Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyfrol XXX. MEHEFIN, 1867. E-Míyn 366. ìrgoíiŵae% L-HABER CA3SÎEIF TN OL i Meuon noâion ofywyd ac amserau Hugh Bóberis, diweddar o Proscairon, Wis., tad y Parch. T. H. Boberis. Oan y Parch. David Eughes. "Ystyria y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oes- ©edd."—Daitdd. Ee mai creadur y dyfodol ydyw dyn, eto y mae cysylltiad agos a phwysig rhyngddo á'r presenol, a'r hyn ä fa, fel mai ei fraint a'i ddyledswydd ydyw diwyllio ei hun a'i oes oddiwrth y naill a'r llall, fel y cymhwyser ef i fwynhau y dyfodol mewn urddas teilwng i'w greadigaeth, ei gynnaliaeth, a'i brynedigaeth, trwy yr hyn y dyrchafwyd ei natur i undeb â dwyfoideb yn mherson ei Brynwr, ac yr add- urnir hi yn ogoneddus â delw Mab Duw ar fryniau Caersalem. Ond er bod yno yn ngor- lawnder dedwyddwch y nef, ni bydd uwch- law tremio yn ol gyda phleser ar daith yr an- ialwch a'i helyntion trallodus, nes tanio ei serch, a'i gân ddiddiwedd, mewn mawl ser- aphaidd am ofal trugaredd a gras ei Dad nef- ol am dano, trwy rinwedd gwaed y groes. Y mae ein nodion yn ein harwain ryw 80 mlynedd yn ol, pan oedd Cymru yn " Wyllt Walia," wrth ei chydmaru â'i hagwedd bresen- ol, pan na feddyliodd neb am freuddwydio, chwaithach prophwydo, y byddai y " llongau tàn " yn rhwygo ei barau a'i haberoedd; y cerbydau eirian yn olwynaw trwy gymylau o lwch ar ol y meirch pranciol ar hyd ffyrdd llydain, palmantawl, rhwng ei bryniau; pal- asau têg ya addurno dannedd ei chreigiau, a'r agerbeiriannau yn crochffroeni trwy y col- ofnau mwg, wrth dyllu ei myuyddoedd i glodd- io ei mwnau, a liifio a llyfnhau ei llechi i ddodrefnu llysoedd breninol; yr agergerbyd- aa yn ehwyrn ruthro trwy y mynyddau, a thros afonydd yn mhob cyfeiriad ; dinasoedd têg yn adsain gau dwrf celf a masnach, yn eafle y corlanau defaid; eglwysi pinaclaidd, a chapelau castei.aidd yn britho y llethrau yn lle ceryg llwydìon ; a'r trigolion hardd-wisg- awl yn eu llenwi wrth y miloedd, gan ddyr- chafu mawl î'r Arglwydd lor, Ile gynt y can- ai y gôg a'r fwyalchen. Nid felly yr ydoedd yn adeg cychwyniad oes gwrthddrych eìn nodion, I ddiwyllio y tir gwasanaethai pâl bren, ac aradr, ac ôg amrosgo o'r un defnydd ar ol yr ychain ; ceir- llysg, a chewyll, i gludo y gwrtaith, a'r cyn- yrch ; a gwasanaethai pen ac ysgwyddau, cefnau a breichiau y tyddynwr a'i ostyngedig briod, yn offerynau clud y rhan fynychaf. Gwnai rhyw fath o hugan gwta, a chlôs pen glin, het gron, a hosanau cochddu, oll o gnu y ddafad, wedi ei weithio gartref, y wisg barchusaf; ac os ceid bwcwl arian ar gefn esgid arw, anaml y gwiegid hi nes cyrhaedd cwr y ffair, neu ddrws yr eglwys. Graddau uchel o ddysgeidiaeth oedd gallu adnabod y llythyrenau pŷg ar y praidd, ac yn enwedlg bod yn alluog i ddarllen a chanu chwareu- gerddi, y "Bardd Gv7Sg," " Taith y Pererin/' a " Llyfr y Vicar," gan adael i glochydd a pherson y plwyf yr anrhydedd o ddarllen y "Llyfr Gweddi" a'r " Beibl Mawr." Ond gorchestion uchaf y plwyfolion oedd chwareu y bél, a thaflu y maen a'r trosol, ymaflyd codwm, a dyrnodio am y goreu, a hyny ar y Sabbothau ar ol y gwasanaeth, ac wrth yr eg- lwys ; a dyfyru eu hirnos auaf â chwedlau am y tylwyth têg, a bwganod, &c. Teimlwn o dan orfodaeth i wneyd rhyw fath o raglith fel hyn, cyn y gallwn bersonòli gwrthddrych ein nodion a'i ymdrechion yn deg i sylw yr oes bresenol; ac yn wir, llusg- odd yntau gryn lawer o'r 18fed ganrif i'r I9eg yn eì ddullweddau eyml, a'i^ddiniweidrwydd