Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y \j \ r A1 ì-j jL/. Cy/rol XXX. EBItlHiL, 1867. Rhiíyn 364. ìrpfkta% LLEF TEIMLAD AR OL T PARCHEDIG DDR. ROWLANDS. " Fy nhad, ty nhad, cerbjd Israel, a'i farchogion." —2 Bren. 2. 12. Teimlad gwas ar ol ei feistr yw y geiriau uch- od, a hjny dan amgylchiadau tra hynod. Yr oedd ymlyniad cryf rhwng Eliseus ac Elias ; gwrthodai adael ei feistr er pob taeríaeb, nes i'r cerbyd tanllyd, a'r meirch tanllyd ddyfod rhyngddynt, a'u gwahanu ill dau. Teimlai wedi ei golli fel plentyn wedi colli tad. Mewn teiraladau cyffelyb yr ydwyf finau yn cael fy hun, er pan glywais am ymàdawiad fy auwyl a'm parchus dad, y Dr. Rowlands. Ar ol dar- llen hanes ei farwolaeth a'i gladdedigaeth gan Dr. Roberts, a'r pregethau angladdawl gan fÿ anwyl frodyr Roberts a Powell, cynhyrfwyd fy enaid gan hiraeth—llanwyd fy llygaid â dagrau—aeth y geiriau sydd o flaen yr ysgrif hon yn deimlad byw i'm calon, a chynhyrfwyd fi gan ryw ysbryd i gynyg desgnfio y cyfryw i'r cyhoedd trwy y Cyfaill, lle y bu fy anwyl dad yn Nghrist yn dadblygu ei dalentau am gynifer o flynyddau. Ystyriwyf ef yn dad o ran oedran, o ran tal- ent, o ran crefydd, ac o ran profiad a defnydd- ioldeb. Teimlwn yn wastad yu ei gyfeillach fel plentyn gyda tbad; gwrandawn ar ei gyng- horion fel cynghorion tadol; edrychwn ato fel plentyn at ei dad am esiamplau a chyfarwydd- iadau. I'w dÿ ef y cefais fy nghyfarwyddo pan y deuais i Utiea gyataf o'r Hen Wlad. Ato ef y byddwn yn myned am gyfarwyddyd pan yn dechreu pregethu. a chefais ef bob am- 8er yn dadol. Trwy ei gyíarwyddyd ef yr aethym gyntafi Carbondale, Pa., i fyw. A phan y byddwn yn myned i New York, ni byddwn yn ystyried fy mod wedi cyrhaedd yno nes cael tŷ Rowlands. Byddwn bob am- ser yn teimlo yn ddiofn yno i ddywedyd fy holl feddwl, a'm helynt crefyddol a theuluol. Pan yr oedd efe yn Utica, a minau yn Eome, anfynych yr awn i Utica heb fyned i'w dỳ ef. Ac yn mis Chwefror, 1866, pan ar ymweliad â fy hen fro, cefais rai oriau o'i gyfeillach. Siaradai lawer am lyfrau, a chyhoeddi llyfrau. Dywedai am ei fwrîad i gyhoeddi Llaw-lyfr y Beibl, a Haûes yr Eglwys, &c. Bychan y meddyliwn fod ei dâith ddaiarol mor agos i'r pen, ac na chawn weled ei wyneb siriol mw-y- ach yn y cnawd ; ond erbyn heddyw felly y mae. "Fy nhad, fy nhad!" Ni chaf niwyach weled dy wyneb, na chlywed dy lais soniarus yn y pwlpud yn cyhoeddi anchwiliadwy olud Crist. Na, y mae wedi tewi am byth ar y ddaiar. Yr oedd ei berson hardd yn rhyw in- troducüon iddo i scrch ei wrandawyr pan god- ai yn yr areithfa. O fy nhad!—y mae hwn wedi cael newid ei wyneb a'i aufon i ffordd. Y dwylaw ty'ner, a'r bysedd meinion a ysgydwent yr ysgrifell mor gyflym a destlus, yn awr yn malurio yn y bedd. Y llygaid treiddiol a thanbaid a edr- ychent mor swynol a threiddiol, yn awr wedi tywyllu, wedi cau yn yr angau. Rhaid cario yn mlaen yr holl Gymanfaoedd hebddo. Y CrFAiLL y teimlai yn wastad y fath bryder dro^to, rhaid ei gario yn mlaen bellach heb- ddo. Ie, rhaid i'w anwyl wraig godi a îlyw- odraethu y plant hebddo. Hynod mor diríon wrth ei deulu ydoedd yn wastad. Os ydoedd yn colli hefyd yn ei deulu, wrth foä yn rhy dirìon y gwnai. Teimlai bryder mawr yn ach- os ei William ; ac 0! mor ddymunol fyd'dai cael ar ddeall íbd " deuparth o'i ysbryd " yn syrthio ar ei anwyl William. Y mae wedi gadael ei fantell megys ar ei oli William a Thomas, ei feibion, a'r holl lyfrau gwerthfawr, a'r ysgrifeniadau buddiol sydd yn ei fyfyrgell. Y mae y flbrdd i anrhydedd megys wedi ei di- garogii gan eu tad iddynt hwy. Byddai eu