Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyfrol XXXIII. MEDI, 18TO. Rliifj'ii 404, rfocinìol. CEEFYBD. Prcgeth a draddodwyd gan y Parch. L. Ed- wards, D. I).. Bala.yn NgTiymanfa Liver- pool, Mai 28, 1849, ac a ysgrifenwyd gan Eleazer Jones, Middlc Granvûle, jf. Y. " Os ceisi hi fol arian, os chwili am dani fel am drysorau cuddiedig, yna y cai ddeall ofti yr Arglwydd, ac y cai wybodaeth o Ddnw."—Diaiì. 2. 4, 6. Y gwrtiiddrych y gelwir ni ato yn yr ad- nodau hyn ydy w gwir grefydd ; mae yn cael ei gosod allan gan y gwr doeth o dan yr en- wau doethineb, a deatt, a gwybodaeth. Dyna yw crefydd mewn gwirionedd, bod yn ddoeth. Byddent yn arfer dyweyd gynt fod dynion yn colli eu synwyrau wrth ymofyn am gref- ydd; yn lle hyny, dyna y pryd yr oeddynt yn 'dyfod i'w synwyr. Dyna yw y gwahaniaeth rhwng y dyn duwiol a phawb arall, dim ond ei fod ef yn gweled yn mhellaeh na neb. Y mae y dyn duwiol yn gweled y byd hwn, a pha fodd i fyw, fe ddylai hefyd; y mae efe yn gweled yn mhellach na'r byd hwn, y mae yn gweled byd ar ol hwn, ac y mae yn par- otoi erbyn tragywyddoldeb. Wel, onid hwn yw y callaf ? Onid dyna y masnachwr callaf, y dyn sydd yn parotoi erbyn amser dyfodol, yn lle gwario y cwbl i fyw yn wr boneddig am ychydig fìsoedd, heb feddwl beth a ddaw o fisoedd ar ol byn ? Wel, gyfeillion, fe ddaw yr angau, fe ddaw tragywyddoldeb; yn nghanol yr holl ddwndwr gyda business, fe ddaw tragywyddoldeb. Onid dyma y dyn doeth, onid dyma y call, y dyn sydd yn edrych yn mlaen ac yn parotoi erbyn y byd arall ? Dyna ydy w crefydd; ac os dymun-» ech chwi gael crefydd iawn, gofynwch am gael eich dysgu at hyn yn y cyfarfod hwn. Nid ydym ni ddim yn son heddyw am gref- ÿdd sect; neu sectau, ond crefydd iawn—cref- ydd wnaiff y tro erbyn byd arall. A oes yma ryw un a ddymunai ei chael hi ? Ar ol y gwrando ar yr holl bregethau da a glywsoch, a oes yma neb a ddymunai gael gwir gref- ydd ? Wel yn wir, mi ddymunwn i ei chael hi, meddai rhyw un; ond dyna lle byddaf fì yn ymddyrysu o hyd, fedrwn i yn fy myw wybod sut y mae myned o gwmpas i gael crefydd iawn. Byddaf fi yn meddwl am grefydd fel rhyw beth yn yr awyr, a dysgwyl o'r fan hono y byddaf fi. Fedrwch chwi ddim dysgu y ffordd y mae cael crefydd ? A oes dim posibl dyfod a chrefydd yn ddigon agos y medrwn ni gael gafael arni hi ? Mae yn y cymylau yn rhyw 1 % fedrwn i yn fy myw gael gafael arni hi. Wel, dyna ydyw y pwnc yn yr adnodau a ddarllenwyd ; dyma gyfarwyddyd anffaeledig pa fodd i'w chael hi. Dyma y ffordd, os ceisi fel arian—dyna y llwybr; nid oes yma ddim secret, ddim dir- gehvch ya y byd—os ceisi fel arian, ti a'i cai. Yn awr, dyma ni yn dod at y point, os ydych am dani, heblaw siarad, fe geir gwel- ed ; os ydych o ddifrif. öyma hi, os nad rhag- rith ydyw yr holl siarad; dyma hi o fewn ein cyrhaedd, dim ond ei cheisio hi, yn union yr un fath ag y bydd pobl Liverpool yn ceis- io arian. Nid oes dim o'r gair yna yn con- demnio ceisio arian yn eu ile, ceisiwch yn onest; ceisiwch hwy faint fynöch, ond ceis- iwch hwy ar lwybr gonest. Cysgod da yw arian, ond ceisiwch ryw beth heblaw hyny, ac uwchlaw ceis-.o arian ; a cheisiwch hefyd yr un fath ag yr ydych yn ceisio arian. . Yn awr, n\ geisiwn agor ychydig bach ar y geiriau. Gadewch i ní edrych yn awr sut y mae plant dynion yn ceisio arian, i edrych a ddeuwn ni ddim o hyd i'r drefn fawr Gad- ewch i ni gymeryd gwers—gadewch i ni ys- beilio yr Aiphtiaid yn y mater yma-cymer- yd gwers gan bobl y byd pa fodd i geisio crefydd. Y mae yn bity eu bod yn gallaoii