Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. CYF. LIX.] CHWEFROR, 1896. [RHIF. 702. DLW YN DATGUDDIO EI HüN. GAN Y PARCH. R. T. ROBERTS, M. A., RACINE. WIS. " Canys wrtli ddyíod heibio, ae edrych ar eich asid, I'r Duw nid adwaenir. Yr hwn gan hyny yr fynegii chwi."—Actatt xvii. 23. Yn hanes Paul yn Corinth, cawn Gristionogaetb mewn cyffyrddiad neill- duol â difyrwch, moeth a chuawdol- rwydd: yn ei hanes yn Ephesus, cawn Gristionogaeth mewn cyffyrddiad neill- duol ag eilunaddoliaeth: yu ei hanes o flaen Ff*lix,cawn Gristionogaeth mewn cyffyrddiad neillduol â chalon a bywyd wedi suddo yn ddwfn mewn llygredig- aeth; ac yn ei hanes yn Athen, cawn Gristionogaeth mewo cyffyrddiad neill- duol â phaganiaeth yn y ffurf uwchaf oedd iddo y pryd hwnw. Yüoedd y meddwl Groegaidd yn grail'- us a diwylliedig. Yr oedd wedi rhoddi sylw manwl i gwestiynau mewn phi- losophi, moeseg a chrefydd. Aeth yn bellach i'r maesydd hyn na'r un dos- barth arall o feddylwyr ag y gwyddom ni am danynt, gan fyned mor bell yn y cyí'eiriadau hyn ag oedd yn bosibl idd- ynt heb gynorthwy datguddiad. 1 Ar ol dyfodiad Paul i Athen, deall- odd y bobl ddysgedig oedd yno fod ganddo ef rbyw ddysg newydd—rhyw- beth oedd yn wahanol i ddim a giyw- sant hwy. Y maent yn ei ddwyn i Areopagus, gan ofyn, A allwn ni gael gwybod beth yw y ddysg newydd hon a draethir genyt ? Dyddorol ydyw sylwi ar atebiad Paul, ag a oedd yn newydd i feddwl diwylliedig y Groegiaid am Dduw a'i lywodraeth, ac amodau ei ffafr. Beth oedd gan Paul, Apostol Iesu Grist, a chynrychiolydd Cristion- ogaeth, i'w ddweyd ar fryn Mars, wrth defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifen- yclych chwi heb ei adnabod, hwnw yr wj'f ü yn ei y bobl, yn mysg pa rai y bu Plato ac Aristotle, a Socrates a Zeno, a Pythag- oras yn byw ? Wrth sylwi ary bregeth hynod adra- ddododd Paul ar yr achlysur dyddorol hwn, yr ydym yn gweled iddo roddi pwys ar yr athrawiaeth fod Duw yn ad- waenadwy. Yr oedd y Groegiaid byn yn credu fod Duw yn bod. Yr oedd amlder eu hallorau, a'u hymroddiad i ddefosiynau crefyddol, yn brawf o hyn. Ond ymddengys fod yno rai yn meddu ar ryw fath o grediniaeth am ry w dduw oedd heb fod yn adwaenadwy; o'r hyn lleiaf, nid oeddynt hwy yn ei adwaen. Yr hyn a roddodd achlysur i'r Apos- tol i draddodi y bregeth hynod yn Areo- pagus oedd, yr allor ar yr hon yr oedd y geiriau hyn yn ysgrifenedig arni, "I'r Duw nid adwaenir.'' Y mae gwaith yr Apostol yn cymeryd yr ysgrifen hon yn destyn yn awgrymu ei fod ef yn ystyr- ied ei fod yn beth pwysig i ni, nid yn unig i gredu fod Duw yn bod, ond i gredu hefyd fod y Duw hwnw yn ad- waenadwy. "Yr Hwn, gan hyny, yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei add- oli; hwnw yr wyf fì yn ei fynegi i chwi." Yn ol hyn, gallem feddwl mai y wedd beryglaf ar baganiaeth oedd, nid eilun- addoliaeth—yr oedd hyny yn ddiradd- iol—ond addoli gwrthddrych nad oedd- ynt yn ei adnabod; yr oedd hyny yn afresymol. Am byn, tybiwyf, yr aeth yr Apostol heibio i'r allorau a gyfod- asid i'r eilunod at yr allor, ar yr hon yr