Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cvfrol XXVI. MjVI, 1863. RWfy-ii 305. %tnt\út%f $%4 PREGETH V. HAPUSRWYDD Y DUWIOL, NEU NEW- YDD DA I'R PERERINION. "Ac ui a wyddom focl pob peth yn cyd-weithio cr da- •ioni, \'t rhai sydd yn caru Duw, seí' i'r rhai sydd wedi eu g'alw yu ol ei arfaeth ef."—Rhüf viii. 28. Ac fel po dywedasai yr apostol, heblaw yr holl gysuron a roddais i chwi, rhoddaf hyn yn ych- waneg. Nid un, ond aneirif yw c^ysuron y rhai y mae yr Arglwydd yn amlygu yn yr Ysgry- thyrau Santaidd i'w blant ei hun: Psalm xxxiv. 19, " Aml ddrygau a gaiff y cyfìawn : ond yr Arglwydd a'i gwared oddi wrthynt oll;" h. y. mae gan yr Arglwydd waredigaeth gogyfer â phob drwg. Fe ddywed yr apostol Paul, 1 Cor. x. 13, fe " wna yn nghyd â'r temtasiwn ddiangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn." Mae pedwar saer i lifo pedwar "corn sydd yn gwas- garu Juda, Israel, a Jerusalem," Zech. i. 18, 20. Fe ŵylodd Esau, er nad oedd ond halog- edig, ac a gri'odd yn irad, gan ddywedyd, " A oes genyt ond un fendith, fy nhad ?" Eithr QyQi( gyda'r apostolion santaidd, a allwn fen- dithio ein Tad Nefol, "yr hwn sydd yn amlhau ein dyddanwch ni, fel y mae dyoddefiadau Crist yn amlhau ynom ni."—2 Cor. i. 5. Nid ellir byth waghau trysordy ei gysuron ef. Nid yn galed neu yn gynil y mae efe yn cyfranu ar ei bobl; eithr "y mae yn rhoddi mesur da, wedi e* ysgwyd, ac yn myned drosodd," yn myn- wesau ei seintiau. Molianner ei enw byth am hyny. M a wyddom. Mae efe yn rhwymo'r wy- bodaeth hon wrth blant Duw yn unig, gan droi allan yr holl rai bydol a naturiol: 2 Cor. ii. 14, 'Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Yspryd Duw; canys ffolineb ydynt gan- ddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ys- prydol y bernir hwynt." Nid all rhagorol bethau Cristionogrwydd fod yn adnabyddus i neb ond i'r rhai sydd yn eu meddiannu. Fe all perlau y byd hwn fod yn fwy adnabyddus i'r rhai sydd hebddynt, nag i'r rhai y maent gan- ddynt; ond perlau yr etholedigion nid ydynt hynod i neb, ond i'r sawl sydd yn eu mwynhau: " y manna cuddiedig, a'r enw newydd nid ed- wyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn."-— Dat. ii. 17. Soniwch am lawenydd ysprydol, neu am ragorfreintiau Cristionogol, wrth y bydolion, chwi fyddwch iddynt fel Barbariaid, neu rai yn llefaru mewn iaith ddyeithr ; ac os soniant eu hunain am bethau'r Yspryd, maent fel adar, y rhai a ddywedant y peth na ddeall- ant. Nis gŵyr yr anifail ddim am ardderch- awgrwydd bywyd dynion; os caiff ef ŷd a gwair, nid ymorol am ychwaneg : felly ni ŵyr y dyn anianol ddim am ardderchawgrwydd bywyd y Cristion ; os caiff ef etifeddiaeth Esau, sef brasder y ddaiar, ac amlhau o'i ŷd a'i wîn, cymered y sawl a fyno (o'i ran ef), y tangnef- edd, y cyíìawnder, a'r llawenydd sydd yn yr Yspryd Glân. Dyma eich cyflyrau, 0 fydolion truenus: yr ydych dan yr un felldith a'r sarph, Gen. iii. 14, "yn ymlusgo ar eich torau, ac yn bwyta o bridd y ddaiar," heb lygad i edrych i fyny, na chalon i geisio y pethau sydd uchod : truenus ofnadwy ydyw eich cyfíyrau : yr yd- ym yn eich rhybuddio am danynt; nid oes ond yr Arglwydd a all eich gwaredu o honynt. M a wyddom. Dyma fam gwroldeb ysprydol, sef gwybod fod pob peth yn troi er daioni i'r Crist- ion. Fe â milwr yn wrol i ryfel dan obaith o enill y dydd, a'r morwr i'r tònau cynddeiriog, heb wybod beth fydd y diwedd; eithr hwn nid yw yn rhedeg ar antur, ond yn gwybod y bydd i Dduw yr heddwcb sathru Satan dan ei draed ar frys.—Rhuf. xví. 20. 0 bob math o ddyn- ion, ni cheir neb yn meddiannu y fath addew- idion a'r credinwyr ; y mae yr Arglwydd yn