Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyfi-ol XXXIII. EBEILL, 1870. Rliifyn 399. %xínthUL CYIT&OE AE OEDEINIAD Y PAECH. THOMàS EICE, EACINE, WIS., MEH, 10, 1869. , GAN T PARCH. WILLIAM HUGHES. Pe buaswn yn defnyddio rhyw ran neillduol o air yr Arglwydd yn sail i'm cyngor hedd- yw, mae yn bur debyg mai y cyngor hwnw o eiddo Paul i Timotheus a f uasai yr un etholed- ig: " Bydd ddyfal i'th osod dy hun yn brof- edig gan Dduw, yn weithiwr difefl. yn iawn- gyfranu gair y gsririonedd."—2 Tim. 2. 15. Y mae yr ymadrodd cyntaf yn yr adnod yn arwyddo ymgyflwyniad trwyadl i gyrhaedd amcan; neu, ddyn yn aberthu ei gorff a'i en- aid, yn y meddiant o'u holl alluoedd, ac o dan weithrediad ei hoH egnion, a'u deheu- rwydd, i ddyfod drwy bob prawf mor deil- wng ag i dderbyn cymeradwyaeth Duw yn ngweinyddiad][ei swydd. Nid ymdrech pech- adur am gymeradwyaeth ei berson ger bron Duw yn Nghrist yw hon, ond ymdrech preg- ethwr am ei gymeradwyaeth ef o hono yn ei gymeriad swyddol; ymdrech gweinidog yr efengyl am gymeradwyaeth Duw o hono yn ngweinyddiad ei weinidogaeth. "Gweithiwr difefl " ydyw gweithiwr glanwaith, awdwr gwaith glân, gwaith heb wrthuni arno, neu waith na bydd angen am iddo gywilyddio o'i henvydd wrth iddo ei aüolygu o dan bob gol- euni a ddichon i ddyf odol daflu arno. ' Yn iawn gyfranu gair y gwirionedd." Y mae y gair " syfranu " yn cyfeirio at ddosbarthiad gwlad Canaan rhwng llwythau Israel ; neu, at waith rhieni darbodus yntrefnuyn udoeth y cyfreidi tu angenrheidiol rhwng holl aelod- au y teulu. Y mae yn perthyn i weinidog borthi yr holl braidd; cyfranu gair y gwir- lonedd i'r gwrandawyr, neu ei iawn-barthu i wahanol ddosbarthiadau cymdeithas. Preg- ethu yr efengyl, a phregethu yr efengyl yn iawn. Mewn un sut yn unig y mae Duw yn caniatau } ni bregethu yr efengyl, a'r sut hwnw ydyw ei phregethu hi yn iaion. Eellach, nid oes genyf ond ymdrechu i droi wyneb y cyngor canlynol at ei wrthddrych neillduol, mewn gobaith am iddo fod yn fuddiol i ni oU, o dan fendith y Goruchaf Dduw. Fe ddichou y dylem gyfeirio yn gyntaf at y rhagoriaethau hyny ag y mae yn rhaid eu cael mewn pregethwr er ei wneyd jm ''wein- idog cymwys y Testarnent Newydd." Gwn na ddysgwylir i mi wneyd ymchwiliad man- wl i'r naiU gymwysder ar wahan oddiwrth y Uall mewn cyngor byr, fel a ddysgwylir oddi- wrthyf ar yr amgylchiad presenol. Gan hyny crybwyllaf ychydig o honynt, gan ddymuno arnoch ddal yn eich cof yn barhaus fod y lleill hefyd yn angenrJieìdiol. Ymddengys fod yr Arglwydd Iesu wedi cyhoeddi mor amlwg, drwy ei weinidogaeth gyhoeddus a'i ymddyddanion personol gyda ei ddysgyblion, gymwysderau angenrheidiol gweinidog yr efengyl, a'r rhai hyny wedi eu dadblygu drachefn mor helaeth gan ei sanct- aidd Apostolion ef, fel na raid i'r eglwys fod mewn un cyfnod o oes y ddaiar, heb wybod pwy y mae efe yn eu galw i gyflawni y wein- idogaeth. Gellir dwyn y cymwysderau hyn i sylw yn ddau ddosbarth gwahaniaethol, a'u galw yn gymwysderau naturiol a chymwys- derau ysbrydol. Y mae Duw wedi rhoddi mwy na gwaith un diwrnod ar y rhai hyny y mae Pen yr eglwys yn eu hanfon i bregethu yr efengyl. Rhoes waith cyflawn arno fel creadur yn ei greadigaeth gyntaf, pan y gwnaed yr anelwig ddefnydd yn ddjnu yn ys- tyr lawnaf y gair. Aeth afco drachefn, ac a'i creodd o'r newydd yn Nghrist Iesu; gwnaeth yr anianol yn ysbrydol, y pechadur yn sanct»