Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyfrol XXVI. 3VrA."WE,TH, 1863. Rliifyii 303. $>TMt\flUVíỳ Ẅt. PREGETH III. CERYDD A CHARIAD BRAWDOL. "Ac os pccha dy frawcl i'th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ag ef ei hun. Os efe a wrendy arnat, tí a enillaist dy frawd."—Mait. xvm. 15. Ein Iachawdwr wedi rhybuddio ei ddysgyblion o'r blaen na roddent dramgwydd i neb, sydd yma yn cyfarwyddo y rhai a gawsant dram- gwydd, "Os pecha dy frawd," &c, trwy ofidio dy enaid: edrych 1 Cor. viii. 12—"A chan bechu felly yn erbyn y brodyr, a churo eu gwan gydwybod hwy :" neu trwy dy ddirmygu a'th enllibio, a dwyn gwaradwydd ar dy enw, neu anafu dy feddianau, neu y pethau a gry- bwyllir yn Lev. vi. 2, 3, yna cofìa y rheol, " Dos at dy frawd," &c. Cofia Lev. xix. 17— " Na chasâ dy frawd yn dy galon," h. y. na âd i'th soriant addfedu i ddirgel falis, fel clwyf peryglus ag a fyddo yn gwaedu oddifewn; bwrw allan dy feddyliau mewn rhybuddion esmwyth a phwyllig, rhyngotti ag ef ei hun. Ni wna annos yn ei gefn ond chwanegu y clwyf: cytuna hyn â Diar. xxv. 3, 9—" Na ddos allan i gynhenu ar frys: ymresyma â'th gymydog ei hun; ac na ddatguddia gyfrinach i arall." Wrth frodyr mae i'n feddwl dysgyblion Crist, yn y lle blaenaf, am eu bod wedi eu geni o'r un Tad : Matt. xxiii. 9—"Canys un Tad sydd i chwi:" a brodyr Iesu Grist, yr hwn sydd yn eucyfrif; felly Heb. ii. 11—" Nid yw gywil- yddus ganddo eu galw hwy yn frodyr :" ac yn Matt. xxv. 40—" Y rhai hyn fy mrodyr lleiaf." Argyhoedda ef, fel y mae yn frawd i ti, rhag bod yn 'gyfranog o'i bechòdau ef: ai peth bach yn dy olwg yw enill dy frawd ? y mae trwy bechod wedi ei golli, a Satan wedi ysbeilio ei enaid, o herwydd lleidr dynion yw efe. II. Yn fwy enwedigol, cymerwn y gair fel hyn ; argyhoedda ef, am ei fod yn pechu yn erbyn yr Arglwydd : pob pechod a wneir sydd yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn dy gymyd- og, ac yn dy erbyn dithau ; y pechod a wneir yn erbyn fy nghymydog a ddylwn ei gyfrif yn fy erbyn i. Canys pahäm? oni ddylwn garu fy nghymydog fel fi fy hun? a bod mor deim- ladwy o'r niweid a wneir iddo ef, megys pe cawsai ei wneuthur i minau ? a'r pechodau a wneir yn erbyn yr Arglwydd, ydynt yn fy erbyn i, am fy mod yn rhwym i gyfrif gogoniant Duw o fiaen fy naioni fy hun. A chan fy mod i yn rhwym i argyhoeddi fy mrawd, a maddeu iddo, os edifarhâ ; mwy rhwymedig o lawer ydwyf i fod yn dyner iddo pan na phechodd yn fy erbyn i, eithr yn erbyn ereill. Hadrianus y cyfreithiwr, a ddywed, " Fod y rhai a becho yn erbyn Duw, yn pechu yn erbyn pob cred- adyn ffyddlon, ac yn ei gadael dan ddygn niw- aid a sarhâd ; canys yr hwn a becho yn erbyn y tad yn ngŵydd y mab, sydd yn drygu y mab hefyd ; a'r hwn a becho yn erbyn y meistr yn ngŵydd y gwas, sydd hefyd yn pechu yn erbyn y gwas." Y mae cariad yn gwneyd pob peth yn gyffredin; felly y mae drygau yn erbyn ereill, yn ddrygau yn ein herbyn ni: a chan fod yr Hollalluog yn cymeryd pob sarhâd a chamwri a'r a wneir yn dy erbyn di, megys pe gwnaethid hwynt yn ei erbyn ef, fel ag y dywedodd wrth Saul, " Paham yr wyt yn fy erlid i ?" Act. ix. 4, ac; heiÿd ýn Zech. ii. 8— "Canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â chanwyll ei lygaid ef;" mwy o lawer ynte y dylit ti gyfrif y pethau a wneir yn erbyn yr Arglwydd, fel pe gwnaethid hwynt yn dy erbyn di, gan ddywedyd, Zêl dy dŷ, â chariad i'th anrhydedd â'th awdurdod, sydd yn ySU fy nghnawd, ac yn sychu fy esgyrn, wrth weled fel y mae dy elynion, O Arglwydd, yn dirmygu dy air, ac yn ei ddíystyru. Y cyffelyb gadad a ddylai ein gwneuthur yn deimladwy o'r