Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyfrol XXXI. IOÍî'^WR,, 1868. üliiíyii 383. ^ìrgŵtotlj. L~T PAECH. MOEGAÎT JOHI EHTS A'I DDTDD-LTFE. Medi 5ed. Awel weddol, pe bae'r gwynt gyda ni. Yr ydyni yn hwylio tua'r deheu-or- llewin, wedi bod yn hwylio yn hwyr y ddoe i'r gogledd. Y mae amryw longau wedi bod inewn golwg, ond y mae'n debyg nad ydynt ddim am gyfarch llawer i'w gilydd yn amser rhyfel, oddieithr gyda'r dyben o gymeryd y naill y llall. Oh na bae rhyfeloedd yn peidio hyd eithafoedd y ddaiar! 0 ba le mae rhy- feloedd ? Onid balchder yw'r achos o'r rhan fwyaf o honynt? chwenychiad i chwanegu awdurdod, ac amddiffyn anrhydedd penau coronog. Y mae'n wir fod rhyfeloedd weith- iau yn dechreu gyda'r bobl, a hyny yn gyf- iawn, pan y maent yn amddiffyn eu hawliau a'u rhyddid cyfreithlon yn erbyn trais eu gor- meswyr. Un o'r pethau mwyaf arswydus sydd yn perthyn i ryfeloedd yw, fod dynion yn gorfoleddu yn ninystr eu cydgreaduriaid; ie, fod dynion sydd yn proffesu Oristionog- aeth yn cadw diwrnodau o fawl i Dduw am eu bod wedi cael cystal llwyddiant i ladd dyn- ion! Nid yw y ffordd gyíîredin o gadw dydd- iau ympryd ddim Uawer gwell. Y mae bren- inoedd ac ymherawdwyr yn gyntaf oll yn cy- hoeddi rhyfel yn erbyn rhyw deyrnas neu wladwrìaeth arall, ac yna y maent yn galw ar eu deiliaid i ymprydio am eu pechodau, fel pe baent wrth hyny yn gallu taflu man- tell dros bechodau melldithiol eu blaenoriaid, y rhai ydynt fel cynifer o fwrddwyr yn myn- ed i rifo eu eydgreaduriaid wrth y miloedd i'r cleddyf. Beth dál son am wroldeb Hannibal, dyrchafiaeth Scipio a Phompey; Uwyddiant a dynoliaeth Ca^sar a Belisarius; buddugol- iaethau Kingis Khan, Mahomed, a Thamar- lane ? Ni wiw adgoffa sél gibddall y ürum- ders, a miloedd gyda hwy, sydd wedi llych- wino eu dwylaw mewn cymaint o waed, ag a fuasai erbyn hyn yn ddigon i guddio gwyneb yrholl ddaiar. O na bae dynolryw bellach yn dysgu trwy brofiad gymaint o ddoethineb ag i roddi i íyny ryfeloedd afreidiol, a chym- hwyso yr arian sydd yn myned i'w cynnal at ddysgu dynion i garu eu gilydd, ac i feithrin y ceìfyddydau teg. Gobeithio nad yw yr am- ser ddim yn mhell pan y bydd i ddynion wel- ed yr ynfydrwydd o fyned i ryfel braiâd ar bob achlysur. Eto y mae yn rhaid i mi gyf- addef fod yn fwy anrhydcddus i genedl o ddynion farw mewn rhyfel, na byw mewn caethiwed. Yr aclios bod rhyfcloedd yw, Gwrthryfel dyn ynerbyn Diiw; Duw'r cariad ydyw enw'r Ior, A'i blant sy'n un o fôr i for. ílid awdwr rhyfel ydyw Duw, Mae'n chwenych uno dynolíyw, Mewn un frawdoiiaeth is y rief—- Duw'r heddwch yw ei en\v ef. Medi öed. Yr ydym yn hwylio yn nés i'r gorllewin heddyw na ddoe, ond nid ydym yn gwneyd fawr hwyl yn mlaen. Fe ddaeth brifj o Newfoundland heibio i ni boreu hedd- yw, mor agos fel yr oeddem yn galîu siarad a'n gilydd; yr oedd yn inyned i Oporto, yn Portugal. Y mae'r lle diweddaf jrx hynod am win, a'r cyntaf am bysgod a elwir cod. Yn amser pysgota y mae o gylch 10,000 o ddyníon yn cael gwaith yma, rhwng pysgota a pharoíoi y pysgod i'w hanfon i Spain, Por- tugal, Italy, a'r Levant, o ba leoedd y mae yn dyfod am danynt bob blwyddyn i Loegr o gylch tri chant o bunnau. Mawr y cyfoeth sydd yn dyfod i Frydain o bob gwlad. Ni byddai ynys mwy dedwydd yh y byd pe bae yn byw yn ofn yr Argiwydd, peidio gormesu y cyífredin bobl, a rhoi heibio ei rliyfeloedd anghyílawn. Ond y mae i deyrnasoedd fel dynion eu dydd o ddyrchafiaeth, a dydd o ddarostyngiad! Fe ddywedir am un gormes-