Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y OYFAILL. Ì77 äi^i, ìses. RJiifyn 3S6. EGLWYS CRIST.* Llâwer a lefarwyd ac a ysgrifenwyd ar y pwnc pwysig a dyddorol hwn. Weithiau cym- erir testyn neillduol o'r Ysgrythyr yn sylfaen —bryd arall lleferir ac ysgrifenir arno heb un adnod arbenig yn sylfaen. Mabwysiadwn ninau yr olaf yn yr ysgrif hon. Tebygol mai ystyr y gair Eglwys ydy w cyn- ulleidf a, heb olygu dyben na lle y cynulliad- Eithr ag Eglwys Crist fel y cyfryw y mae a fynom yn awr. Wrth hyn y golygwn yr holl gorff o gredinwyr yn mhob oes, yn mhob gwlad, ac yn mhlith pob enwad crefyddol. Dyna a ystyrir genym yn Eglwys Crist Natur jx Eglwys hon y w prif bwnc y syl- wadau düynol. I. Eglwys Crist ydyw. — Nid Eglwys gweinidog, enwad, na gwlad arbenig; ond mewn modd syml a chyflawn yn Eglwys Crist. Gellir dyweyd, yr Eglwys yn yr hon y llafuria gweinidog neillduol, yr Eglwys a berthyna i enwad penodol, a'r Eglwys yn y wlad, neu le penigol, megys, yr Eglwys sydd yn Ephesus, yr Eglwys yn Smyrna, &c, &c Mae chwech o'r saith Eglwys yr ysgrifenai Ioan atynt yn cael eu galw gan yr Iesu ei hun—"yr eglwys sydd ynEphesus," &c. Ond pan yn llefaru am un o honynt, oblegid ei di- rywiad mawr, y mae fel pe yn ei diarddel, trwy ei galw yn "Eglwys y Laodìeeaiä." Nis gall na pherson, na gwlad honi hawl yn un gangen o'r Eglwys, am fod yr oll o honi yn eiddo Crist. Eglwys Crist ydyw, oblegid i'r Tad mewn arfaeth gadarn ei rhoddi iddo, a'i hethol ynddo. "Eiddot ti oeddynt," medd yr Iesu wrth ei Dad, " a thi a'u rhoddaist * Tradclodwyd yn un o Gymanf aoedd y Cyf undeb i'n Pa., gan y Parch. E. J. Hugh.es, Wilkes Barre, Pa. -Gol. hwynt i mi." Medd yr Apostol Paul hefyd am dano ei hun, a holl aelodau yr Egiwys fawr i gyd, "Megys yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd." Eglwys Gríst oblegid ei fhrynu ganddo iddo ei hun â'i waed. " Yr hon a bwrcasodd efe â'i briod waed." Efe a'i rhoddes ei liun drosti, am hyny y mae yn eiddo neillduol iddo.—Titus 2. 14. Eglwys Crist am ei neillduo oddiwrth y byd ,gan Grist trwy nerthol ddylanwadau eì Ysbryd trwy y G-air, i fod yn drysor priodol a neill- duol iddo ei hun, o flaen pawb eraill. Mae holl aelodau yr Eglwys wedi eu galw i fod yn saint. Efe o'i wir ewyllys a'u hennillodd trwy air y gwirionedd, fel y byddent flaen- ffrwyth o'i greaduriaid ef. Mae yr Eglwys yn eiddo Crist am fod pob gwir aelod o honi wedi, ac yn gwir gyflwyno ei hun i fod yn eiddo gwastadol a bythol iddo. Dyma iaith yr Eglwys yn gyffredinol, a phob aelod yn neillduol. " Fy anwylyd sydd eiddof fí, a minau yn eiddo yntau." II. Mae Eglwys Crist yn Eglwys undebol, Pa enw bynag a elwir ar y gwahanol lwyth- au, yn mha wlad bynag y maent yn trigo, yn mha gyfnod bynag y maent yn byw, pa liw bynag a ddichon fod ar eu crwyn, -pa iaith bynag a lef arir ganddynt, neu pa wahaniaeth bynag a ddichon fod yn eu hamgylchiadau, &c, "Un yw hi. ; "Mae Eglwys Dduw trwy'r ddai'ra'r nef yn un." Mae deddf mewn natur a elwir gan athron- wyr yn " ddeddf cydlyniad," yr hon sydd yn tynu y naill ronyn o'r un natur at eu gilydd, ac yn eu cadw i lynu wrth eu gilydd. Trwy ddylanwad hon y cedwir y belcn ddaiarol wrth ei gilydd yn lyd durfm, gan nad mor chwyrn y troa ar ei echel. Felly y mae deddf cydìyniad yn uno holl aelodau yr Eglwys Gy- ffredinol a'u gilydd, ac yn eu cadw yn ysbryd ac yn nghwlwm tangnefedd. Gofaled pawb rhag peryglu yr undeb hwn. " Gan fod yn