Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyt. xLvn.] TACHWEDD, 1884. [Ehif. 575. ARWEINIOL. GOGONIANT SEFYLLFA YMDDAROSTYNGOL YR ARGLWYDD IESU.* GAN T PARCH. ROWLAND S. THOMAS, TAYLORYILLE, PA. 9. " Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu, yr hwn a wnaed ychydig yn îs na'r angelion, o her- wydd dyoddef marwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd; fel trwy ras Duw y profai efe farwolaeth dros bob dyn."—Hbb. 2 • Q Amcan mawr y llythyr at yr Hebreaid oedd cadarnhau meddyliau yr Iuddewon crediniol yn y ffydd Gristionogol, yn ngwyn- eb y gwrthddadleuon lluosog, ac ymddang- osiadol gedyrn, a ddygid yn ei herbyn gan y dosbarth anghrediniol o'r genedl. Ymdrech- ai yr adran oedd heb fabwysiadu Cristionog- aeth ddangos i'w brodyr crediniol uwchaf- iaeth Iuddewiaeth ar Gristionogaeth, o ran ei natur, amcan, a chyfrygau ei rhoddiad a'i gweinyddiad. Ac un o brif ddybenion cyf- ansoddiad y llythyr hwn, fel y gelhr casglu oddiwrth brofion mewnol, oedd cyfarfod a dymchwelyd y cyfryw wrthddadleuon, fel moddion i gadarnhau ffydd yr Hebreaid crediniol. Nid yw yr awdwr yn ymfoddloni ar ddangos fod Cristionogaeth yn sefyll yn gyfochrog ag Iuddewiaeth, yn hytrach ä yn mlaen i ddangos ei rhagoriaeth a'i huwchaf- iaeth ar Iuddewiaeth. Ac y mae yr awdwr ysbrydoledig yn gwneyd hyn yn benaf trwy ddangos rhagoriaeth anfesurol y cyfrwng trwy ba un y rhoddwyd Cristionogaeth, ar y cyf ryngau uchaf trwy y rhai y rhoddwyd Iuddewiaeth. Yr oedd Duw wedi defnydd- * Darllener y bregeth hon yn fanwl a myf- yrgar; canys cynwysa eglurhadaeth Ysgryth- yrol pur fanwl.—Gol. io dau fath o gyfryngau i roddi datguddiad o'i ewyllys i'r byd o dan yr hen oruchwyl- iaeth, sef prophwydi ac angelion. Y mae yr awdwr yn cyfeirio at gyfryngwriaeth pro- phwydi yn yr adnod flaenaf o'r benod gynt- af, ac y mae yn cyfeirio at gyfryngwriaeth angelion yn yr ail adnod o'r ail benod. Ond am y cydnabyddai yr Hebreaid yn lled gy- ffredinol, os nad yn hollol felly, fod yr ang- elion yn ddosbarth o fodau sydd yn uwch yn eu creadigaeth na dynion, ni chymer yr awdwr amser i ddangos uwchafiaeth Iesu Grist, cyfrwng mawr rhoddiad Cristionog- aeth, ar y prophwydi, cyfrwng israddol rhoddiad Iuddewiaeth, ond ä yn mlaen ar unwaith i ddangos ei ragoriaeth ar yr angel- elion, cyfrwng uchaf a pherffeithiaf rhodd- iad Iuddewiaeth; oblegid wrth brofi fod yr Iesu yn uwch na'r angelion, dangosai ar yr un pryd ei uwchafiaeth hollol ar y prophwydi. Felly gwaith yr awdwr yn y benod gyntaf o'i lythyr ydyw dangos fod yr Iesu yn rhag- ori yn anfeidrol ar yr angelion, nid mewn graddau, ond mewn natur; ac y mae yn gwneyd hyny yn benaf trwy ddyfyniadau o'r Hen Destament, sef trwy y prawf cryfaf yn ol barn pob Iuddew uniongred. Dengys fod Iesu Grist yn Fab Duw, yn bodoli yn