Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Ctf. sxvni.] HYDREF, 1885. [Rhif. 586. ARWEINIOL. GODDEF PROFEDIGAETH. GAN Y DIWEDDAB BAECH. J. FOULEES - JONES, B. A., MACHYNLLETH, G. C. " Gwyn ei fyd y gwr sydd yn goddef profedigaeth ; canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i'r rhai a'i carant ef."—Iago i. 12. Mae dyn wedi " ei eni" i flinder. Felly y dywed y Beibl. Nid oes ond ychydig o bethau ag y gellir dywedyd fod dyn wedi ei eni iddynt. Nid ydyw dyn wedi ei eni i iechyd, na synwyr, na rhinwedd, nac an- rhydedd, nac enwogrwydd, na chyfoeth. Nid ydyw dyn wedi " ei eni" i lawer iawn o bethau; ond y mae wedi " ei eni" i fiinder. Nid yw pobl dda—pobl dduwiol—ddim yn dianc rhag y " blinder '* yma. Mae duwiol- ion, mae'n wir, yn dianc rhag llawer iawn o bethau; maent yn dianc rhag gwaethaf pob- peth. Ni dd'ont i farn, ni dd'ont i felldith, ni dd'ont i farnedigaeth, ond fe dd'ont i flinder—maent wedi eu geni i flinder. Mae dau beth ag y mae yn werth i ni syl- wi arnynt yn y cysylltiad yma. Un peth yd- yw, íiad oes genym hawl i farnu cyflwr neb oddiwrth ei amgylchiadau. Hawddfyd neu adfyd, llwyddiant neu aflwyddiant—ni bydd- ai yn iawn i ni benderfynu cyflwr a chymer- iad neb rhyngddo a Duw oddiwrth bethau fel hyn. Mae'r natur ddynol yn holl oesau'r byd wedi bod yn chwanog i goleddu syniad fel yna. Yr oedd llawer o'r duedd yma yn mysg yr hen Ddwyreinwyr. Pan y goddiw- eddid dyn gan ddrygau mawrion, casglent yn y fan, un ai fod ei achos yn ddrwg, neu ei gymeriad yn ddrwg; ac y mae yn bur bos- ibl mai i wrthsefyll y cyfeiliornad hwn, ac fel gwrthdystiad yn ei erbyn y cyfansodd- wyd Uyfr Job. Meddyliai cyfeillion Job nad oedd dim ond daioni yn disgyn ar ran- dir y cyfiawn, ac nad oedd neb ond annuw- iolion yn cyfarfod a drygau mawrion fel yr eiddo ef—cystal a dweyd mai un o'r rhai'ny oedd yntau. " Na," meddai Job, "ymae camwedd yn eich atebion chwi;" ac y mae Duw o'r diwedd yn amddiffyn ei was Job, ac yn ceryddu Eliphas y Temaniad am ei ryfyg a'i anystyriaeth. Yr oedd yr Iuddewon yn mhell o fod yn rhydd oddiwrth y syniad yma, ac ni ddarfu y Gwaredwr ei hun ddim dianc rhag eu drwg-dybiaeth. Edrychent ar 6i drallodion blin fel arwyddion o farn ac anfoddlonrwydd Duw. " Duw a'i gwrthododd," meddent, yn ngeiriau Salm 71:11. Felly y darlunir y genedl gan y p,? phwyd Esaiah. Edrychent ar ei |^tuddiai*rM effeithiau ei ddrygau ei hun. "Na," meddai y prophwyd, "Efe a archollwyd am ein camweddau ni; efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni." Mae yn ymddangos fod hwn yn gyfeiliornad lled gyffredinol yn mysg yr Iuddewon, ac un tro yr ydym yn cael Iesu Gbist yn ymliw â hwynt o'i herwydd. Yr oedd Twr yn agos i Jerusalem wedi syrthio ar rywrai a'u lladd. " A ydych chwi yn tybied," meddai yntau, " fod y deunaw hyny y syrthiodd y Twr ar-