Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL Cvfrol XXVI. EjBHIT^L, 1863. Hhifyn 304. PREGETH IV. RHAD RAS YN WIR. "Arglwydd, cofia fi pa.n ddelych ì'th deyrnas. A'r lesu a ddywedodd wrtho, Yn wir, meddaf i ti, Heddyw y byddi gyda mi yn Mharadwys.—Ltrc Xxiii. 42, 43." Nis gwn i yn mha le yn yr holl Ysgrythyran 7 gellir gweled gogoniaat rhad ras yn eglur- ach nag yn y lle hwn : mi a gyfaddefaf, yn wir, ei fod yn eglur yn mhota man ; megys ya nhro- edigaeth y wraig o Samaria. Pa beth a wnaeth hi tu ag at ei tbroedigaeth ? a fwriodd hi ei dwfr-lestr i'r ffynnon i godi ychydig ddwfr i lachawdwr y byd. Os gwnaeth hyny, nid yd- oedd ond ymdâl gwael a salw am gadwedig- aeth ei henaid. Oh, beth rhyfeddol ! Syndod dynion: Esa. i. 2, " Gwrandewch, nefoedd ; clyw dithau, ddaiar." Jer. ii. 12, "0 chwinef- oedd, sỳnwch wrth hyn," fod gwraig anonest, ì ba un y bu pump o wŷr, ac yn awr yn nghyf- eillgarwch arall, yn cael ei gwneuthur yn ef- engyles i daenu yr Efengyl yn Samaria. Rhag- Welediad o'r cyfryw beth a hyn a wnaeth i Esay dori allan, a dywedyd, " Dyfroedd a dỳr allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeith- wch. Y cras-dir hefyd fydd yn llyn, a'r tir sychedig yn ffynnonau dyfroedd." Mae afon- ydd ya gyffredinol yn cadw eu terfynau, gan gerdded rhwng eu ceulanau ; brydiau ereill, y iûaent ya llifeirio dros eu gwelyau, gan ddyfr- hau tiroedd sychedig fyddo yn eu hymyl; felly yn union y mae gras Duw yn y lle hwn, yn gwneuthur y tir mwyaf diffrwyth yn ffrwyth- lawn, a phechadures fawr yn efengyles dda. Hynod iawn fu troedigaeth Mair Magdalen a Phaul; eto Mair a allasai weled llawer o ^■yrthiau Crist, a chlywed llawer o'i bregethau; öeu gallasai siamplau ei chwaer Martha fod yn foddioa tu ag at ei gwellâu ; ac am Paul, fe gafodd ei amgylchynu â gogoniant mawr, dys- gleîriach na'r haul yn y ffurfafen, clywodd lais' pwerus, ac fe'i taflwyd i lawr oddiar ei farch, ac fe'i rhoddwyd yn llaw y llwch, o ba un y crëwyd ef. Ond y Ileidr yma ya y testyn, wrth bob argoel, a adawyd yn amddifad o'r holl fanteisioa yma, heb weîed gwyrthiau, nac esiamplau, na gogoniant, na goleuni, na chlyw- ed pregethau, nac ua lleferydd o'r nef ; dim ond gweled Crist archolledig wedi ei dori ar y groes, fel ped fuasai ef yn gystal lleidr ag un o'r Hadron ag oedd yn cyd-ddyoddef âg ef. Wele rad ras yn wir S Eilwaith, pan ystyriom pa mor bell oedrì y lleidr oddiwrth gredu a charu ei Iachawdwr Crist Iesu, mor belled a'r dwyrain oddiwrth y gorllewin, eto ei gyfnewid mewn ychydig fy- nydau, ei droi o fod yn lleidr i fod yn ferthyr, a'i ddwyn o'r crogbren i Baradwys ; dyma gyf- newidiad rhyfeddol iawn! lleidr pen ffordd wedi ei farnu i'r groes, megys ar darawiad am- rant, yn gwneuthur cyfaddeflad o Grist; yn yr unig weithred hon y lîewyrchodd holl briodol- aethau Duw, ie, ymddangosasant mewn dull tra gogoneddus ; yn enwedig ei ddoethineb, yr hon a woaeth i ddau beth mor wrthwyneb gyfar- fod mor ebrwydd. Fe ddywed y Pregethwr, £< Fod anìser i eni, ac amser i farw ; amser i blannu, ac amser i dỳnu y peth a blannwyd ; amser i ladd, ac amser i iachâu : amser í fwrw i lawr, ac amser i adeiladu ; amser i wylo, ac amser i chwerthin.—Preg. iii. 2, 3, 4. Yr holl bethau gwrthwyneb hyn a gysylltodd doethin- eb yn nghyd : dyma hwy yn ymddangos yn y gwaith a wnaethpwyd ar y lleidr. Wele, efe yn cael ei eni i Grist, ac yn marw i'r byd : wele ras yn cael ei blannu yn ei enaid ef, a phechod yn cael ei dỳnu allan: am ladd a bywhau! wele, Fab Duw yn cymeryd clwyfau marwol yn ei gorff èl hun, ac yn iachâu y lleidr; wele gorff y farwolaeth yn cael ei dỳnu