Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyfrol XXXII. TÀCHWEJ \D, 1869. íttiifyn 394. %xtothiiL TANGNEFEDD DTJW YÎT LLYWODR&ETHU DYÎÍ. "Llywoâraethecì tangnefedd Duw yn eich calon- au."—Col. 3. 15. Mae pob peth a wnaeth Duw " yn weddaidd ac mewn trefn." Nis gall dim fod mewn trefn heb fod dan lywodraeth; gan hyny, y mae pob peth a wnaeth Duw dan lywodr- aeth. Mae perthynas neilldùol yn bodoli rhwng pob gwrthddrych yn nghreadigaeth Duw: nid perthynas ddamioeiniol, yn cyfodi oddiar fod pethau wedi eu lluchio i fodol- aeth, gan adael iddynt ymgyfieu fel y myn- ant. Damwain fuasai gosodydd pob peth, a chyfleuydd pob peth feily. G-osododd y Cre- awdydd "ei derfynau" i bob peth, "felnad êl drostynt." Rhoddes ei le i bob gwrthddrych yn gystal a'i fodolaeth. Y lle y saif pethau gyda golwg ar eu gilydd ydyw y bertliynas sydd rhyngddynt. Ac o'r berthynas hon y tardda y dylanwad sydd gan y naill wrth- ddrych ar y llall. Yr enw a roddir ar y dy- lanwad hwn ydyw dedâf. Bithr gan fod am- rywiaeth perthynasau, rhaid fod amrywiaeth dylanwadau; a chan fod amrywiaeth dylan- wadau, rhaid hefyd fod amrywiaeth deddfau. Fel hyn cawn ddeddfau goleuni, deddfau symudiad, deddfau tyniad a phwys—deddfau natur. Ond gan nad oes mwy nag un ber- thynas rhwng Duw a dyn i reoleiddio ei gy- meriad a'i gyfrifoldeb, yna nid oes mwy nag un ddeddf foesol. Pan y saif un gwrthddrych yn y fath berthynas ag un arall ag i'w sy- mudiadau gael eu terfynu a'u rheohiddio gan ei ddylanwad, yna bydd dan lywodraeth hwnw—bydd hwnw yn Uywodraethu arno. Felly y mae yr haul yn Uywodraethu y dydd, a'r lloer yn llywodraethu y nos; felly mae dyn yn Uywodraethu yr anifail, a Duw yn Uywodraethu dyn—i'e, " a'i freniniaeth ef sydd ar bob peth." Yn ol trefn Duw o gyf- leu pethau, canfyddir fod Uywodraeth yn cyfodi, neu yn dyfod i fodolaeth, o angen- rheidrwydd, h. y., p angenrheidrwydd per- thynas. Y canlyniad o hyn ydyw hollol absenoldeb trais ac annghydfod trwy holl ymherodraeth y Goruchaf. Cyfyd y grym llywodraethol o bwynt mor dyner a dwfn nes effeithio ufudd-dod yn y naill wrthddrych mor naturiol a llywodraeth yn y llall. Mae ufuddhau mor naturiol a llywodraethu. Cyf- yd ufudd-dod a llywodraeth o'r un angen- rheidrwydd. Mae cymaint o barodrwydd yn y naill beth i ufuddhau ag sydd yn y llall i lywodraethu. Natur jw pob un o'r ddau. Cyfyd llywodraeth o'r mau hwnw ag sydd yn ei wneyd yn beth mor anmhosibl i'r naill beidio ufuddhau ag ydyw i'r llall beidio Uyw odraethu, h. y., tra y cadwant yn eu per- thynas greadìgol. Rhaid, gan hyny, fod an- ufudd-dod yn profi fod rhyw beth o'i le— rhaid fod anufudd-dod yn beth hollol ddy- eithr i holl osodiadau, cyfleadau, a pherthyn- asau creadigaeth Duw. Nis gall ei fod yn effaith i'r un berthynas o osodiad Duw. Rbaid ei fod yn effaith i ryw beth croes i drefn, tangnefedd, ac uniondeb. Y rhyw beth hẃnw yw pechod; " oblegid annghyf- raith yw pechod." Oni fuasai hwn ni buasai raid cynghori: "Llywodraethed tangnefedd Duw yn eieh cal- onau;" canys nis gallasai beidio gwneyd hyn. Llawenydd y galon fuasai ufuddhau i lywodr- aethiad "tangnefedd Duw." Buasai pob peth yn cydweithio i ddyrchafu tangnefedd, ao i gario allan ddeddfau tangnefedd. Hyfrydwch y galon fuasai plygu i ewyllys Duw mewn tangnef edd, ac amlygu gogoniant Duw tang- nefedd. Cynnwysa y geiriau, "Llywodraethed tang-