Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf, xli.] GORPHENAF, 1878. [Rhîf. 499, ArweinioL PREGETH A Draddodwyd gaa y Diweddar Barch. Michael Roberts, Pwllhel», G. C. yn Nghymdeithasfa y Bala, Mehefin 13, 1827. " Ti, yr hwn a wnaethosti mi weled aml a blin gystuddiau, a'm bywhâi drachefn, ac a'm cyfodi drachefn o or- ^dyfnder y ddaear."—Psalm lxxi. 20. Y mae y Salm hon o ran ei natur a'i chyf- ansoddiad yn weddi am gynorthwy, ac yn gyd- habyddiaeth o ddaioni a gwaredigaethau Duw 1 r Salmydd yn yr amseroedd a aethent heibio; ac yn dystiolaeth o'i ymroddiad i ddysgwyl Wrth yr Arglwydd am ei waredu rhagllaw. Mae yn eglur ei fod mewn cystudd mawr pan yn cyfansoddi y Salm ; eto yr oedd ei hyder yn Nuw yn ddisigl. " Oeddwn i lawer megys yn rhyfeddod," meddai; " eithr tydi yw fy nghadarn noddfa." Tydi a'm hachubaist o gyfyngderau blaenorol, ac a droaist " gysgod angeu yn foreu ddydd;" yn dy gysgod y llech- a' eto, a than dy aden yr wyf yn meddwl byw a marw. " Yn nghadernid yr Arglwydd ■Uduw y cerddaf." Nid âf yn mlaen un cam ond fel y perffeithir dy nerth yn fy ngwendid. **ae fy ngwaeledd yn fawr ; ond y mae cad- ernid yr Arglwydd Dduw yn ddigon i fy nal yn ddigwymp hyd y diwedd. " Dy gyfiawn- der di yn unig a gofiaf fi." Dy ffyddlondeb 1 *« addewidion; dy ras mawr a fu yn fy ngwaredu eisoes; dy anghyfnewidioldeb—mi Sofiaf hyn am danat yn nghanol myrdd o elyn- l0n' " Dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi." cyfìawnder a drefnaist—y cyfiawnder a ^«Uhredir dros yr euog gan y Duw-ddyn; nid 0es genyf ddim am fy mywyd ond hyn ; nid es dina ond hyn yn werth ei gofio yn mhob amgylchiad gan bechadur. " O'm hieuenctyd y'm dysgaist, O ÜDUW." Cefais ddyfod i'th ysgol yn ieuanc; dysgaist fi i'th adnahpd di, ac i'm hadnabod fy hun, a chefais aros yn yr ysgol hyd yn hyn. " Hyd yn hyn y.giynegais dy ryfeddodau. Na wrthod fi chwaith, O Dduw, mewn henaint a phenllwydni." Pa gyfyngderau neillduol oedd y rhai yr oedd Dafydd ynddynt y pryd hwn, mae yn an- hawdd penderfynu ; ond gwelwn ei fod mewn henaint. Fe allai mai yn ystod gwrthryfel Absalom y cyfansoddodd y Salm hon, neu yn hytrach ar yr achlysur o wrthryfel Seba, mab Bieri. Pa fodd bynag, nid oedd ganddo ddim i'w wneyd yn ei gyfyngder ond troi yn ostyngedig at Dduw, i ofyn iddo ef am beidio ei roddi i fyny. " Na wrthod fi mewn hen- aint a phenllwydni." Braint annhraethol yw cael troi pan yn ieuanc at Gyfaill na bydd ar- nom eisiau ei newid wedi myned yn hen. Er fod henaint a phenllwydni yn fy ngwneyd yn wan i ddal profedigaethau, mi a wnaf o'r goreu eto, ond i ti beidio fy ngwrthod. Dal h hyd y diwedd, a mi a'th folianaf trwy fy oes, ac a adawaf ar fy ol dystiolaeth dda am danat i'r oesoedd a ddel. " Hyd oni fynegwyf dy nerth i'r genedlaeth hon, a'th gadernid i bob un a ddelo." Yna y mae yn dywedyd, " Dy gyf- iawnder hefyd, O Dduw, sydd uchel, yr hwn