Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf. xlvii.] RHAGFYR, 1884. [Emr. 576. ARWEINIOL. CYNGOR AR ORDEINIAD CHWECH O BREGETHWYR YN NGHYMDEITHASFA LLANRWST, MEHEFIN, 1884. GAN Y PABCHEDIG DAYJD SATJNDEBS, D. D., ABEBTAWE, D. C. "Porthwch braidd Duw, yr hwn sydd yn eich plith, gaD fwrw golwg arnynt, nid trwy gymell, eithr yn ewyllysgar; nid er mwyn budr-elw, eithr o barodrwydd meddwl; nid fel rhai yn tra-arglwydäiaethu ar etifeddiaeth Duw, ond gan fod yn esiamplau i'r praidd. A phan ymddangoso y Pen-bugail, chwi a gewch dderbyn anniflanedig goron y gogoniant."— 1 Pete 5: 2—4. Fel sail ychydig o gyngorion sydd ar fy meddwl i'w rhoddi i chwi ar eich neillduad i gyflawn waith y weinidogaeth, i fod o hyn allan yn "henuriaid," neu yn "esgobion," yn eglwys Ced3T, ni fedraf ddewis geiriau cymwysach na geiriau yr henadur Petr wrth ei gyd-henuriaid. Er ei fod yn Apostol, nid yw yn seilio ei hawl i gyngori ar ei apostol- iaeth, ond ar y ffaith ei fod yn gyd-henadur. Pel apostol, gallasai ddweyd, fel Paul, fod ganddo " hyfdra lawer yn Ngheist, i orchym- yn y pethau sydd yn weddus," eto, megys yntau, " y mae o ran cariad yn hytrach yn atolwg;" ac felly dyry esiampl brydferth o'r tynerwch a'r gostyngeiddrwydd a gymella arnynt hwy. Prin yr wyf yn credu, fel y tybia rhai, fod cyfeiriad gwylaidd at ei awd- urdod apostolaidd yn y crybwylliad ei fod " yn dyst o ddyoddefladau Ceist," eithr yn hytrach mai mynegiad syml ydyw o'r hawl foesol oedd ganddo i gyngori, yn seiliedig ar y ffaith hon, a hyny gyda'r amcan o barotoi eu meddyliau i dderbyn ei gyngorion. Dyna, yn ddiau, ydyw ystyr ac amcan yr ymadrodd dilynol, " Yr hwn hefyd wyf gyfranog o'r gogoniant á ddatguddir." Gesyd ei hun yn eu canol, megys un o honynt, wedi ei neill- duo i gyflawni yr un gwaith, ac felly yn dysgwyl yr un wobr. Pa hawl well i gyng- ori na hyn ? Tuag at iddynt fod "yn fugeüiaid wrth fodd calon Duw," cymella hwynt i " borthi y praidd" a gwybodaeth ac â deall; a chyda hyny, anoga hwynt i esgobaethu, neu arol- ygu drostynt. Yn y ddau gyngor hyn, "porthi," a hyny "gan fwrw golwg," diau y cynwysa yr Apostol bob gwasanaeth ys- brydol posibl i fugail tuag at ei braidd. FeL cymelliad, yn gystal a rhybudd, i gyflawni y gwaith hwn yn deilwng, dywed mai Dtrw a bia'r praidd. Efe a'u pwrcasodd â'i briod waed, ac efe sydd yn eu harwain trwy anial dyrys i'r gorlan nefol. "Llygaid yr Ak- glwydd eu Duw sydd bob amser arnynt, o ddechreuad y flwyddyn hyd ei diwedd," i'w gwylio gydag eiddigedd, ac i weled pa fodd yr ymddyga pawb, yn enwedig y bugeiliaid, tuag atynt. Yna mewn tri phâr o ymad- roddion, rhybuddia yr Apostol hwynt ar y naili law i ochelyd moddau annheilwng o gyflawni eu gwaith, ac ar y llaw arall, deng- ys iddynt y moddau cymeradwy. 1. " Nid trwy gymell," neu erfodaeth; oblegid y mae y gair cymell yn y fan