Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Oyfrol XXXI. OHWEFROR, 186S. liliiíyn 383. ATEEISTIAETH YE EPHESIAID. "Heb Dduw yn y byd."— Ephes. 2. 12. Mae Paul yma yn anerch yr Ephesiaid oedd- ynt newydd eu troi, a'u dychwelyd at Grist- ionogaeth; cyn y dygwyddiad mawr hwnw yr oeddynt " heb Dduw yn y byd." Mae yr Apostol yn dwyn ar gôf iddynt, yn y bennofl hon, eu sefyllfa dywyll, eu llygredd moesol, a'u condemniad dirywiol cyn i gennadon hedd gyhoeddi iddynt Iesu G-rist—'' Hcb Dduw yn y byd." G-an fod y gwirionedd torcalonus sydd yn y testyn yn cael ei gadamhau gan awdurdod anffaeledig y Gair Dwyfol, yn gystal a holl yrfa y dadguddiad Cristionogol, a theimlad cyífredinol y byd, gallem ymwrthod a'r gor- chwyl o ymchwilio am brofion pellach o'i wir- ionedd. Ond, nid yw Duw yn ein gwahardd i brofi, ac egluro y cydgordiad perffaith sydd yn bodoli rhwng ei Air ag egwyddorion rhes- wm a natur. Ar y tir hwn yr ydym yn gwra- hodd pawb i ddyfod gyda ni i ymchwilio i'r profion o osodiad mawr Paul, fod yr Ephes- iaid cyn credu a derbyn Crist " heb Dduw yn y byd." Cofier, hefyd, fod yr hyn a brofir am yr Ephesiaid yn y cysylltiad hwn yn wir- ionedd am bob dyn. Cynorthwyed y darllenydd ni â'i sylw. Ac os oes ynddo ragfarn at y safle a fwriada ei chymeryd, ymdreched ddirwasgu y cyfryw am ychydig o amser. Nid ydym yn myned i brofi nad oedd yr Ephesiaid, cyn eu troedig- aeth, yn credu dim o berthynas i Dduw; byddai hyny yn dir nas gallem sefyll arno. Mae crediniaeth yn modolaeth Duw mor reddfol mewn dyn, ac mor hanfodol f w reswm, fel mai un o'r pethau anhawddaf i'r dyfnaf mewn Uygredigaeth ymarferol fyddai yra- ryddhau oddiwrth y cyfryw grediniaeth. Md yw pob dyn yn atheist a ewyllysiai fod felly. Na, y mae yn orchwyl rhy anhawdd i ddileu y teimlad o, a'r grediniaeth yn modolaeth Duw. Mae y cythreuliaid yn credu, ac yn crynu. Os felly, pa fodd yr oedd Paul, tra yr ydoedd teml f awr Diana yn ymgodi o fiaen ei lygaid, yn gallu dyweyd—yn gallu ysgrif- enu y fath beth at yr Ephesiaid ? Pa fodd yr oedd yn gallu ysgrifenu y fath haeriad, tra yr oedd yn gwybod fod Athen yn llawn o allorau, a'r bobl yn ymgrymu o'u blaen mewn 11 defosiwn ac addoliad ? Pa fodd, gan hyny, yr oedd yn ddiogel iddo ddyweyd yn hyf wrth yr Ephesiaid a addolent Diana, a Jupiter, ac wrth yr Atheniaid a ymgryment mewn addoliad o flaen eu Minerva—uIIebDduw yn ybydT Yr hyn a ddymunai iddynt ddeall oedd, fod yr Ephesiad annychweledig—îe, yr Ephesiad mwyaf goleuedig, er dilyn camrau y philoso - phyddion nes cael hyd i'r meddylddrych mawr o'r Undeb DwTyfol—fod hwn, tra heb Grist, mor druenus ei gyflwr a phe na buasai yn credu mewn Duw yn y byd; îe, mai yr un peili fuami iddo beidi-o credu yn Nuw, a chredu ynddo fel yr oedd. Dyna y peth yr oedd Paul yn ei alw, "Heb Dduw yn y byd." Duw fel yna sydd yr un peth a bod heb Dduw o gwbl. A ydyw hyn yn ymddangos yn anhawdd i'w gredu gan ryw un sydd yn darllen y llinellau hyn ? Os ydyw, caniataer i ni ofyn cwest- iwn neu ddau. Beth sydd i'w ddeall wrth gredu yn hanfodiad bod ? Ai nid credu fod gwrthddrych yn bodoli, yn yr hwn y mae priodoleddau yn ymuno i'w wahanu, a'i wra- haniaethu oddiwrth bob un arall ? Onid y pri- odoleddau, neu yr ansoddau sydd yn gwneyd y gwrthddrych yr hyn yw, ac nid yn rhywr beth arall ? A phan y tjmom y priodoleddau hyn ymaith, y naill ar ol y Uall, onid yw hyny yn dyfod i'r un peth a gwadu y gwrthddrych ei