Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y u ì r A. 1JL/ ì-j. Cyfrol XXXII. CHWJEirjROR-, 1869- Ríaify-n 38£>, ^rtonẁL YMHOLIAD DWYFOL,* GAN Y PARCH. EVAN PETEBS, TALYBOKT, GER Y BALA, G. C. "Beth a wnaf i ti, Ephraim? beth a wnaf i ti, Judah ? eich mwynder sydd yn ymadael fel cwmwl y horeu acfelgwlithhoreuol.,,-HosEA 6. 7. Dyma syndod niawr—Duw—"yr unig ddoeth Dduw,"heb wybod pa beth i'wwneyd! Y mae fel gwr wedi synu, yn methu gwybod ar ba law i droi, na pha beth i'w gyflawni gynt- af. Mae anwadalwch ao ansefydlogrwydd cenedl Israel fel wedi taflu Duw i ddyryswch. " Beth a wnaf i ti?" Galwodd fydoedd af- rif ed i fod yn holìol ddidrafferth, heb fod am eiliad yn y dyryswch Ueiaf gyda golwg ar osod pob un yn ei gylch priodol ei hun i droi ynddo; dyna bob un yn cymeryd ei le ei hun- an ar darawiad, a phob un yn cadw ei le trwy yr oesoedd. Ond dacw genedl Israel wedi colli y cylch yr oedd i droi ynddo, a Duw yn gofyn, "Betha wnaf?" Sylwn yn I. FOD GOLWG ABDAWOL A GOBEITHIOL YN FYNYCII YN TPvOI ALLAN YN SIOMEDIG.— '' Y mwynder yn ymado fel cwmwl y boreu, ac f el gwlith boreuol." Mae y gwahaniaeth hinsawdd sydd rhwng ein gwlad ni a'r wiad yr ysgrifenwyd y Beibl ynddi yn dipyn o rwystr i ni ganfod priodoldeb a grymusder cymhariaethau y Beibl. Yr oedd y wlad hono yn wlad boeth iawn, tra yr ydym ni yn Nghymru yn y cyffredin yn cwyno mwy o herwydd gwlybaniaeth na gwres. Ond er mwyn deall cymhariaeth y testyn, rhaid i ni dybied ein bod yn cael hâf poeth a sych an- * Ysgrifenwyd yn hwrpasol i'r Ctfaill, am yr hyn cierbynied yr awdwr ein diolchgarwch.—Gol. arferol, pan y mae porfeydd yr anialwch yn cael eu deiíio gan y gwres— yr anifeiliaid yn brefu gan syched, a llawer o honynt yn trengu o eisiau dwfr, a'r preswylwyr oll yn dyheu am wlaw. Ond un boreu, yn nghcnol sychder mawr, dacw gwmwl prydferfch yn hongian uwch ben, a phawb yn llygadu arno, mewn gobaith ei fod yn Uawn gwlaw i fwydo y ddaiar. Dywedai y naill gymydog wrth y llall, " Ni gawn wlaw heddyw." " Cawn," meddai y llall, "mae pob arwyddion y digon- ir yr anifeiliaid a dwfr, ac y mwydir y ddai- ar a gwlaw lawer heddyw." Parhau ì ed- rych ar y cwmwl yr oedd pawb, a dysgwyl am y gwlaw; ond yn mhen ychydig oriau, dyna y cwmwl yn diflanu, a dim ond yr awyr las i'w chanfod, a'r ddaiar heb gael yr un dyferyn o wlaw—dyna siomedigaeth drom, pan y mae ỳ glaswellt yn cael eu llosgi gan y gwres. Tebyg i hyny oedd cenedl Israel, a digon tebyg ydyw aml un eto yn ein gwlad ninau. Yr oedd golwg obeithiol ar y bach- gen, a llawer yn dysgwyl iddo fod yn gwmwl Uawn gwlaw i ddyfrhau yr ardal lle y pre- swyliai; ond diflanodd yn bur fuan fel y cwmwd. Y gymhariaeth arall yw " gwlith y boreu." Ar foreu teg yn yr haf, dyna bob glaswelltyn yn gwenu yn siriol, a gwlithyn dysglaer fel perl ar ben pob un o honynt; mae yr olygf a yn brydferth ryfeddol; ond y mae yr haul mawr, brenin y dydd, yn dechreu edrych ar- nynt, a chyn pen ycbydig bydd wedi eu sug- no oll i îy^Ji a'r ddaiar mor sech a chaled ag erioed. Felly mae rtiwynder aml un yn di- flanu f el y gwlithyn. Gallwn edrych ar y gair yma, ';mwrynder," fel yn cynnwys pob rhinwedd. Ar un adeg, mae y bachgen yn Hawn awydd—yn dra sychedig am wybodaeth o bethau crefydd, a bu yn hynod lafurús dros dymhor, ac yn defnyddio pob adeg i gloddio am y " Perl