Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf. xlviii.] TACHWEDD, 1885. [Rmp. 587. ARWEINIOL. PREGETH GOFFADWRIAETHOL Y PARCH. DAVID F. JONES, A Draddodwyd, ab oais t Teulu, yn Nghymanfa Minnbsota, Meh. 23—25, 1885. GAN Y PARCH. H. M. PUOH, BANOOR, WIS. "Da, was da a ffyddlawn : buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer : dos i mewn i lawenydd dy arglwydd."—Matthew xsv. 21. Mae yr ychydig sylwadau a wneir oddi- wrth y geiriau hyn wedi eu bwriadu i fod yn goffadwriaethol am y brawd anwyl, a'r gweinidog ffyddlawn, a gymerwyd yn ddiw- eddar o'ch plith trwy angeu, sef y Parch. DavidF. Jones, Coed Mawr. Dysgir ni yn ngair y gwirionedd, a thrwy esiamplau dynion doeth a duwiol, i ddefn- yddio pob cyfleusderau, ac i gymeryd man- tais ar wahanol amgylchiadau, dygwyddiad- au a thymorau, er dwyn y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu i oleuni deall a chydwybod plant dynion, a'u dysgu, trwy hyny, i gyfrif eu dyddiau, ac i ystyried eu diwedd. Hyn a olygai Solomon, pan y dywedai, " O, mor dda yw gair yn ei amser," sef ar yr adeg, y dygwyddiad, neu yr amgylchiad, a all fod yn foddion, yn llaw Ysbbyd Duw, i argraffu y gair ar y meddwl a'r galon, a pheri iddo aros yno, o ran ei effeithiau, am amser a thragywyddoldeb. Ac y mae ambell i ddy- gwyddiad neu amgjTlchiad yn Uefaru yn uwch, ac yn dywedyd mwy ynddo ac o hono ei hun nag a all neb ddweyd am dano. De- ongli ei iaith, esbonio ac egluro ei ystyr, ac ymdrechu i ddysgu gwersi buddiol a phri- odol oddiwrtho, ydyw y cwbl a ellir wneyd. Ac amgylchiad felly, i raddau helaeth, ydyw marwolaeth un o'n cyd-ddynion. Mae mar- wolaeth y tlotaf a'r iselaf yn y gymydogaeth, neu y lleiaf a'r gwanaf yn y teulu, yn tynu mwy o sylw na bywyd y mwyaf, y cryfaf, yr uchaf a'r cyfoethocaf. Ac y mae a fyno cymeriad person, y cylch y bydd wedi bod yfa troi ynddo, yn nghyd a'i berthynas, neu ei gysylltiad â ni, â phenderfynu graddau y sylw a delir genym i'w farwolaeth. Mae colli un bywyd o fyd y mae cymaint o farwolaeth ynddo yn golled fawr; y mae colli dyn da o fyd drwg yn golled fwy; ac y mae colli gweinidog yr efengyl, un oedd wedi neillduo oddiwrth alwedigaethau byd- ol, er mwyn bod yn rhydd i lwyr ymroddi i wasanaethu Duw yn efengyl ei Fab, ac i wneyd daioni i eneidiau dynion, yn golled fwy fyth, i'r eglwys a'r byd. Ac o barch i goffadwriaeth un oedd yn troi yn y cylch pwysig yna y gelwir eich sylw at y geiriau a ddarllenwyd, gan lwyr gredu eu bod yn wir- ionedd am dano yn ei fywyd ac yn ei far- wolaeth. Pwy all ddweyd pa faint o fywyd, o ysbryd, ac o ddaioni, a gymerwyd allan o'r byd hwn trwy angeu ein brawd ymadaw- edig ? Nid yn mynwes y corph gwael sydd yn gorwedd yn y bedd y mae yr unig ystaf- ell adawodd ar ei ol yn wag. Na, mae yna un wag iawn yn mynwes y teulu gartref, yn yr eglwysi oedd dan ei ofal, yn y Cyfarfod