Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILl Oyfrol XXXII. IVIAI, 1869. ítliify-n 388. IrtoeiiîiûL T DÍWEDDAE 3AEGH. HENEY EEES. GAN Y PARCH. WÍLLIAM C. ROBERTS, M. A. "Y tadau, pa le y maent ?" Ar ol i ddyn mawr farw, yn mhlith rhai o genedloedd y ddaiar, yr oedd yn arferiad yn eu plith i gynnal ymholiadau ar ei gymeriad; a phan y byddai y farn yn ífafriol, yr oedd ei gorff i gael ei eneinio, a darlith ganmoliaeth- ol i gael ei thraddodi ar ddydd ei gladdedig- aeth. Mae yr ymholiad ar gymeriad Mr. Rees wedi cymeryd lle er ys dyddiau bellach, ac y mae y f arn yn mhob man wedi bod yn ffafriol. Mae ei lwch cysegredig wedi ei roddi mewn bedd ar fin culfôr Menai, lle y caiff y weilgi mawr ganu ei farwnad ddwy ^aith bob dydd hyd ddiwedd amser. Mae holl bwlpudau Cymru, erbyn hyn, wedi sein- ìo ei fawl, a hen gyf eillion ei fywyd, fel Ed- wards y Bala, Phillips o Hereford, Thomas o Lundain, a Hughes o Liverpool, wedi go- *od allan ei rinweddau mor hyawdl, mor gy- ■^ir, ac mor gyfiawn, fel nad oes dim yn ych- ^aneg i'w ddyweyd am y diweddar Barched- ig Mr. Rees o Lynlleifiad. Er nad allaf fi ddyweyddim addichon daflu goleuni ychwanegol ar gymeriad y gwr mawr 8ydd wedi myned i'r nef; eto gan f od y dôn alarus genedlaethol sydd wedi tori dros fryn- lau Cymru wedi cyrhaedd ein cyfandir ni hefyd, yrydym am dywallt rhai dagrauheillt- ioniddi, fely caiff fyned yn ei blaen yn ei holl nerth tuag Awstralia bell. Yr ydym am ^ywallt diod-offrwm ar fedd un a barodd i'n diffeithwch ni seinio unwaith gan wirionedd- au efengyl hedd; yr ydym am daflu brigyn 0 r coedydd gorllewinol yma ar arch a gyn- nal ran farwoì un mor anwyl i'n cenedl; yr ydym am blanu blodeuyn o braìrüs America ar fedd un a'u teithiodd íìynyddoedd yn ol. ae yr ydym am osod dalen olewydden o lan' y Môr Tawelog yn ei goronbleth goíîadwr- iaethol. Nid wyf yn teimlo mai myíì jw y person i wneyd hyn, ac eto, fel y dywedodd Dr. Phil- lips yn ei gladdedigaeth, "Er fod yn y wlad yma lawer sydd wedi ei adnabod yn hwy na mi, nid oes yma neb a'i carai yn fwy." Cef- ais i y fraint na chafodd Uawer a'i hadwaen- ai yn hwy na mi, o'i weled dan lawer o am- gylchiadau hynod o bleserus. Cysgais yn yr un gwely ag ef yn y Wyddgrug—pregethais o'i flaen yn Sir Fflint— cyfeillachais ag ef yn ei rodfeydd boreuol yn y Wyddgrug a Chon- wy—eisteddais wrth ei ochr o amgylch y bwrdd yn nhy ei fab-yn-nghyfraith yn y Ben- arth—clywais ef yn pregethu yn Llandudno, a gwelais ef yn llywyddu y Sociely fawr yn y Gymanfa Gyffredinol Gymreig a gynnaliwyd yn Llynlleifiad. Yr ydwyf wedi teimlo lawer gwaith er pan yr wyf wedi dyfod adref i America, mai y gyfeillach a gefais gyda Mr. Eees o Liver- pool oedd y fraint fwyaf o holl freintiau Cymru i gyd. Rhoddaf i chwi ryw fraslua o honi. Ac, yn gyntaf, Mr. Rees yn yr ystafett gysgu. Er ein bod wedi cael cyfarfod preg- ethu, a gweddi deuluaidd y noson hono, aeth Mr. Rees ar ei liniau wrth ochr y gwely, ac agorodd ei enaid mawr o flaen Duw a llu- oedd o'i angelion. Ocheneidiai ar droion fel yr oeddwn yn teimlo ei fod fel .Tacob yn ym- drechu gyda Duw. Ni chododd ar ei draed nes oedd pob peth rhyngddo ef a Duw wedi ei drefnu dros y nos. Ar ol codi, yr oedd rhyw wên nefol ar y wyneb hwnw oedd bob amser yn siriol a hardd tu hwnt i eiddo ei gyfeillion. Dychymygwch weled wyneb Mr. Rees yn dysgleirio fel yma gan oleuni y nef !