Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYE Cyfrol XXXI. TACHWEDD, 1868. Rliify-n SOS, YSBBYD ANFFYDDOL YB OES. GAN Y PARCH. I). CHARLES, M. A., I.LUNDAIN. Papyr a ddarllenwyd yn Nghyma.nfa Gy- ÿredinol LlaneUi, Gor. 9, 1868. Nodwedd ysbryd anffyddol pob oes yw ei fod yn gwadu Duw, un ai yn ei hanfod fel Bôd Personol, neu yn ei briodoliaetb.au na- turiol a moesol, neu yn ei berthynas â natur a'i deddfau, â dynion a'u hanes, ac á'r efeng- yl a'i phynciau. Nid yw yn yrnddangos yn unig yn y ffolineb sydd yn dywedyd nad oes Buw, ond hefyd yn y ffug-ddoethineb sydd yn peidio dy wedyd ei f od, ac yn ceisio deongli y cwbl sydd, yn annibynol ar bob y styriaeth o hono ef a'i briodoliaethau. Ond nis gall y syniad am Dduw sefyll ar ei ben ei hun ar wahan oddiwrth syniadau y meddwl am beth- au eraill. Am fod Duw, yn ol y darluniad Ysgrythyrol o hono, yn unig fel Bôd anfeidr- ol, ac ar yr un pryd o herwydd hyny, yn y berthynas agosaf o ran gradd, er nad yr un berthynas o ran nafc»^. â phawb ac â phob peth, y mae y syniad am dano, tra yn gosod arbenigrwydd arno fel gwrthddrych addol- iad, ar yr un pryd yn efîeithio i raddau mwy neu lai ar holl syniadau a theimladau y gaîon. Ond y mae neillduolrwydd y berthynas a ddadguddir rhwng Duw a dyn yn peri fod y grêd a goleddir am Dduw yn effeithio fwyaf ar y syniadau am ddyn fel person, am ddyn- oliaeth fel natur, ac am ddynion yn eu per- thynas a'u gilydd. Am hyny y mae yr ys„ bryd sydd yn gwadu Duw, yn gynt neu yn ddiweidarach, yn gwadu dyn hefyd. Àc y öiae pob anffyddiaeth yn annynol, mor bell ag y mae yn annuwiol. Ac o'r ochr arall, y ŵae yn anmhosibl cymeryd i'r cyfrif y cwbl ag yw dyn heb gymeryd Duw hefyd i'r oyfrif. Y mae yn wír fod anffyddwyr yn craffu ar ryw un nodwedd, neu ar ychydlg o nodwedd- au sydd yn perthyn i ddyn, ac yn aros ar hyny heb weîed Duw o gwbl; o herwydd nis gall rhan o ddyn byth ai-wain y meddwl at Dduw. Ond pe cymerid yr holl ddyn fel ffaith, heb adael allan o'r cyfrif, yn enwedig yr un o brif nodwedihra ei natur, fe fyddai yn safle digon ucliel i'r enaid weìed Duw oddiarno, ac yu. safon cywir iddo farnu ai Duw ai'ynte gwaith dychymyg a gynygir i'w sylw fel gwrthddrych íiddoliad. Gan hyny, darluniad anghywir o aniîyddwyr yw eu bod yn credu y dynol ac yn^gwadu y Dwyfol, ac 0 dduwinyddion, eu bod yn credu y Dwyfol ac yn gwadu y dynol. Y darluuiad cywir a fyddai bod anffyddwyr yn gwadu y ddau, a bod duwinyddion ef engylaidd yn credu y ddau. Y mae rheswm yn tystio fod yn rhaid i bob dirnadaeth sydd genyni o Dduw, ac o'r hyn sydd Ddwyfol. fod yn seiliedig ar ddyn, ac ar yr hyn sydd ddynol. Y mae y natur ddyn- 01 yn nês at Dduw na'r greadigaeth faterol, ,er ei bod yn llygredig, ac er mai nodwedd calon dynion yw fod yn gas ganddynt Dduw. Yn ol darluniad Salm viii, y mae dyn, pa nn ai yn ei wendid yn blentyn bychan ai yn eí gyflawn faintioli, yu arglwydd, yn dangos mwy o ardderchogrwydd Arglwydd yr Iôr na'r lloer, a'r sêr, ac anifeiliaid y maes. Am hyny y mae yn haws i ddyu nesau at Dduw mewn cydymdeimlad :î. dynion yn eu gwen- did a'u plentyndra, yn *eu heuogrwydd a'u llygrédigaeth, na thrwy "syìlu ar olygfeydd mwyaf mawreddog natur. Pa betli bynag a ddywcdir am faint y cam o natur i fyny i'w Dduw, y mae y cam "yn Ilai ac yn haws e i gymeryd o ddyn i fyny ato. l:!Ac y maé y na- tuv ddynol yn nês at ddyn na'rj uu arall. Ac y mae yn wybyddus o hòni mewn rhan trwy weithrediadau ei feddwl ei hun, a thrwy yr hyn a wyr trwy dystiolaothj hanosioí ] am