Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Ctf. xlvii.] GORPHENAF, 1884. [Emp. 571. ARWEINIOL. PERSON Y TAD.* GAN Y PAECH. DAYID M. JONES, WATEEYILLE, WIS. :Nid edwyn neb y Tad ond y Mab."—Matthew 11: 27. Fel y mae y bôd o Dduw yn sylfaen pob bodolaetb, felly y mae y gwirionedd o Dduw yn sylfaen pob gwirionedd. Yr agoriad i fyned i mewn i bob dirgelwch yw Duw; efe yw pen y ffordd i'n harwain i mewn, á'r lamp i daflu goleu ar ein llwybr drwy wa- hanol ddirgeledigaethau. Mae yn annhraeth- ol haws credu yn mhob peth arall gydag ef, na chredu yn modolaeth y peth lleiaf heb- ddo. Byddai yn llawn mor resymol i ni feddwl cael syniad am brydferthwch natur, a chau ein llygaid rhag goleuni yr haul, a cheisio deall y cread, a gwrthod Duw. Felly y mae y dyn sydd yn gwrthod y grediniaeth o Dduw yn gwrthod y gwir oleuni a ddengys bob peth arall yn eu gwir natur. Ond nid rhyw fath o dduw sydd yn cyf- arfod ag angen dyn; mae ei natur yn galw am y Duw byw. • Mae natur dyn yn sych- edu am Dduw, tra y mae ei ewyllys yn dy- wedyd wrtho am gilio oddiwrtho, am nad yw yn dewis ei ffyrdd. Mae dyn, hyd yn nod pan yn ymdrybaeddu yn mhyllau dyfn- af pechod, yn ceisio llanw y gwagder sydd yn ei ysbryd, nad oes neb na dim, ond y Duw byw, yn alluog i'w lanw. Po fwyaf a *Penodwyd y Parch. D. M. Jones i breg- ethu ar y mater hwn mewn Cyfarfod Dos- barth, yr hyn a wnaeth mewn cyfarfod a gynaliwyd ỳn Milwaukee, Mawrth 7, 8, 9, 1884. Cyhoeddir ar gais y cyfarfod.—Gol. ddeallwn o Dduw, mwyaf oll a welwn o ddyn, ac egluraf oll hefyd y canfyddwn fod dyn wedi ei wneyd i fwynhau Duw. Gwir ymborth yr enaid yw y Duw personol. Nid peth, ond y Tragywyddol Efe, yr hwn y mae rheswm ei fodolaeth ynddo ei hun, ac nid mewn dim y tu allan. Mae Duw y MaterMist yn rhy oer, am ei fod yn amddifad o bersonoliaeth. Nid yd- ym ni yn fwy ymwybodol o ddim nag o'n personoliaeth; ac yr ydym yn dra sicr o'r hyn ydym yn ei wybod. Pe ceisiem wadu ein personoliaeth, byddem, yn yr ymdrech i'w wadu, yn ei brofì, am fod gwadu, cystal a chredu, yn act bersonol. Felly y mae ein personoliaeth yn glir yn ein meddwl, ac o ganlyniad ni all duw materol y Materialist ein boddloni. Mae duw y Deùst yn rhy bell—wedi cilio i'r fath bellder oddiwrth ei greadigaeth, fel nad yw yn teimlo dim dyddordeb ynddi, ac yn y pellder hwnw yn ymddifyru tu mewn i gylch nefoedd dedwydd ei hanfod. Nid oes ffordd i weddi hyd ato, na darpariaeth ar ei chyf er yn ffurfiad gwahanol ddeddfau y byd- ysawd. Mae y galon yn llefain am Dduw o agos—yr "Emanuel, Duw gyda ni." Mae duw y Parúheìst eto yn rhy gaeth. Ý mae wedi ei garcharu yn ei greadigaeth ei hun! Mae yn awdwr o ddeddfau cryfach nag ef ei hun. Mae yn syndod mai awdwr