Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

jl v_>< JL Ju jnLlJL/JL/, Cyf. xli.] MAI, 1878. [Rhif. 497. Arweiniol. Y LLYTHYREN A'R YSBRYD. Gan y Parch. G. H. Humphrey, New York. " Canys y mae y llythyren yn lladd, ond yr ysbryd sydd yn bywhau."—2 Cor. iii. 6. Ymddengys i Paul ysgrifenu ei ail lythyr at y Corinthiaid yn mhen tua blwyddyn ar ol y cyntaf. Nid yw y llythyr hwn yn dangos cy- maint o gynlîun ac o astudiaeth a'r un blaen- orol. Y mae ei faterion yn fwy cymysglyd, a'i gyfansoddiad yn llai caboledig. Y mae yn debyg i waith un yn ysgrifenu mewn brys, ac yn nghanol trafferthion, mewn dull hollol rwydd, at ben gyfeillion oedd ä'u helynt yn agos at ei galon. Ei amcan oedd rhoddi cyf- arwyddiadau pellach yn nghylch achosion oedd wedi bod dan sylw yn yr epistol cyntaf; amddiffyn ei gymeriad yn ngwyneb gelynion, a rhoddi anogaethau ychwanegol i dduwiol- deb. Ei amcan penaf yn y benod hon yw amddi- %n ei hun—fel y mae yn rhaid i bob pregeth- wr wneuthur ambell dro. Mewn cysylltiad â hyny y mae yn mawrhau ei swydd ; ac wrth fawrhau ei swydd mae yn mawrhau yr efeng- yl. Ac yn nghyswllt y pethau haner personol hyn mae yn gosod i lawr egwyddor fawr, gy- «redinol ac annibynol y testyn : '' Y mae y Uythyren yn lladd, ond yr ysbryd sydd yn bywhau." Gadewch i ni sylwi ar y ddau wirionedd gwrthgyferbyniol hyn yn y drefn y gosodwyd hwynt i lawr : I. "Y MAE Y LLYTHYREN YN LLADD."— ae y gair gwreiddiol amìythyren, gramma— o'r hwn y tarddodd grammar y Sais, agram- adeg y Cymro—wedi ei gyfieithu yn wahanol mewn manau eraill. Cyfieithir ef yn " ysgrif- en ya Luc xvi. 6, 7. Yn y rhif luosog cawn ef wedi ei gyfieithu yn " llythyrenau," Luc xxiii. 38; yn " ysgrifeniadau," Ioan y. 47; yn " ddysgeidiaeth," Ioan vii. 15; yn " ddysg," Act. xxvi. 24; yn " llythyrau," Act. xxviii. 21 ; yn " llythyr," Gal. vi. 11 ; ac yn " ys- grythyr," 2 Tim. iii. 15. Diamheu mai yr hyn a feddylia Paul wrtho yn y testyn ydyw cyfraith M.OSES, am fod hanfod y gyfraith hono wedi ei ysgrifenu ar ddwy lech faen. Y mae yn amlwg mai y gyfraith hono a olygir, am n>ai hi sydd dan sylw yn yr adnodau dilynol. Yr un peth, gan hyny, ydyw y geiriau hyn a phe buasid yn dywedyd, " Canys y mae y gyf- raith yn Uadd." Y mae y llythyren, neu y gyfraith yn lladd mewn dwy ffordd : 1. Ymae yn lladd a digalondid.—Y mae yn gofyn nid yn unig yr anhawdd, ond yr an- mhosibl, oddiar law creadur syrthiedig. Nid oes neb dynol i'w gael sydd wedi rhoddi uf- udd-dod perffaith iddi. Y mae y ffyddlonaf yn teimlo ei fod yn fyr, fyr o fod i fyny â'i saf- on. Ac y mae ei gofynion yn anhyblyg, fel y mae ei dedfryd yn anocheladwy. Y mae ar yr un pryd yn rheol bywyd, ac yn edliwiad o reol wedi ei thorì. Mae tuedd gref yn yr ys-