Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyfrol XXVI. CMWEIT'ROIÌ,, 1863. Ittdfyn. 30S. PREG-ETH II. ORIST OLL YN OLL. " Am hyny y'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, Olew gorfolcdd tu hwnt i'th gyfeillion."—Heb. i. 9. Yma y gallẅn ymofyn, I. Beth a ddeallir wrth Dduw? II. Beth wrth olew? III. Beth wrth orfoledd ? IV. Pwy ydyw ei gyfeillion ? I. Oddiwrth Dduw, y mae i ni ddeall y Tad, yr hwn sydd yn eneinio Duw y Mab. Yn aml y mae y cyfryw eiriau yn yr Ysgrythyrau, sef Duw a Duw, Arglwydd ac Arglwydd : megys yn Psalm cx. 1, "Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd :" ac yn Gen. xix. 24, " Yna yr Arglwydd a wlawiodd ar Sodoma a Gomorra i'rwmstan a thân oddîwrth yr Arglwydd, allan c'r nefoedd:" Hosea i. 7, "Ac eto mi a drugar- hâf wrth dŷ Juda, ac a'u cadwaf hwynt trwy yr Arglwydd eu Duw." II. Pa beth a feddyliwn wrth oleio? Beth arall ond yr Yspryd Glân, yn ol ymadrodd y Prophwyd Esay, pen lxi. 1. " Yspryd yr Argl- wydd Dduw sydd arnaf; o herwydd yr Argl- wydd a'm heneiniodd :" ac yn gyffelyb yn Luc iv. 18. Nid ellir cael enw priodol i beth ys- prydol. Mae yr Yspryd ei hun yn cael ei enwi ar lawer o enwau,—1. "Afonydd o ddwfr byw- iol a ddylifant o'i groth ef. A hyn a ddywed- Odd efe am yr Yspryd," Ioan vii. 38, 39. 2. " Dyddanydd," Ioan xiv. 16. 3. " Bys Duw," Luc xi. 20. 4. " Ernes ein hetifeddiaeth." 5. "Olew," yn y testyn ; cyffelybiaeth gymhwys, oblegid nas cymysga yr olew yn hawdd â dim arall. Yr Yspryd Glân sydd santaidd, didol- edig oddiwrth bob creadur yn ei natur, er ei fod yn bresenol bob amser gyda hwynt. Hefyd, y mae yr olew yn nofio yn uchaf; felly y mae yr Eneiniog uwchlaw pob peth, Eph. i. 22. Ac y mae efe yn blaenori yn mhob peth, Col. i. 18. Mae yr olew yn ystwytho ac yn esmwythau doluriau ; felly y gwna yr Yspryd Glân, Esa. x. 27. III. Beth yw gorfoledd ? " Ffrwyth yr Ys- pryd," Gal. v. 22. Ni wna olew y byd orfol- edd yn y wynebpryd pan y byddo y galon yn athrist; ond yr Yspryd Glân a iachâ y galon, ac a siriola'r wyneb. IV. Pwy ydyw ei gyfeittion ef ? Ateb. Bren- inoedd, offeiriaid, a phrophwydi, y rhai a wnaethpwyd yn gyfranogion o'r un Yspryd, ac a eneiniwyd âg ef; üe, ac hefyd bob math ó Gristionogion a'r a wnaethpwyd yn " frenin- oedd ac yn offeiriaid i Dduw," Dat. i. 6. Feì y mae gan Grist ddwy natur, sef dwyfol a dyn- ol, felly y mae ei gyfeillion. 1. Dwyfol, Zech. xiii. 7, " Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gŵr sydd gyfaill i mi, medd Ar- glwydd y lluoedd." 2. Yn ei natur ddynol: gwelwch Heb. ü. 14, " Oblegid hyny, gan fod y plant yn gyfranogion o gîg a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfranog o'r un peth- au." Bhyfeddol iawn ! wele bersonau y Dsiu- dod i gyd yn cyfarfod eu gilydd ; 1. Duw, y Tad ; 2. yHh eneiniodd di, sef y Mab ; 3. ag olew gorfoledd, sef yr Yspryd Glân ; 4. tu hwnt i'th gy- feillion: dyma yr eglwys. 1. Y Tad sydd yn eneinio ; 2. Y Mab yw yr hwn a eneinîer ; 3. Yr Yspryd Glân yw yr enaint. Chwi a gewch y cyffelyb ymadrodd- ion yn Act. ii. 33, " Iesu, wedi derbyn gan y Tad yr addewid o'r Yspryd Glân, efe a dy- walltodd y peth yma yr ydych chwi yr awr hon yn ei weled ac yn ei glywed ;" hefyd yn Tit. iii. 6—"Yr hwn a dywalltodd efe arnom nî yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr." Holiad. Pa beth a feddylir wrth eneinio? Ateb. Yr oedd tri pheth yn gynnwysedig yn- ddo yn y gyfraith:—1. Bod yr hwn a eneinid yn arfaethedig neu yn apwyntiedig gan Dduw*