ARWEINIOL. CYNYDD MEWN GRAS. GAN Y PAECH. JOHN T. MOEBIS, IXONIA CENTEB, WIS. "Eithr eynyddwch mewn gras."—2 Pete 3: 18. Nodweddir y geiriau hyn gan y wedd an- ogaethol. Y peth yr anogir i gynyddu yn- ddo ydyw gras: "Eithr cynyddwch mewn gras." Nid yw y neülduol yma yn ymgolü yn y cyffredinol. Y peth sydd eisiau ar fyd 0 bechaduriaid ydyw gras; ond nid ydym i feddwl fod a fyno anogaeth y testyn a'r byd hwnw yn y cyfanswm. Pan anogir unrhyw ddyn ieuanc genym i fynu mwy o addysg a diwylliant Uenyddol a chrefyddol, deallir ar unwaith fod y dyn hwnw yn feddianol ar beth addysg, a diwylliant llenyddol a chref- yddol. Felly yma, y mae y ffaith fod yr Ap- ostol yn anog y rhai ag yr oedd yn ysgrifenu atynt i gynyddu mewn gras, yn tybied y ffaith arall, sef, eu bod wedi cael peth gras. Ie, awgryma yr anogaeth eu bod wedi credu yn yr Un hwnw sydd yn llawn "gras a gwir- ionedd:" "Eithr cynyddwch mewn gras." Mae rhai geiriau o ran eu cynwys yn amser- 01 a therfynol, tra y mae eraill yn dragy- wyddol ac annherfynol o ran eu cynwys. Un o'r termau ag sydd yn gwisgo nodwedd dragywyddol ac annherfynol ydyw y gair eynydd. Mae a fyno y gair cynydd a'r byd sydd yr awr hon, a'r hwn a fydd. Bydd y gair hwn mewn bod pan fydd llawer o eir- iau eraill wedi eu bloäo allan o fodolaeth gan law amser; ac nid yn unig y mae i barhau mewn bodolaeth, ond y mae i fod yn gy- ffredinol o ran ei leoliad. Y mae yn yr ys- tyr hwn yn debyg i'r goleuni, yr hwn sydd yn ymwthio ei hun i'r golwg yn mhob man, a than bob amg37lchiad. Darlleniû. ef megys mewn llythyrenau breision yn y byd mater- ol, y byd celfyddydol, y byd gwyddonol, a'r byd crefyddol. "Eithr cynyddwch mewn gras." Y mae y cyny^d hwn mewn gras yn debyg i lwybr y cyfiawn, "yr hwn a lew- yrcha fwy-fwy hyd ganol dydd." Awgrymir gan yr elfen o gynydd sydd yn perthyn i'r Cristion, mai nid un sydd i ddyfod i'w faint- ioli ysbrydol ar unwaith ydyw. Dyma un rheswm y cydmerir y cyfiawn, neu yn ol iaith y Testament Newydd, y Cristion, i bren o dan ddylanwad cynydd. " Y cyf- iawn," meddai y Salmydd, " a flodeua fel palmwydden, ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus." Rhydd y Salmydd ddesgri"; iad tra barddonol o'r haul "fel gwr priod yV dyfod allan o'i ystafell, ac yn ymlawenhau fel cawriredeg gyrfa." Ond cawn i'r un haul a ddesgrifir mor farddonol gan y Salm- ydd, sefyll am dymor yn nyddiau Joshua, pan oedd dyben teilwng yn galw am hyny; eithr am y Cristion, mewn pérthynas i'w gynydd mewn gras, ni wel adeg byth pan j bydd wedi sefyll. Un i fyned rhagddo yn barhaus mewn sancteiddrwydd o ran y quan- tity o hono fydd y Cristion byth yn nef j nefoedd.