Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf. xli.] MAWRTH, 1878. [Rhif. 495, Y Gymanfa Gyffredinol. Y PWYSIGRWYDD 0 WNËYD PROFFES GYHOEDDUS 0 FAB DUW. PREGETH A Draddodwyd ar Agoriad y Gymanfa Gyffredinol yn Chicago, III., ar y iSfeü o Medi, 1877, yn ol Penderfyniad y Pwyllgor Trefniadol. Gan y Cyn-Lyw- ydd-y Parch William Roberts, D. D., Utica, N. Y. " Canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyfifesir i iachawdwriaeth."—Rbuf. 10 : 10. Y geiriau hyn a gynwysant reswm eglurbaol yr Apostol dros ei osocliad yn yr adnod flaen- oro]_" Mai os cyffesi â'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy gaîon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi; canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffesir i iachawdwriaeth." Y mater mawr a phwysig a eglura yr Apostol yw, symlrwydcl trefn cadwedigaeth pechadur dan yr efengyl. Er cyflwyno y pwnc hwn -í sylw, mewn goleuni cîir, deil ef yn wrthgyfer • byniol i amod cadwedigaeth dan y ddeddf: «'Canys y mae Moses yn ysgrifenu am y cyf- iawnder sydd o'r ddeddf, mai y dyn a wnel y pethau hyny, a fydd byw trwyddyrit," Amod cadwedigaeth yn ngwyneb pob deddf yw per- ffaith ufudd-dod. Y ddeddf hono a ganiata droseddau, neu ddiffygion mewn ufudd-dod, nid yw ddeddf. Am ddeddf Duw, amod cad- wedigaeth yn ei gwyneb hì, yw, perffaith ufudd dod mewn meddwl, gair a gweithred, o'r anadliad cyntaf hyd y diweddaf—"Arosyn yr holl bethau a ysgrifenwyd yn llyfr y ddeddf i'w gwneuthur hwy." Nid at arnod bywyd i'r genedl Israel yn ngwlad Canaan y cyfeiria yr Apostol. Ni chafodd y genedl fwynhad o'r bywyd hwnw ar sail ỳerffaith ufudd-dod, ac ni allasai ei gadw am gymaint ag un awr ar sail y teilyngdod hwn. Gan hyny, rhaid, can bell- ed ag y gallwn ni ddeall, mai at arnod bywyd tragywyddol y cyfeiria yr Apostol; a'i amcan oedd dangos yr anmhosiblrwydd i bechadur ei feddianu ar sjiil ei ufudd-dod personol ei hun. O ganlyniad, y cwestiwn mawr a gyfodai yn naturiol, yn meddwl ymofynydd pryderus am fywyd tragywyddol neu gadwedigaeth, fyddai Pa fodd yr oedd yn bosibl i droseddwr y ddeddf ei etifeddu, neu gyrhaedd cadwedig- aeth ? Ymddengys î Moses hefyd, yn ol dyfyniad yr Apostol yn yr adnodau diíyno!, gael dat- guddiad o'r treíniant Dwyfol, er dwyn, hyd yn nod pechadur i'w sylweddoli. Profa fod Moses wedi ysgrifenu, nid yn unig am y cyf- iawnder sydd o'r ddeddf, eithr hefyd am y cyf- iawnder sydd o ffydd. Dyfyna o'r 30 benod o Deut. 11-14 adn. : " Eithr y mae y cyfiawnder sydd o ffydd (yn ngenau Moses) yn dywedyd fel hyn : Na ddywed yn dy galon, Pwy a es- gyni'rnef? (hyny yw dwyn CRIST i waered oddi uchod: neu, Pwy a ddisgyn ì'r dyínder ? (hyny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddL