Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyfrol XXX. TACHWEDD, 1867-. Riiifyn 380. Go CSYNODEB 0 EREGETH A äradäodwyä gan y Parch. Thos. Lem yn Nghymanfa Moriah, Ohio, Meh. 6—7,1867, oddùcrth Jonah 4. 11. Dywedir fod Jonah yn aros o'r tu allan i Mnifeh, hyd oni welai beth fyddai yn y ddi- nas. Dysgwyl yn brydems yr oedd am ẁel- ed daiargryn, neu gawod o dân, efallai, yn dyfetha y ddinas fawr. Ar y noson hono cyfododd planhigynyn agos i'w gaban—plan- higyn a dail mawrion arno; ac y mae yn deb- yg iddo dynu Uawer o gam-gasgliadau oddi- wrtho. Dywedir ei fod yn llawen iawn am y cicaion—" Ti sy'n ríght, a chânt weled hyny jn bur fuan." Ond, erbyn tranoeth, yr oedd y cicaion wedi gwywo, a dim ond y gorsen foel yn aros o honi. Dyma Jonah mewn ffit o natur ddrwg gwaeth nag erioed, y cicaion wedi gwywo, a'r ddinas heb ei din- ystrio. "Mi wyddwn i mai Duw trugarog a graslawn oeddit ti, hwyrfrydig i ddig, a mawr o drugaredd. Mi wyddwn i, tra eto yn fy ngwlad, mai Duw maddeugar oeddit ti, a dyna yr achos i mi geisio ffoi i Tarsis; mi wyddwn i yn mlaen llaw mai dyma fel y byddai. Beth a feddyliant yn awr o honof fi fel prophwyd ? Gad i mi f arw; gwell genyf farw na byw, os fel hyn y mae pethau yn myned yn mlaen." "A wyt ti yn ddig iawn, Jonah ?" " Ydwyf, liyd farw ; ni ddeuaf fi ddim i'm lle nes y byddaf wedi marw." Y peth hynod yn hanes Jonah ydyw cyndyn- rwydd; a dim ond' un peth mwy rhyfedd, sef amynedd Duw. Peth diweddaf Duw ydyw taro, fel tad gyda ei blentyn wedi colli ei ffordd, am ei berswadio yn dyner, a'i arwain yn ei ol i'w le y mae ; ac er mwyn helpu tymher fel hyn yn Jonah y daeth y cicaion allan. Md ar daro y mae calon Duw, ond ar arbed; gwaith heb ewyllys gan Dduw ynddo yw taro dyn. Gwneydrhyw beth yn ddigon an- nyben y mae dyn pan y mae heb ewyllys yn ei waith; f elly y mae Duw yn taro yr annuw- iol; ond pan y mae yn arbed, mae yn gwneyd hyny dan ganu. "A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Jonah, Ti a dosturiaistwrth y cicaion, ni lafuriaist wrthi," &c. Eheswm Duw dros ar- bed ydyw y geiriau hyn. Mae y Duw mawr yn ymostwng i roddi rheswm dros arbed, ac y mae yn myned i fynwes Jonah i gael gafael arno. "Ti a arbedaist ycicaion; mae tipyn o arbed ynot tithau hefyd, yn nghanol grwg- nach; ac oni chaf finau arbed fel tithau ?" Y mae dyn yn ddadguddiad o Dduw. Mae dadguddiadau y Beibl wedi eu seilio ar y dad- guddiad mewn dyn. Ms gallasem ni ddeall y Beibl heb hyn. Mae Uawer o'r Beibl wedi ei seilio ar berthynasau dyn. Ms gall angel ymwneyd â'n Beibl ni; Beibl i ni ydyw. Ed- rychwch ar deimladadau tad at ei blentyn; pe tynid y rhai'n o'r Beibl, byddai yn llawer Uai nag ydyw. Beth a ẃyr angel am bethau f el hyn ? Dim ond trwy hanes yn unig. Md oes angel yn y nef yn dad, nac yn blentyn i angel arall. Pob parch i Gabriel a'i alluoedd nerthol; ond pe rhoddech ef wrth ochr tad i geisio deall dammeg y mab afradlon, byddai ar goll yn y man; felly, mae llawer o ymad- roddion wedi eu gosod ar deimladau y natur ddynol; " a'r cwbl sjäà arnaf fi eisiau i ti, Jonab, wneyd, ydyw chwilio am y teünladan goreu hyd yn nod yn dy rwgnach, oblegid nid ydyẃ grwgnach yn ddrwg i gyd. Y mae yr Arglwydd yn rhoddi ei hun yn ymyl Jonah, i ddangos pa mor debyg ydynt, nid pa mor an- nbebyg. Pe rhoddid y Wyddfa i lawr ẁrŴ ochr swp o bridd y wâdd—y môr wrth ochr y dyferj n —yr haul wrth ochr y ganwyll frwyn, byddai yno ryw gydmariaeth; ond dyfod a, rnynwes y Duwdod mawr, a'i gosod Avrth ochr mynwes Jonah, sydd beth rhyf edd; eto ar hyn y mae yr ymresymiad wedi ei seilio :