Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf. xlii.] AWST, 1879. [Rhif. 512. Arweiniol. DYLEDSWYDD YR EGLWYS TÜAG AT Y BYD.: Gan y Parch. R. Yaughan Griöìth, Columbus, Ohio. Mae yr eglwys Gristionogol erbyn hyn yn hen sefydliad. Y mae ffrydiau deunaw canrif, a. niwy, wedi ymgolli yn môr mawr tragywydd- °ldeb er pan sylfaenwyd hi. Bechan ac eiddil ydoedd ar y dechreu, a gwael a dirmygus yn ögolwg y byd oedd ei Phen, yn gystal a'i hael- °dau. Yr oedd y nefoedd yn gwenu arni, mae yh wir; ond yr oedd y ddaear yn gwgu, ac Uffern yn ei bygwth. Galilead tlawd oedd ei sylfaenydd; pysgodwyr tlodion, diddysg, a di- ^dylanwad, oedd ei swyddogion ; ac ychydig °oblach pur gyffredin oedd yn gwneyd i fyny ei haelodau. Priodol y cyffelybid hi y pryd twnw i " Ronyn o hâd mwstard, yr hwn sydd leiaf o'r holl hadau ;" ond erbyn hyn ^ae yr hedyn bychan wedi myned yn bren ^awr, ac y mae gwahanol dylwythau y ddae- ar> fel cynifer o adar, yn nythu yn ei gangau. * pryd hwnw, nid oedd ond mymryn o lefain yn nhoes cymdeithas; ond erbyn hyn y mae Wedi lefeinio llawer cenedl, ac wedi eu troi 1 w hansawdd ei hun. Collfernid hi ar y cynt- a* o herwydd ei hieuenctid ; condemnir hi yn awr o herwydd ei henaint Anhawdd yw °°ddhau rhyw fath o ddynion. Y mae yn rhaid i bob sefydliaid fod . naill ai yn hen neu _ * Cyfansoddwyd y Traethawd galluog hwn ar gais î-ymanfa Ohio : darllenwyd ef yn Nghymanfa Pitts- •?Urgh, Pa., Mai 23—25, 1879 ; a chyhoeddir ef ar ddy- ^Uniad unfrydol cynrychiolwyr yr eglwysi ag oeddynt y» bresenol. Credwn y profai darlleniad deallus a Phwyllog 0 hono, gan ryw frawd hyddysg ar lyfr, yn JJlhob eglwys o fewn cylch ein Cyfundeb, yn fendithiol a\vn. Carem yn fawr i'r awgrymiad hwn gael ei syl- Weddoli.—GoL. yn ieuanc. Ni ddylid condemnio peth am eí fod yn hen, ac nid yw pob peth newydd i'w gymeradwyo. Mae yn debyg y caniateir hyn gan y rhai sydd yn beio yr eglwys, ac yn ed- rych arni fel yn " hen ac yn oedranus, ac agos i ddiflanu." Felly yr oedd yr eglwys Iuddew- ig tua'r adeg y sylfaenwyd yr un Gristionogol; oblegid sefydliad rhagbarotoawl, i wasanaethu am dymor cydmarol fyr, ydoedd; ni chynysg- aeddwyd hi ag elfenau cyffredinolrwydd ac anfarwoldeb. Mae y ferch yn rhagori ar y fam yn hyn fel mewn pethau eraill. Yr oedd. cryn lawer o rwysg allanol yn perthyn i'r Hen, Eglwys ; bu yn flodeuog a defnyddiol am law- er oes; atebodd ddyben ei bodolaeth; parotodd y ffordd i'r Eglwys Efengylaidd, yr hon sydd yn Uai rhwysgfawr, ond yn llawer mwy ys . brydol a gogoneddus, Mae yr eglwys yn ffaith, ac yn un o*r ffeith- iau rhyfeddaf mewn bod. Gwnaed llawer ym- osodiad ffyrnig arni; ond y mae yn fyw eto heddyw, a byw fydd hi ar ol i'w gelynion feirw, a phan y bydd eu henwau wedi eu colli mewn bythol ebargofiant. Bu athroniaeth a gallu milwrol Rhufain Baganaidd yn ymosod arni am amser maith. Daroganid ei marwol- aeth mor foreu ag amser Awstin ; ac yr oedd llaweroedd yn nyddiau Voltaire, Hume, a Frederick II. yn dysgwyl iddi drengu ; ond wele, byw ydyw eto heddyw. Y mae mor iach a heinyf yn awr ag y bu erioed, ac yn fwy felly—mae ei phlant yn lluosocach, cylch