Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYMRY Y.H AMEBICA. 133 ion y teulu, ar y 5ed o'r un mis i anf on ei gorff gwael i dŷ ei hir gartref, ar Oypress Hill, lle mae gan y teu- lu feddrod teuluaidd, t'r hwnyr oeddynt wedi cyrchu gweddillion mab a merch a gladdasant o'r blaen yn y N. Y. Bay Cemetery Gweinyddwyd ar yr achlysur— y moddion crefyddol yn y tŷ gan yr ysgrifenydd, a'r gweinidog yr arferai Gruffydd fyned iw wrandû yn gyson, ond wrth y bedd gan yr ysgrifenydd yn unig. E. Gbifmth. GALARGAN AE OL YR UNRHYW Y gauaf du a gefnodd, Ä'r gwanwyn gwyn a ddaeth: Y goedwig sydd gauadfrig, A'r llysiau'n llawn o faeth; Mae'r blodau braf a blithion Yn britho bro a bryn, Ond Grulîydd hoff sy'n gorwedd Yn dỳn dan gloiau'r glyn. Mae'r ebol bach yn chwareu Yn falch o gylch ei fam, A'r mwynion wyn sy'n heinif, A llonderyn eu llam; , Y fronfraith a'r fwyalchen, Sy'n llawen yn y llwyn, Ond Graffydd holf sy'n gorwedd O dan y cloiau tyn. Y wenol chwai a chwery Fel cynt o gylch y tŷ, Heb feddwl fawr f od Gruffydd O fewn y ddaiar ddu; Melynog mwyn sy'n moli Mor beraidd ag o'rblaen, Ond Gruffydd hoff a orwedd Yn dawel dan fedd-faen. Amaethwyr a masnachwyr Sydd ddiwyd gyda'u gwaith, Y celfwyr a'r colegwyr, A'r tŵhwyr ar eu taith ; Ond mwy nis gwelir Gruffydd Yn teithio daiar lawr, Mae ef yn tawel orphwys Ar ol ei gystudd mawr. £i gyf oed a'i gyf eillion Sy'n llawn gobeithion llon, Yn dysgu y gwybodau, A chelfau'r ddaiar hon; Pryd arall maent yn chwareu Yn hoenuf iawn eu gwedd, Heb feddwl fawr am Gruffydd, Sy'n gorwedd yn ei fedd. Ond rhiaint a hiraethant, A'u bronau briw mewn brwyn, Wrth goflo am eu ceinfab, Fu dirion a digwyn; Yinddyddan byddant beunydd Am dano wrth y tân, A'n c'lonau yn glwyfedig Am gladdu Gruffydd lan. Ei goffrau bach a'i gellau Sydd lawn o waith ei law, Ond ef a gludwyd ymaith Tan glwyf au brenin braw; Yn gwenu mwy nis gwelir Yn fwynaidd ar ei fam, Mae heddyw yn y gwynfyd O gyrhaedd pob rhyw gam. Os hoenus yw'r ehedydd Y dyddiau dedwydd hyn, Mae Gruffydd yn fwy hoenua Yn mhlith yr engyl gwyn; Os swynol seinia eos A gwenau gwanwyd gwyn, Mwy swyìiol seinia Gruffydd Ei fawl ar Seion fryn.. Wel bellach byddwch dawel, Ei geraint anwyl cu. Niddychwel ef byth atoch O blith y nef ol lu ; Ond cofiwch am y cyfnod Y cwrddwch eto 'nghyd, 2V". Y. I ganu yn ddigwynion I Brynwr mawr y byd. Daw gwaelaidd gorff eich Gruffydd 0 garchar tywyll fedd, Yn debyg i'w Anwylyd, Heb waeledd yn ei wedd; Os claddwyd ef mewn gwendid, A llygredd yn y llwch, Caiff godi mewn gogoniant, Ryẁ ddydd o'r ddaiar drweh. Mae Iesu wedi codi, Yn ernes rad i ni Y codir ninau hefyd Trwy allu Un yn Dri; Pryd hyn yr herir angan, Ei golyn llym a'i gledd, A bloedcíir buddugoliaeth, 'N ol dod i'r lan o'r bedd. Ac O! mor ddedwydd wed'yn Fydd byw yn nhŷ ein Tad, Ac etifeddu'r deyrnas, Ordeiniwyd i ni 'n rhad; Bydd melus seinio moliant Gan deulu dedwydd Duw, Amgadwa chymhwyso 1 wlad sydd well i fyw. E. G. MRS. ANN HARTLBY. Chwef. lüfed, o gydgrynhoad yr ysgyfaint, mewn canlyniad i anwyd, Mrs. Ann Hartley, gweddw y di- weddar Grifflth O. Hartley, Lichfield, yn 52 mlwydd 3 mis a 16 diwrnod oed. Gadawodd ar ei hol wyth ò blant i ymdaro ag amgylchiadau y byd trafferthus hwn—tri o feibion a phump o ferched, ac yr oedd amrai wedi ei blaenori i'r byd ysbrydoí, yr olaf o'r cyfryw oedd fab, yn 21 ml. oed, wedi bod yn myddin yr Unol Dalaethau am tua thair blynedd, lle y caf odd afiechyd a drodd yn angeuol iddo." Ar y láfed, heb- ryngwyd ei gweddillion marwol i fynwent Frankfort Hill, lle y gorphwysai gweddillion ei phriod a'i 4>hlant yn flaenorol. Cyfiawnwyd y gwasanaeth cref- yddol ar yr achlysur gan y brodyrE. T. Jones, Utica aT. H. McClenthen, Lichfield. Genedìgol oedd Mrs. Hartley o Brynllwyn, ger Towyn, Meirionydd, G. C. Ymf udodd i'r wlad hon yn 1842; bu fyw yn amgylchoedd Utica hyd y dydd- iad uchod. Yr oedd ei hiechyd wedi gwaelu er ys blynyddau gan fath o ddarfodedigaeth, neu ddiffyg anadl, f el yr oedd yh cael adegau yn f ynych o wael- edd poenus, fel yr oedd wedi ei chynefino ag afiech- yd, ac yn agos ì angau o ran ei theimlad; ond nid oedd eraill yn credu ei bod mor agos, ac felly daeth ei hymddatodiad yn annysgwyliadwy i'w pherthyn- asau a'i chymydogion yn gytfredin, ac feliy mae ei cholli yn cyrhaedd y teimlad yn ddwysach. O her- wydd ei mynych waeledd, nid oedd yn deall ei bod i ymadael nes, oedd yn rhy beil yn rhydian yr afon i allu hysbysu ei pherthynasan na neb arall pafodd yr oedd arni; er hyny mae genym le i gredu fod y symudiad yn elw iddi. Yr oedd yn hynod ffyddloh gyda moddion gras yn mhob peth a allai wneyd gyda yr achos ; meddai brofiad helaeth yn gyffredin o beth- au ysbrydol, fel y pwysai ar addewidion Duw yn ei Air; hefydei chysondeb a'i hyfrydwch yn darllen a thrysori y Beibl yn ei chof—yr oedd yn nodedig yn hyn, fel y gallem nodi rhai engreifftiau pe buasai o-of- od yn caniatau, ac yr oedd yn dra hoff o ganu hymn- au. Cymerai lawer o drafferth i ddysgu rhanau o'r Beibl i'w phlant, sef y rhai ieuangaf,"a chynghorai hwy a'r rhai hŷn i ddarllen a dysgu y Beibl, ac i fyw yn ei ol, gan ymddiried yn y Cyfryngwr, ac nid pwyso ar eu gweithredoedd eu hunain. L. MK. WILLIAM J. WILLIAMS. Chwef. 28,.1868, yn uinas New York, y cyfrifol a'r enwog ddinesydd, Mr. William J. Williams, o'r Nas- sau Bank, yn y lle hwn, yn 68 mlwydd oed, sef y Bardd godidog, uchel ei glod, Gwilym ab Ioan, yr hwn a an- wyd yn y Tyddyn-du, yn nghymydogaeth y Bala, yn Nghymru. Ymf udodd i America yn 1824, a thiriodd yn ddiogel yn y ddinas hon. Wedi iddo drculio rhai blynyddoedd yma, daeth yn ei f ryd i geisio cydmar- es bywyd, ac yn mis Mai, 1828, ymbriododd a^ un Miss Jane Reed, boneddiges ieuanc brydweddol a chariadus iawn, genedigol o Swydd Oneida; buont