Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyfrol XXXI. MEHHFIN, 1868. Itliifyn 387. ^rfeeiniüL ' [Mb. Golygydd,—Ddoc yr oeddwn wedi fy nghyf- yngu i'm hystafell, fel nad allaswa gyd-gerdded a'm brodyr i gysegr y Gornchaf, ac fel arferol, o dan yr un amgylchiadau, meddyliais y buasai yn hyfryd genyf ddal cymdeithas â rhai o weinidogion y cysegr, y rhai na chlywais eu llais er ys llawer blwyddyn. Gelwais am gyfrol o'm cofnodau; dychymygais fy mod yn eistedd o flaen y pwlpud yn Pall Mall, ac yn dysgwyl yn hamddenol weled un o'r ychain yn gwth- io ei ben o'r basement i'r seat fawr, ac yn dringo i'r pwlpud. Yn ddisymwth ymddangosodd; a phwy debygech chwi oedd efe ? neb llai na'r anwyl a'r hyn- aws Roger Edwards, o'r Wyddgrug. Aeth trwy ser- emoni y dechreu gyda medrusrwydd, a phregethodd drachefn yn rymus ac effeithiol. Wedi iddo ddy- weyd yr Amen wrthyf fl boreu ddoe. daeth hanes y pedwar gwahanglwyfus wrth borth Samaria yn fyw- ìog i'm cof, a meddyliais f el hwythau "nad oeddwn yn gwneuthur yn iawn" wrth gadw miloedd Israel trwy y wlad eang hon rhag ymborthi ar yr un wledd ddant- eithiol ag a gefais i mi fy hun, felly ymosodais ar y gwaith o ysgrifenu y bregeth, ac wele hi yn awr i chwi i'w chyflwyno o flaen eich darllenwyr. Ysgrifenais hi fel y'i traddodwyd, am hyny rhaid i'r pregethwyr a'r beirniaid edrych arni yn wahanol i fel y^buasent yn edrych ar bregeth wedi eípharotoi i'r wasg gan yr awdwr parchus. Rhodded yr Arglwydd sêl ei fen- <üth arni i filoedd yn y darlleniad o honi, yw gwir ddymuniad eich cyfaill diffuant, Middle Granville, Eb. 6,1868. Eleazee Jonbs.] PREGETH A draddodwyd gan y Parch. Roger Edwards, Wyddgrug, yn Pall Mall, Lẁerpool, Ion. 12,1856. "Eithr mewn amseroedd priodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ol gyrchymyn Duw ein Hiachawdwr.—Titus 1.8. Y MAE Paul yma, fel yn nechreu y rhan fwy- af o'i lythyrau, er mwyn dangos fod yr hyn a lefarwyd ganddo yn deilwng o sylw, yn cyf- eirio at ddwyfoldeb ei alawad, a phwysig- rwydd ei swydd: Eaul, gwas Duw, ac apos- tol Iesn G-rist, "yn ol," neu er mwyndwyn yn mlaen ffydd etholedigion Duw, athrawiaeth fawr yr ef engyl, yr hon sydd yn ol duwioldeb, yn f oddion i gynyrchu a dwyn yn mlaen dduw- ioldeb ysbrydol; "i obaith bywyd tragywydd- ol," i eglurhau a chyhoeddi y gobaith hwn. Gallwn ddyweyd mai dyma yw yr efengyl fel dadguddiad, o ran ei bendithion—" gobaith bywyd tragywyddol;" ynddi hi yr agorir drws o obaith am wynfyd i enaid euog. Y mae gan ffydd yr ef engyl y sail gryf af i ob- aith am fywyd tragywyddol, o herwydd fe ddangosir yma, nid yn unig fod hyn yn bos- ibl, ond ei f od wedi ei roddi allan gan Dduw mewn addewid: " Yr hwn a addawodd y di- gelwyddog Dduw cyn dechreu' y byd." Fe'i addawodd yn y cyf ammod tragywyddol i'w hâd, fel ei etholedig. Bfe a'n neillduodd ni- nau; ond wedi iddo addaw y pethau goreu, fe wnaeth yn hysbys yr addewid hon ar hyd yr oesoedd; ond yr oedd eto yn guddiedig mewn cydmariaeth i'r modd y mae yn awr. "Eithr mewn amseroedd priodol"—amser, neu amserau goruchwyliaeth yr efengyl, yr hwn a elwir yn oruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd, " efe a eglurodd ei air," ei add- ewid; ei fwriad, ei ewyllys da at ddyn syrth- iedig. " Efe a eglurodd ei air" trwy breg- ethu—efe a wnaeth yn hysbys ei feddyliau o hedd trwy yr efengyl, ac yn benaf trwy breg- ethiad o'r efengyl. " Efe a eglurodd ei air" trwy sefydlu yr ordinhad o bregethu, a thrwy anfon allan rai addas i'r gwaith, a thrwy ar- ddel a llwyddo eu pregethau. "Am yr hyn" —am fod y swydd o bregethu, am yr ordin- had o bregethu, a'm gwáith o eglurhau y gair trwy hyny. "yr ymddiriedwyd," ynmysg pethau eraill, "i mi (Paul), yn ol gorchymyn Duw ein Hiachawdwr." Yn awr, mi sylwaf ar rai pethau oddiwrth y testyn: I. Ar y GrWAITH O IÎIlEOETIfU fel y'i go- SODIR ALLAN ÎMA. Sylwadau mewn modd ymarferol, a all fod yn fuddiol i'n gwrandawyr y dyddiau hyn. 1. Fodpregethu yn ordinhad osodedig gan Dduw, a ehanddo ef fel Iachawdior. Efe a eglurodd ei air trwy bregethu, ac y mae hyn, meddai Paul, wedi ei ymddiried i mi yn ol gorchymyn Duw ein Hiachawdwr, yn rhyw ddyfais sanctaidd. Nid ordinhad ddynol yw