Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

j_ u i r x\. 1 JLj JLj. C'yfrol XXXI. EBRILL, 18GS. IRliifyn. 385. %xẁúúû. ELFENAU GWEIMDO&AETH LWYDDIANNUS.* EaLUR ydyw fod y weinidogaeth wedi cael lle niawr yn meddwl cenedl y Gymry, a bod pregethu wedi codi mor uchel, a bod yn fwynhad a dyddanwch i lawer o honynt. Y mae eu parch yn fawr i'w pregethwyr, fel yr edrychant arnynt fel rhai urddasol, ac y defnyddiant eu cyfarwyddiadau yn holl gy- sylltiadau eu bywyd. Edrycha ein cenedl' ar y weinidogaeth fel ppth urddasol, ac y mae wedi ennill ati y galluoedd cryf af, a'r talent- au dysgleiriaf, yn gystal a'r meddyliau mwy- af duwiolfrydig a fedd y genedl. Parch i Dduw ydyw ei achos, a chrefydd y galon a'i hysgoa. Edrychir ar bregethu yn ordinhad Ddwyfol, ac yn foddion a anrhydeddwyd yn hynod gan Dduw yn yr oes apostolaidd. Pregethu a f u prif f oddion gwasgariad gwy- bodaeth o'r Efengyl, a Duw yn cydweithio nes ennül miloedd o Iuddewon erlidgar i gredu yn Mab Duw, a chofleidio Cristionog- aeth; hefyd, i ddwyn Uuaws o'r Cenedloedd tywyll ac ofergoelus oddiwrth eilunod mud- ion i wasanaethu y gwir a'r bywiol Dduw. Hefyd, y Diwygiad Protestanaidd; pregeth- iad syml a dwys Luther a'i gydlafurwyr o athrawiaeth fawr Cyfiawnhad trwy Pfydd a wnaeth i orsedd y Pab grynu, ac sydd hyd eto yn parhau i ysgwyd dano; a buan y byddo nerth gweinidogaeth y Gair wedi ei daflu yn dragywyddol oddiami, ac y clywir y fanllef ogoneddus, " Syrthiodd, syrthiodd Babilon, y ddinas fawr hono." Ond er i'r hen long Babyddol gael ei suddo gan ergyd- ♦Traddodwyd yn Nghymanfa Moriah, O., Meh. 8, 1867, gan y Parch. H. Powell, Cincinnati, O., pryd y penderfynwyd cyhoeddi yr Anerchiad yn y Cyfaill. Y rheswm na chyhoeddasìd hi yn gynt ydyw mai y mis diweddaf y daeth i law. Bendithied Duw ei dar- lleniad i fod yn fywyd newydd yny Weinidogaeth.— Gol. ion magnelau milwyr Seion, achubir miloedd o'r rhai sydd ar ei bwrdd trwy ffydd yn Mab Duw. Pregethu fu y prif foddion a ddefnyddiodd Duw yn y Diwygiad Methodistaidd, er goleuo ein cenedl oedd mewn dygn dywyllwch— deffro y rhai a dawel gysgent yn mro tywyll- wch a chysgod marwolaeth—dryllio llyffeth- eiriau ffurfiau oddiam y crefyddwr marw- aidd; íe, a fu yn foddion i argyhoeddi y llu- aws dideimlad, nes eu dwyn i waeddi, " Ha wŷr frodyr, Pa beth a wnawn ni ?" " Pa beth a wnaf f el y byddwyf cadwedig ?" Ie, Uais ý weinidogaeth a ddangosodd y cysgod, man y diogelwch—" Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd," nes dwyn cannoedd i gredu ynddo—gorfoleddu a neid- io o lawenydd. Y mae enwau y tadau Har- ris a Rowlands, ac amryw eraill. yn gysegr- edig ar lechau ein calonau fel gweision y Duw Goruchaf, y rhai a fynegasant i ni ffordd iachawdwriaeth. Ac y mae Llangeitho • a'r Bala yn ail i ni i Bethlehem, Calfaria, a Jer- usalem, oblegid y pethau hynod a wnaeth Duw trwy y weinidogaeth. Ond yr ydym yn dysgwyl pethau mawrion eto trwy y weinid- ogaeth, oblegid y mae "yr efengyl hon am y deyrnas" i gael ei phregethu trwy yr holl fyd. " Ffydd i ddyfod trwy glywed, a chlywecl trwy air Duw." "Gwelodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu." Y mae y weinidogaeth yn parhau yn ei mawr- edd, yn nerth ei thalentau, i'e, dichon yn uwch nag y bu erioed yn ein plith; a chymer- yd golwg gyffredinol ar y pwlpud, y mae mwy o rai galluog, er dichon nad oes ond rhyw ychydig o rai mor hynod fel Elias. Hefyd, y mae y pwlpud yn meddu dylanwad mawr ar y genedl i wrthsefyll cyfeiliornadau a llygredigaeth, ac i gynyrchu diwygiadau ac ymdrechiadau o blaid crefydd. Gwelwn hyn yn y pethau mawrion a wneir gan y genedl mewn cyfraniadau at gynnal yr achos, at