Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

V_J jL X Ijl .1. 1 ; I > o Cyf, xli.] EBRÍLL, 1878. Arweiniol. [Rhif. 496. MAWREDD GRAS DÜW YN IACHÂWDWRÍAETH PECHADUR. Gan y Parch. H. P. Howeîl, Milwaukee, Wis. ' Ac efe a ddy wedodd wrthyf, Dígon i ti fy ngras i: canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid."—2'Cor. xii. Y mae gras yn Nuw a'i ogwydd at ddyn, a gras yn y dyn a'i ogwydd at Dduw. Fel y mae Duw yn ei ras yn disgyn at ddyn, felly y mae gras yn y dyn yn esgyn at Dduw. Nerth anfeidrol ydyw gras, yn myned allan o Dduw ì dynu ato ei hun. Tardda y gair gras o'r gair Lladinaidd^ra- îia, yr hwn sydd yn tarddu o'r gair Groeg charis, gwreiddyn yr hwn yw chairo, llawen- hau, neu chaira, llawenydd. Y mae gwahan- ol ystyron i'r gair gras, megys rhodd, dawn, ffafr, ihad, ewyllys da. Ond, gan adael y gwahanol syniadau sydd i'r gair yn yr Ysgryth- yrau Sanctaidd, edrychwn arno fel y mae yn gorwedd o dan iachawdwriaeth Duw. Gair bach a chynwys mawr iddo ydyw gras. Er fod pedair lìythyren fach yn gosod cylch am y gair, nid oes llai na Duwdod all amgylch- ynu ei gynwys. Tra y gall y plentyn ei sill- ebu, nis gall yr angel ei ddeall na'i blymio byth. Y mae mewn amser, ond yn üon'd tragywyddoldeb. Yn ngras Duw yr aeth hi yn oleu dydd ar ein hachos ni. Dyma lle y tarddgobaith trueiniaid, iachawdwriaeth y byd, a gogoniant y nef. Dyma ni ar lan moroedd heb waelodion iddynt; nid oes genym ond sefyll ar eu traethau, a gwaeddi gyda PAUL, " Anchwiliadwy olud Crist." Yma mae digon- edd, bechadur, i lenwi holl gonglau gweigion dy galon a'th feddwl. Y mae y Duw mawr yn gallu tremio i waelodion dy drueni, ac i ddyfnderoedd ei gariad a'i ras, ac yn gallu dy- weyd, " Digon i ti fy ngras i." Ni ddywed- odd Duw " digon " am ddim i bechadur ond am èi ras. Nid Ilawer sydd yn ddigon craffus i adwaen pethau lleiaf Duw mewn natur, pan yn eu hanelwig ddefnydd, heb son am bethau mwyaf Duw mewn gras. Yn ngoleuni eu perffeith- rwydd gorphenol y dylid barnu pob peth. Y mae Duw yn gwneyd digon yn y dechreu i fod yn rhyfedd byth. Nid ydyw dyn yn gallu gorphen pobpeth mawr y mae yn ei ddechreu. Er na orphenwyd tẃr Babel, gwnaed digon arno i fod yn ffaith ryfedd yn hanes y ddaear byth ; eto mae tŵr Babel dan gwmwl heddyw am na orphenwyd ef. Pe buasem yn myned i farnu cymeriad Duw fel Creawdwr, cyn i'r dyfroedd gael eu gwahanu—i'r haul, y Iloer a'r ser gael eu goleuo, buasem yn rhwym o gael digon i ryfeddu byth ; eto dan gwmwl, i raddau, y buasai cyn i'r ffurfafen las yna gael ei Iledu, a'i harddu â miliynau o fydoedd dys- glaer i nofio fel perlau ar ei mynwes eangfaith, cyn i'r ddaear gael ei gwisgo â gwyrddlesni, ei phrydferthu â blodau, ac â phob pren teg i'r golwg, a melus i'r archwaeth. Pu buasem yn barnu cymeriad Duw fel Duw rhagluniaeth, pan oedd Israel yn nghanol yr anialwch, buas- ai pläau yr Aipht, gwyrth y Mör Coch, a gwyrth