Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyfrol XXXII. RH^ÖITYÍÌ,, 1869. Rliify-n 39S. %tbthhl% MARWOLAETH DORCAS. Bylwadau a wnaed yn ngUaddedigaetJi Mrs. Elüábeth Enans, West Bangor, Pa., Mcdi 2áain, y rliai sydd yn cael eu hystyried yn cynnwỳs prif Tiynodion ei bywyd dHmarwol- aeth. •________( •GAN T PARCH. E. FOULKES JOSTES, WEST 33AHGOR, PA. ACTAÜ IX. 36-43. Ni wnaeth yr Arglwydd neb o blant dynion yr un fath. Mae wedi gwneyd mwy o wa- haniaeth rhwng rhai a'u gilydd. Mae pech- od wedi gwneyd mwy o wahaniaeth rhwng dynion nag a wnaeth y Creawdwr. Mae y gwahaniaeth sydd rhwng pechod a sancteidd- rwydd yn gwneyd gwahaniaeth dirf awr rhwng y duwiol a'r annuwiol, a'r gwahaniaeth hwnw yn f wy draehefn rhwng y dyn hynod mewn duwioldeb a'r dyn hynod mewn annuwioldeb. Mae yr un gwahaniaeth ag sydd yn mywyd dyn agos yn sicr o fod yn ei farwolaeth. "Os tua'r dehau, neu tua'r gogledd y syrth y pren, lle syrthio y pren, yno y bydd efe." Hanes bywyd a marwolaeth dynes* dduw- iol ydyw yr adran hon. Ac y mae prif nod- weddion bywyd, ac amgylchiadau marwol- aeth y wraig yr ydym yn ei chladdu heddyw y fath, fel y mae yn ddigon hawdd i ni gan- f od y naill yn hanes y llall. I. Carictor y ddynes yma. Yr oedd dau beth yn ei charictor: * Ymogonedda y Saeson yn y gair woman, am ei fod yn tra rhagori i ddangos rMnwedd y rhy w fan- ywaidd ar ygair wife, ac hyd yn nod ar y gair body. Ond ni feddent yr ûn gair yn eu hiaith sydd yn cyf- ateb i'r gair ddefnyddiodd Addai ddynodi Efa—Gen. 2. 23—i'r hwn y mae y gair Cymraeg, dynes, yn cyf- ateb yn llythyrenol. Ehaid iddynt hwy ei gyfieithu maness.—Dr. JacobusaDr. Langear Genesis. 1. Yr oedd yn ddysgybles. Mwy na theb- yg na welodd erioed yr Arglwydd Iesu ; ond "er nas gwelodd, yr oedd yn credu ynddo." Nid oes neb mor ddysgedig na raid iddo ddysgu gan Grist, na neb mor anwybodus na fedr ef ei ddysgu. Mae aml un yn galw ei hun yn ddysgybl, ond heb ddysgu. Mae geiriau yr Arglwydd Iesu yn rhagdybied hyny—"Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch genyf;" ond yn sicrhau nad oes neb yn wir ddysgybl heb ddysgu. Yr oedd Dorcas yn llawn o'r un ysbryd a Mair, yn hoffi "eistedd wrth draed yr Iesu, a gwrando ei ymadrodd ef." 2. Yr oedd yn llawn o weithredoedd da ae elusenau. Mae dysgeidaeth Crist bob amser yn ymarferol. Ni ddysgodd Ef neb i ddeall na ddysgodd ef i wneyd. Dynes dyner iawn ei theimlad oedd Dorcas. Darllena y Dr. Lechler y geiriau—" UaWn o weithredoedd da a thrugaredd." Yr oedd dyferyn o'r hyn Sydd yn fôr jn natur Duw wedi disgyn i'w henaid. Nid teimlad yn cael ei fygu yn ei mynwes ydbedd. Yr oedd ei bywyd yn llawn o weithredoedd da, Yr oedd ei gofal yn ben- af am y gwragedd gweddwon-y dosbarth tlotaf yn yr eglwys a'r ddinas. Digon tebyg nad oedd y ddynes yma yn rhyw gyfoethog iawn, ond yr oedd yn gyfoethog annghyÊEred- in o weithredoedd da. A gweithredoedd a'u llon'd o ddaioni oeddynt, oblegid yr oedd et henaid ynddynt. Nid rhoddi er mwyn i bobl ei gweled yr oedd, ac heb ddim o'i clîalon yn- ddynt,ond yn hytrach yn eu herbyn. Mae pobl felly, fel y Phariseaid gynt, yn derbyn eu gwobr yn y fan. Yr oedd 'y ddynes yna yn. Hawn o honynt, yn rhy lawn i wag ymffrost. Nid yn unig yr oedd ei bywyd yn llawn gweithredoedd da, a'i gweithredoedd da yn llawn o'i henaid, ond yr>edd ei henaid yn llawn gweithredoedd da. " Yr hael a ddy-. chymyg haelioni, ac ar haelioni y saif efeH"