Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyfrol XXVI. T^CHWEDX>, 1863. ítliiíyn 311. 8íraeí|0îr»tt, ẅt. PREGETH XI. » DÜW YN ATEB GWEDDIAÜ." "Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder."— PSALM 1X7. 5. Swm y geiriau yw'r ddau beth a ganlyn : 1. Bod yr Arglwydd yu ateb gweddiau ei bobl trwy bethau ofnadwy. 2. Pa mor ofnadwy bynag yw ei atebion ef, eto y maent oll yn cael eu gwneuthur raewa cyfiawnder, ac yntau ei hun yn parhau yn yr holl bethau hyn yn Dduw eu hiachawdwriaeth. ac yn ymddiried i'w holì bobl. Yr athrawiaeth yw hon, Bod yr Arglwydd, trwy bethau ofnadwy, yn ateb .gweddiau ei bobl, fel y mae y nefoedd yn gwrando ar y ddaiar—Hos. ii, 21—a hyny yn gystal pan y byddo hi ýn ystormus a thym- hestlog, a phan y byddo hi yn fwy iraidd a thymherus : ac fel y mae y ddaiar yn gwrando ar yr ỳd, eto yr hyn a hauwyd ni fywheir oni bydd efe marw— 1 Cor. xv. 36. Felly y mae yr Arglwydd yn ateb ei bobl lawer gwaith mewn ffyrdd digon annysgwyliadwy ac anmhleserus ganddynt dros yr amser presenol. " Ofnadwy wyt, 0 Dduw, o'th gysegr," medd Dafydd.— Psalm lxviii. 35. Fel y mae cysuron mawrion yn dyfod allan o'r cysegr, felly hefyd pethau ofnadwy : nid i'w elynion yn unig, nage, ond i'w gyfeillion hefyd. Felly hefy d y mae Moses yn ymadroddi: Exod. xv. 11, " Yn ofnadwy mewn moliant, yn gwnenthur rhyfeddodau." Ateb grasol i weddiau oedd dwyn Israel o'r Aipht i Ganaan, fel y dywedir yn Exod. iii. 7, §, " Gan weled y gwelais gystudd fy nihobl sydd yn yr Aipht, a'u gwaedd o achos eu ûieistriaid gwaith a glywais ; canys mi a wn oddiwrth eu doluriau. Ac mi a ddisgynais i'w 21 gwaredu hwy o law'r Aiphtiaìd, ac i'w dwyn o'r vlad bono i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o iaeth a mêl ; i le'r Canaaneaid, a'r Hethiaid. a'r Amoriaid, a'r Phereziaid, yr Hef- iaid hefyd. a'r. Jebusiaid." Eto trwy y fath ffordd y dygodd efe hwynt, ac a barodd i'w calonau grynu gan lesmeiriau lawer gwaith : tyst o hyuy oedd ychwanegiad eu gofid yno cyn dyfod allan â'u cyflyrau athrist a gofidus ar lan y môr, yn nghyd â'u hymofynion a'u hachwyuion ya erbyn Moses : pen. viv. 11, "AI am nad oedd beddau yn yr Aipht, y dygaist m i farw yn yr aîìialwch? paham y gwnaethost feT hyn â ni, gan ein dwyn allan o'r Aipht?" Ys- tyriwch hefyd y modd y gwnaeth efe â hwynt ar ol hyn ; gallasai eu dwyn hwynt i fynydd ei Banteiddrwydd mewn ychydig ddyddiau, eto efe a'u harweiaiodd hwy trwy anialwch mawr a diffaith, "lle yr oedd seirph ac ysgorpiouau," &c, a miloedd o honynt a fuant í'eirw yno. Hyn i gyd a wnaeth efe mewn ateb i weddi, ac yn gwbl ni bu golled, canys dywedir, Deut. xxxii. 10, "Arweiniodd ef o amgylch ; a phar- odd iddo ddeall, a chadwodd ef fel canwyll ei Ateb hynod arall i weddi oedd dyfodiad ein Harglwydd yn y cnawd : Mal. iii. 1, 2, " Wele fi yn anfon fy nghenad, ac efe a arloesa'r librdd: o'rn blaen i: ac yn ddisymwth y daw yr Argl- wydd, yr hwn yr ydych yn ei geisiO' i'w demlj. sef Angel y cyfammod, yr hwn yr ydyeh yn ei, chwennych : wele efe yn dyfod, medd Argl- wydd y lluoedd. Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef ? a phwy a saif pan ymddangoso efe ? canys y mae efe fel tân y íoddydd, ac fel sebon y golchyddion." 0 herwydd paham y gelwir ei ddydd ef yn ofnadwy: Mal. iv. 5, "Wele, mi a anfonaf i chwi Elias y prophwyd, cyn dyfod dydd mawr ac ac ofnadwy yr Argl- wydd." Felly y dywedir yn Joel ii. 31, " Yr haul a droir yn dywyllwch, a'r lleuad yn waed,