Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

210 Y CYFAILL. yn dawelog a dihymongar, y mae yn ddyddan ifpro yn ei gwmni. Mae yn hynod ddiabsen, a phob amser yn meddwl y goreu o bawb. Ar gyfrif y llu o rinweddau a berthyn i'w gymeriad fel dyn a Christion, y mae yn gymeriad gwerthfawr a dymunol iawn. Ond fel arweinydd caniadaeth gysegr- edig yr hynodwyd ef fwyaf yn ystod ei oes faith. Llais tenor sydd ganddo; a phan yn canu deuawd, byddai bob amser yn canu first tenor. Pan oedd ef tua 15 mlwydd oed arferai ei ewyrth, Mr. Richard Roberts, Tyddyn Ellen, gadw ysgol ganu yn capel Llanrug i'r dyben o ddysgu egwyddorion cerddor- iaeth. Yr oedd Richard Roberts yn gerddor gwych; efe oedd athraw "Cor yr Aelwyd,' Bethesda, ac er ei fod yn byw y pryd hwnw gan mwyaf yn Bethesda, byddai yn dyfod i Llanrug prydnawn Sadwrn i gadw ysgol ganu, ac yn aros yno dros y Sul. Yr oedd tuedd naturiol yn ei nai, W. J. Jonès, at ganu, ac fe ddarfu i'r ysgolion canu godi awydd cryf ynddo am ddysgu egwyddor- ion cerddoriaeth. Astudiodd lawer ar Ramadeg Cerdorol John Mills. Pan tua 24ain oed ymunodd a brass band perthynol i Club Cleifion Llanrug. Perthynai hefyd i gor capel Llanrug am yr yspaid o 10 mlynedd, arweinwyr yr hwn oedd Mri. Ellis Roberts, Erw- fforch, a Griffith Owen, Penygrenor, Llanrug; yr olaf yn dad i Eryr Eryri. Am fod cryn lawer o undeb rhwng yr eglwys a'r capel yn Llanrug yn y cyf- nod hwn, byddai W. J. Jones ac eraill yn canu yn cor yr eglwys bob boreu Sabboth. Er mai rhyw dri mis gafodd o ysgol elfenol yn Nghymru, cafodd lawer o fanteision crefyddol a cherdd- orol, yr hyn fu yn gymwysder mawr iddo wedi ei ddyfodiad i'r wlad hon. Mor fuan. ag yr ymefydlodd yn Dodge- ville yn 1848, bu raid iddo gymeryd arweiniad y canu. Ymunodd hefyd a chor y cerddor gwych, William Roberts, Plas Gwyn, neu fel yr adnabyddid ef yn Nghymru, William Roberts, Rhiwlais. Wedi ei ddyfodiad o Dodgeville i ardal Bethel, yn 1851, bu raid iddo gymeryd arweiniad y canu yno; a pharhaodd yn y swydd hyd nes y symudodd i dref Columbus yn 1882. Anhawdd cael neb mwy didramgwydd a chymeradwy i arwain canu cynulleidfaol nag ef. Cyflwynodd eglwys Bethel amrai an- rhegion iddo o dro i dro fel arddangos- iad o'u parch iddo, a'u hedmygiad o hono, a'u gwerthfawrogiad o'i lafur; ac yn mhlith eraill yr oedd copi o "Welsh Melodies;" copi o "Telyn yr Undeb," wedi ei rhwymo yn hardd; swm da o arian, &c. Ar ddalen gyntaf un o'r llyfrau yr anrhegwyd ef ceir a ganlyn: "Anrheg fach fel cydnabyddiaeth o barch amryw gyfeillion cerddorol capel Bethel i W. J. Jones am ei ymdrech yn blaenori y gan trwy lawer o anhaws- derau am flynyddoedd, gyda'r dymun- iadau goreu iddo gael gras i barhau yr un mor ffyddlon rhag llaw:" "Na'm blysia gwilia os gweli—mae'n ammarch, I mherchen fy ngholli, Os na'm cyll o fusgrellni Cyd a'i oes y ceidw fi." Wedi ei Jdyfodiad i eglwys y dref bu yn ffyddlon iawn gyda chaniadaeth y cysegr. Wedi marwolaeth Mr. Robert Griffiths efe ddewisodd yr eglwys i arwain y canu, yr hyn a wnaeth yn ffyddlawn a diymhongar. Bu yn gefn- ogol i bob mudiaJ i wella caniadaeth y cysegr ar hyd ei oes. Llawenha yn fawr yn llwyddiant pawb, yn arbenig ieuenc- tyd, yn eu hymdrech i ddysgu darllen cerddoriaeth er gwneyd eu hunain yn ddefnyJdiol yn ngwasanaeth Duw, a rhoddodd bob cefnogaeth iddynt. Yn ystod y tair blynedd diweddaf, y mae wedì cael cryn lawer o waeledd a gwendid. Dymunwn iddo lawer o flyn- yddoedd o hoenusrwydd iechyd, a llawenydd a thawelwch meddwl ac ysbryd yn ei henaint a'i lesgedd. Y Duw a'i cynhaliodd ef hyd yma a fyddo gydag ef hyd y diwedd.