Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Cyf. xlii.] MEDI, 1879. [Rhif. 513. Arweiniol. Y MAB YN EGLURO Y TAD. Gan y Parch. H. P. Howell, Milwaukee, Wis, " Ni welodd neb Dduw erioed : yr unig-anedig Fab, yr hwn sydd yn mynwes y Tad, hwnw a'i hysbysodd ef." ~-IoAn 1: 18. " No man hath seen God at any time ; the only begotten Son, which is in the bosom ot the Father, he hath declared him."—John i : 18. O bob dirgelwch, y mwyaf i ddyn yw-Duw. Am Dduw y mae ymchwiliad dyfnaf natur dyn. Dyma syched penaf pob cenedl, a dymuniad cryfaf'pob oes. Ond er ei holl syched am dano, ^c er ei awydd cryf i'w chwilio allan, gellir gofyn yn ngeiriau Job, " A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw ? a elli di gael yr Holl- Alluog hyd berffeithrwydd ? Cyfuwch a'r ^efoedd ydyw, beth a wnei di ? dyfnach nag Uffern yw, beth a elli di ei wybod ? Mae ei fesur ef yn hwy na'r ddaear, ac yn lletach na'r ttiôr." Gan fod cymaint o fawredd yn perthyn iddo, nid rhyfedd fod dyn yn methu cael gaf- ael arno ; a chan fod cymaint yn ymddibynu ar ei adnabod, nid rhyfedd fod y fath chwilio am dano. Pe byddai genym interest mawr mewn rhyw "Wlad ddyeithr, bellenig ac anadnabyddus i ni, diamheu y teimlem awydd mawr a phryder dwfn am wybod pob peth ag sydd yn bosibl ei wybod am dani. A phe dygwyddai i ni glyw- ed am ryw un yn dyfod oddi yno, yr hwn a wyddai yn dda am dani, oni fyddem yn aw- yddus iawn i'w adnabod, a chael pob gwybod- *eth oedd yn angenrheidiol am dani ganddo ? Gan fod i ni interest mawr yn y byd ysbrydol, gan fod ein holl obeithion yno, a chan fod syl- Weddau ein dysgwyliadau penaf yn gorwedd yno, mor naturiol yw i'n syched fod yn ang- erddol am wybod pob peth yn ei gylch. Pe dygwyddai rhyw ymwelydd â'n byd ni ddyfod o'r byd dyeithr ac anweledig hwnw, oni theim- lem awydd i'w adnabod, a gwrando arno yn hysbysu am dano ? Wel, un felly yw Iesu Grist. Ymwelodd â'n byd ni o'r byd anwel- edig i'r unig ddyben i'w egluro i ddynion. Daeth yma yn nghyfiawnder yr amser, pan oedd mwyaf o ddysgwyl am dano gan Iuddew- on a chenedloedd. Yr oedd ar ei ben ei hun yn null ac amcan ei ddyfodiad. Amcan pen- af ei ddyfodiad oedd egluro tragywyddoldeb drwy ddwyn " bywyd ac anllygredigaeth " i oleuni, a hysbysu am Dduw, drwy ei egluro yn ei efengyl, a'i amlygu yn ei gariad, wrth fyw a marw. Baich Efengyl loan yw hanes y Mab yn yn amlygu y Tad. Egyr Ioan ei Efengyl gyda'r meddylddrych rhyfedd hwn, trwy alw Iesu Grist, " Y Gair "— y " Logos " tra- gywyddol. Fel mai hanfod gair mewn iaith yw cyfrwng meddwl, felly hanfod y Mab, yn ei berson a'i waith, yw hysbysu y Tad. Y mae meddwl yn ddirgelwch i bawb ond i'r dyn ei hun, nes iddo ei amlygu trwy air neu eir- iau, unig gyfrwng meddwl. Ac yr oedd Duw yn ddirgelwch i bawb ond iddo ei hun, nes